Mae cryn dipyn yn y fantol i’r ddau dîm pêl-droed heddiw (dydd Sul, Mehefin 5), wrth i Gymru herio Wcráin am le yng Nghwpan y Byd yn Qatar yn ddiweddarach eleni.

Mae’r chwaraewyr a’r rheolwyr wedi bod yn lleisio barn am yr ornest fawr ond am 5 o’r gloch, fydd dim rhagor o siarad a’r unig beth fydd yn bwysig yw’r canlyniad ar y cae.

Dydy Cymru ddim wedi cyrraedd Cwpan y Byd ers 1958, gan fynd allan o’r gystadleuaeth honno diolch i Pélé ifanc iawn.

Daw’r achlysur mawr i Wcráin wrth i’w gwlad barhau i gael ei dinistrio yn sgil ymosodiadau Vladimir Putin a Rwsia arnyn nhw.

Dyma’r hyn oedd gan rai o’r chwaraewyr a’r rheolwyr i’w ddweud cyn y gêm fawr.

Gareth Bale

Gareth Bale
Gareth Bale

Yn ystod cynhadledd dros Zoom, eglurodd Gareth Bale, capten Cymru, nad oedd modd iddo fe sbario dwy awr i fynd o’r gwesty i Stadiwm Dinas Caerdydd oherwydd ei ymrwymiad i’w gynllun paratoi unigol cyn y gêm fawr.

A thros Zoom, doedd e ddim yn awyddus i drafod ei ddyfodol ar ôl gadael Real Madrid.

“Fel dw i wedi’i ddweud o’r blaen, dw i ddim yn canolbwyntio ar yr hyn sydd i ddod yn y dyfodol,” meddai.

“Mae gyda ni gêm enfawr dw i’n canolbwyntio arni, does gwir ddim angen i fi feddwl na phoeni am unrhyw beth arall. Does gen i ddim pryderon eraill.”

Dim ond 20 munud mae e wedi’i gael ar y cae ers mis Mawrth, pan sgoriodd e’r ddwy gôl yn y fuddugoliaeth o 2-1 dros Awstria, ond dywedodd nad oes ganddo fe bryderon am ei ffitrwydd ar hyn o bryd.

“Pan ydyn ni’n cael y gynhadledd i’r wasg yn y Vale, mae’n gyfleus, galla i wneud fy mhethau a pharatoi ar gyfer y gêm ond dydy gorfod cymryd dwy awr allan o’m diwrnod i fynd i’r stadiwm ddim cweit yn gweithio.”

Rob Page

Rob Page

Yn ôl Rob Page, rheolwr Cymru, byddan nhw’n trin y gêm hon fel unrhyw gêm arall.

“Dydy’r paratoadau ddim yn wahanol i unrhyw gêm arall; rydyn ni’n deall ei phwysigrwydd ond mae gyda ni gynllun yn ei le ac mae’n fater o ymddiried yn y cynllun nawr,” meddai.

“Dangoson ni yn erbyn Gwlad Pwyl ein bod ni’n sicr yn gallu cystadlu yn erbyn y timau mawr nawr.

“Mae’n beth enfawr i’n gwlad ni. Rydyn ni wedi rhoi cyfle anhygoel i ni’n hunain, ac mae gyda ni grŵp gwych o chwaraewyr.

“Dw i tu hwnt i fod wedi cyffroi.”

Connor Roberts

Connor Roberts
Connor Roberts

Yr un math o neges oedd gan Connor Roberts, cefnwr Cymru.

“I fi, mae’r cyffro a’r cyfle i gyrraedd Cwpan y Byd gyda Chymru’n rhywbeth sy’n fy ngyrru i i wneud popeth alla i,” meddai.

“Gobeithio y bydda i’n gwenu ar ddiwedd y gêm.

“I fi’n bersonol, jyst gêm arall yw hon.

“Ers i fi ddechrau chwarae pêl-droed a chwarae mewn gemau cyntaf, i Abertawe neu i Burnley, dw i bob amser yn dweud wrthyf fi fy hun, “Gêm arall o bêl-droed yw hon, dyma gest ti dy roi yma i’w wneud”.”

Ben Davies

Ben Davies

Dywed Ben Davies, un arall o amddiffynwyr Cymru, bod Cymru wedi bod yn breuddwydio am yr eiliad hon ers 50 i 60 mlynedd.

“Mae’n freuddwyd i’n tîm ac rydym wedi rhoi ein hunain mewn sefyllfa lle rydym un gêm i ffwrdd, a bydd y ffocws i ni ar hynny yn unig,” meddai.

Oleksandr Petrakov, rheolwr Wcráin

Does dim amheuaeth fod y geiriau mwyaf ingol yr wythnos hon wedi dod o enau Oleksandr Petrakov, rheolwr Wcráin.

Er cymaint mae pawb yn pwysleisio na fydd cyd-destun ehangach y rhyfel yn y wlad yn pwyso’n drwm ar feddyliau’r chwaraewyr, fe ddangosodd Petrakov fod y milwyr yn eu mamwlad yn sicr yn eu meddyliau yr wythnos hon.

“Ysgrifennodd ein tîm ni at filwyr a derbyn baner o’r rhyfel, y gwnaethon nhw addo ei hongian yn yr ystafell newid,” meddai dan deimlad.

“Mae hi’n sefyllfa anodd iawn yn Wcráin ac nid pawb sy’n gallu gwylio pêl-droed oherwydd y sefyllfa, ond byddwn ni’n ceisio canolbwyntio a chwarae’n dda.”

Chwarae’r gêm, ac nid yr achlysur, fydd neges Rob Page i chwaraewyr Cymru

Alun Rhys Chivers

Clywed ‘Yma O Hyd’ fydd un o’r uchafbwyntiau i Connor Roberts wrth i Gymru geisio cyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958