Mae murluniau graffiti o sêr pêl-droed Cymru wedi ymddangos ledled y wlad yr wythnos hon, ar drothwy gêm bêl-droed Cymru yn erbyn Wcráin ddydd Sul (Mehefin 5).

Gyda’r tîm cenedlaethol yn paratoi ar gyfer rownd derfynol gemau ail gyfle Cwpan y Byd,mae portreadau graffiti o’r chwaraewyr a’r rheolwyr wedi’u creu y tu allan i’w hen ysgolion.

Mae deuddeg portread coch wedi’u paentio i gyd, gan gynnwys un o’r capten Gareth Bale y tu allan i Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd, Aaron Ramsey y tu allan i Ysgol Cwm Rhymni yn y Coed Duon, Joe Allen yn Ysgol y Preseli yng Nghrymych, a’r rheolwr Rob Page y tu allan i’w hen ysgol sef  Ysgol Gymuned Ferndale yng Nghwm Rhondda.

Mae dau o’r portreadau hefyd wedi’u paentio dros y ffin, y tu allan i King Edward VI Community College yn Totnes, Dyfnaint, ac Ysgol Uwchradd South Hunsley yn Hull, sef hen ysgolion Kieffer Moore a Dan James.

Cafodd y portreadau eu comisiynu gan S4C, sydd yn dangos pob un o bedair gêm y tîm yng Nghynghrair y Cenhedloedd UEFA ym mis Mehefin, yn ogystal â rownd derfynol y gemau ail gyfle.

Mae S4C yn annog cefnogwyr i dynnu eu lluniau gyda’r graffiti, gan ddefnyddio’r hashnod #YLlawrCoch – Y Llawr Coch.

Dechreuodd pythefnos enfawr o bêl-droed rhyngwladol ar S4C nos Fercher (Mehefin 1) gyda darllediadau o Wlad Pwyl v Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd UEFA.

Bydd S4C yn troi’n goch ar ddydd Sul (Mehefin 5) hefyd, wrth i ni ddarlledu Ffeinal Gemau Ail-gyfle Cwpan y Byd, am 4.15yh.

Murluniau a lleoliadau

Aaron Ramsey – Ysgol Gyfun Cwm Rhymni

Ben Davies – Ysgol Gyfun Ystalyfera

Connor Roberts –  Ysgol Gyfun Cymunedol Llangatwg

Dan James – South Hunsley High School

Danny Ward – Ysgol Uwchradd Penarlâg

Gareth Bale – Ysgol Uwchradd Yr Eglwys Newydd

Harry Wilson –  Ysgol Dinas Brân

Joe Allen – Ysgol Y Preseli

Joe Rodon – Pontarddulais Comprehensive School

Kieffer Moore – King Edward VI Community College

Neco Williams – Ysgol Rhiwabon

Rob Page – Ysgol Gymuned Ferndale