Mae Paul Mullin wedi’i enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn y Gynghrair Genedlaethol.

Mae’n un o dri chwaraewr Wrecsam yn y tîm, ynghyd â Jordan Davies ac Aaron Hayden.

Sgoriodd Mullin fwy o goliau na neb arall yn y gynghrair (26), a 30 o goliau ar draws yr holl gystadlaethau.

Daw hyn ar ôl i Wrecsam golli allan ar ddyrchafiad yn y gemau ail gyfle.

Clybiau’r Gynghrair Genedlaethol sy’n pleidleisio er mwyn dewis tîm gorau’r tymor.

Yn cwblhau’r tîm mae Ash Palmer a Paddy Madden (Stockport), Ruben Rodrigues a Jayden Richardson (Notts County), Kabongo Tshimanga (Chesterfield), Harry Boyes a Joe Sbarra (Solihull Moors), a Sam Johnson (Halifax).