Mae caniatáu mynediad am ddim i faes yr Eisteddfod eleni wedi bod yn “llwyddiant anferth”, yn ôl Llywydd yr Urdd.
Yn ôl Mared Edwards, mae’r Maes wedi bod yn brysur bob dydd, ac mae sicrhau mynediad am ddim i bawb wedi denu ymwelwyr.
“Mae hi wedi bod yn wythnos rili da, rydyn ni wedi cael ychydig law, ychydig o wynt, ychydig o haul, bob dim heblaw eira hyd yma, ond dydy’r tywydd heb gadw neb draw ac mae pawb dal wedi troi fyny i’r Eisteddfod,” meddai Mared Edwards, a ddaeth yn Llywydd ddechrau 2021, wrth golwg360.
“Mae hi wedi bod yn brysur yma bob dydd, mae’r ffaith bod mynediad wedi bod am ddim wedi bod yn llwyddiant anferth flwyddyn yma.
“Alla’i ddim coelio bod hi’n dod i ben.
“Dw i wedi cael wythnos brysur. Hon ydy’r Eisteddfod gyntaf wyneb yn wyneb fi fel Llywydd. Dw i wedi cael y cyfle i arwain am y tro cyntaf erioed, cyfweld, cael fy nghyfweld am wahanol resymau.
“Dw i’n mwynhau, mae hi’n braf bod yn ôl ar y Maes a chael gweld pobol unwaith eto.
“Roeddwn i mor nerfus i arwain cyn gwneud, ond unwaith roeddwn i ar y llwyfan fe wnes i rili enjoio. Fe wnaeth y gynulleidfa arwain fi drwyddo fo.
“I fi, arwain yn y pafiliwn [oedd yr uchafbwynt], a hefyd cael cyfweld Non Parry o Eden – pwy fysa ddim yn mwynhau hynny!”
Cyfleoedd rhyngwladol
Mae’r Urdd wedi cyhoeddi y bydd tri o enillwyr yr Eisteddfod yn cael eu gwahodd i berfformio fel gwesteion arbennig yng Ngŵyl Gogledd America, a fydd yn cael ei chynnal yn Philadelphia fis Medi.
Cafodd yr ŵyl ei chynnal am y tro cyntaf yn 1929, yr un flwyddyn â’r Eisteddfod yr Urdd gyntaf. Y flwyddyn honno teithiodd 4,000 o bobol i Niagra Falls ar gyfer y Gymanfa Ganu Genedlaethol i Gymry America.
Caiff yr ŵyl bedwar diwrnod ei chynnal bob mis Medi mewn gwahanol leoliadau, naill ai yn yr Unol Daleithiau neu yng Nghanada gan ddathlu bywyd, treftadaeth a diwylliant Cymru.
Daw’r cyfle unigryw o ganlyniad i gymynrodd i’r Urdd gan y diweddar Dr John M. Thomas, Cymro oedd yn byw yn Florida.
“Maen nhw wedi cyhoeddi heddiw y bydd yna griw yn mynd allan i Philadelphia. Dw i fy hun wedi cael bod yn Alabama ac i Oslo efo’r Neges Heddwch, a chyn hynny dw i wedi bod i Batagonia, Ffrainc, yr Eidal,” meddai Mared Edwards.
“Yn bendant, mae’r Urdd yn helpu hyder rywun ac maen nhw’n rhoi cyfleoedd amhrisiadwy i bobol ifanc.”
Bydd enwau’r tri fydd yn cael gwahoddiad i’r ŵyl yn cael eu cyhoeddi fory (Mehefin 4).