Chwarae’r gêm ac nid yr achlysur fydd neges y rheolwr Rob Page i dîm pêl-droed Cymru cyn eu gornest fawr yn erbyn Wcráin yn Stadiwm Dinas Caerdydd fory (dydd Sul, Mehefin 5).
Dydy Cymru ddim wedi cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd ers 1958, pan oedd rheolwr arall o Gwm Rhondda, Jimmy Murphy, wrth y llyw ac mae Page, sy’n hanu o Lwynypia yn sylweddoli arwyddocâd hynny.
Ac mae’n bosib mai Qatar yn ddiweddarach eleni fydd cyfle olaf Gareth Bale ac Aaron Ramsey i gyrraedd rowndiau terfynol cystadleuaeth fwya’r byd ac felly mae hi’n addo bod yn dipyn o achlysur i’r chwaraewyr, y rheolwyr a’r dorf, gyda ffoaduriaid o Wcráin hefyd wedi cael cynnig cyfran o’r tocynnau.
“Rydyn ni i gyd wedi cyffroi,” meddai Rob Page.
“Ond yr un peth ag arfer. Gallwn ni reoli ein hamgylchfyd ni yn unig, rydyn ni’n cydymdeimlo, dw innau’n dad hefyd, dw i wedi gweld y newyddion a’r hyn sy’n digwydd, mae’n ofnadwy.
“Ond rydyn ni wedi bod yn canolbwyntio ar y gêm hon.
“O ran yr awyrgylch ar y cae ymarfer, gallwch chi weld sut grŵp ydyn nhw.
“Dydy’r paratoadau ddim yn wahanol i unrhyw gêm arall; rydyn ni’n deall ei phwysigrwydd ond mae gyda ni gynllun yn ei le ac mae’n fater o ymddiried yn y cynllun nawr.
“Dangoson ni yn erbyn Gwlad Pwyl ein bod ni’n sicr yn gallu cystadlu yn erbyn y timau mawr nawr.
“Mae’n beth enfawr i’n gwlad ni. Rydyn ni wedi rhoi cyfle anhygoel i ni’n hunain, ac mae gyda ni grŵp gwych o chwaraewyr.
“Dw i tu hwnt i fod wedi cyffroi.”
Cyffro
Un arall sydd wedi cyffroi yw Connor Roberts, sydd eisoes wedi ennill 35 o gapiau dros ei wlad ac sy’n llygadu llawer iawn mwy yn ogystal â’i gapiau cyntaf yng Nghwpan y Byd.
Ar drothwy’r gêm fawr, mae’n cyfaddef fod yna “nerfau” ond mae’n dweud bod hynny’n “gwbl naturiol”.
“Mae’n debygol fod gan bob un yn y garfan y teimlad hwnnw,” meddai.
“I fi, mae’r cyffro a’r cyfle i gyrraedd Cwpan y Byd gyda Chymru’n rhywbeth sy’n fy ngyrru i i wneud popeth alla i.
“Gobeithio y bydda i’n gwenu ar ddiwedd y gêm.
“I fi’n bersonol, jyst gêm arall yw hon.
“Ers i fi ddechrau chwarae pêl-droed a chwarae mewn gemau cyntaf, i Abertawe neu i Burnley, dw i bob amser yn dweud wrthyf fi fy hun, “Gêm arall o bêl-droed yw hon, dyma gest ti dy roi yma i’w wneud”.
Yma O Hyd
Cyn y gêm fawr, bydd Dafydd Iwan yn diddanu’r dorf gydag ‘Yma O Hyd’ unwaith eto, a’r gân anthemig wedi’i hail-greu yr wythnos hon gan Sage Todz.
Mae Connor Roberts yn dweud ei fod e’n edrych ymlaen yn fawr at ei chlywed yn atseinio yn Stadiwm Dinas Caerdydd unwaith eto.
“Roedd hi bob amser yn anthem i fi yn Abertawe,” meddai.
“Pan ddes i yma [i garfan Cymru], mae hi dipyn yn fwy eto.
“Canodd [Dafydd Iwan] allan yno yn erbyn Awstria. Dw i wedi siomi ychydig bach na chawson ni fynd allan i’w chlywed hi.”
Gyda chryn edrych ymlaen yn y dorf, does gan Connor Roberts ddim neges i’r Wal Goch, gan ddweud nad oes angen unrhyw anogaeth arnyn nhw.
Ond mae’n dweud y bydd pob un yn gwisgo’u het “ac yn rhoi popeth i ni”.