Mae Peniarth, sy’n rhan o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, wedi cyhoeddi cyfres o lyfrau newydd arloesol i blant sy’n cynnwys teuluoedd o’r un rhyw.
Cafodd Peniarth ei sefydlu yn 2009 fel adain gyhoeddi adnoddau i’r Brifysgol.
Erbyn heddiw, mae’r Ganolfan wedi datblygu i fod yn un o brif gyhoeddwyr llyfrau ac adnoddau addysg Cymraeg a dwyieithog yng Nghymru.
Cyfieithiadau Elin Haf a Mari Siôn o lyfrau’r awdur Sbaeneg Lawrence Schimel ac Elīna Brasliņa o Latfia yw ‘Yn gynnar yn y bore’ a ‘Dim Chwarae, Mot!’.
Cafodd y llyfrau hyn eu hysgrifennu’n wreiddiol gan Lawrence Schimel fel ymateb i’r galw cynyddol i ehangu’r farchnad lyfrau i gynnwys straeon yn cynnwys teuluoedd o gefndiroedd LHDT+.
“Mae llyfrau plant eraill sy’n portreadu bywydau LHDT, ond maent fel arfer yn ymwneud â bod yn wahanol neu oresgyn homoffobia,” meddai Lawrence Schimel.
“Roedd Elina a minnau’n teimlo bod angen mwy o lyfrau sy’n dathlu llawenydd bod yn hoyw, ac yn cynnwys straeon hwyliog a oedd yn digwydd mewn teuluoedd o’r un rhyw.”
Erbyn hyn mae’r llyfrau wedi cael eu hargraffu mewn dros 30 o wledydd ac ieithoedd gan gynnwys nawr, yng Nghymru yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Fersiynau dwyieithog Cymreig
“Ar ôl sgwrsio gyda Lawrence, roeddwn i’n ysu am greu fersiynau dwyieithog Cymreig o’r llyfrau,” meddai Elina.
“Roeddwn i’n hoffi symlrwydd y stori, pa mor gyfarwydd fyddai’r storïau, y domestig, yr arferol, bywyd bob dydd.
“Fel rhiant sydd mewn partneriaeth sifil, ac erbyn hyn mae’r ifancaf o’r tri yn 18 oed, doedd dim byd fel hyn yn Gymraeg pan roedd fy mhlant i yn fach.”
Y fersiynau Cymraeg a Saesneg yma ydy’r cyntaf i ddefnyddio ‘Mam a Mami/ Dad a Dadi’, ac erbyn hyn mae ieithoedd eraill wedi mabwysiadu’r termau.
Wrth i’r llyfrau gael eu cyhoeddi, dymuniad Elin a Mari oedd gweld y llyfrau yma’n cyrraedd ysgolion Cymru, a gweld y cymeriadau yn dod yn fyw gyda’r athrawon a’r plant yn eu mwynhau.
Ac felly heddiw, mae Peniarth yn falch iawn o gyhoeddi cynllun mewn partneriaeth â Stonewall Cymru drwy nawdd Llywodraeth Cymru i sicrhau y bydd pob ysgol gynradd yng Nghymru yn derbyn un llyfr am ddim.
Ymateb Peniarth
“Mae hi wir yn fraint i ni gyhoeddi’r llyfrau yma i’r plant lleiaf yn y Gymraeg ac yn y Saesneg,” meddai Dr Lowri Lloyd o Peniarth.
“Maen nhw’n llyfrau syml, hwyliog a diddorol sy’n cynnwys rhieni o’r un rhyw yn rhan naturiol o’r stori.
“Ein gobaith yw y bydd rhieni, ysgolion ac unrhyw un sy’n ymwneud â phlant bach yn eu defnyddio i roi mynediad i blant o bob cefndir at straeon sy’n adlewyrchu amrywiaeth ein cymdeithas ni heddiw.
“Mae gallu dosbarthu un copi am ddim i bob ysgol gynradd yng Nghymru yn sicr yn gam sylweddol tuag at wireddu hyn.”
Ymateb Stonewall Cymru a’r Senedd
“Mae sicrhau bod teuluoedd LHDTC+ yn cael eu cynrychioli yn ein llenyddiaeth a’n diwylliant yn hollbwysig, yn enwedig mewn llenyddiaeth i blant a phobol ifanc a llenyddiaeth Gymraeg,” meddai Iestyn Wyn o Stonewall Cymru.
“Dim ond drwy adlewyrchu’r Gymru gyfoes yn ein llenyddiaeth y gallwn gymryd camau ymlaen i ddadwneud y degawdau o ddiffyg cynrychiolaeth mae pobl LHDTC+ wedi’u profi.
“Rydyn ni’n gyffrous iawn felly i allu cydweithio gyda Pheniarth i ddosbarthu copi am ddim i bob ysgol o’r llyfrau arbennig yma.”
Mae Hannah Blythyn, Dirprwy Weinidog ar gyfer Partneriaethau Cymdeithasol, wedi croesawu’r prosiect.
“Mae’n wych bod gan ystafelloedd dosbarth yng Nghymru fynediad at lenyddiaeth ddwyieithog a chynhwysol sy’n adlewyrchu amrywiaeth Cymru,” meddai.
“Mae hyn yn cyd-fynd â’n hymrwymiad yn y Cynllun Gweithredu LHDTC+ i hyrwyddo adnoddau i helpu teuluoedd ac athrawon ledled y wlad.”