Twm Ebbsworth o Lanwnnen yng Ngheredigion yw Prif Lenor Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022.

Cafodd enw enillydd y Goron ei gyhoeddi mewn seremoni i’w goroni ar Lwyfan y Cyfrwy ar y Maes.

Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Osian Wynn Davies o Lanfairpwll, Ynys Môn (ac enillydd y Fedal Ddrama eleni) ac Elain Roberts o Geinewydd, Ceredigion ddaeth yn drydydd.

Y dasg eleni oedd ysgrifennu darn neu ddarnau o ryddiaith dros 2,500 o eiriau ar y thema Llen/Llenni.

Daeth saith ymgais i law gyda’r beirniad, Sian Northey a Gwenno Mair Davies, “wir yn mwynhau darllen pob un ohonynt.”

“Roeddem yn hollol gytûn bod y wobr gyntaf, a Choron Eisteddfod Dinbych, yn mynd i Pysgodyn Aur – llenor aeddfed a chrefftus wnaeth ein tywys ar daith wallgof a gwahanol,” meddai Sian Northey.

“Roedd hwn yn ddarn gwahanol iawn yn llawn hiwmor tywyll a swreal a apeliodd yn fawr at y ddwy ohonom o’r darlleniad cyntaf. Llongyfarchiadau mawr.

“Roedd y safon yr holl gystadleuaeth yn plesio, dyna pam roeddwn i’n pwysleisio bod pawb, nid jyst y tri ddaeth i’r brig, yn sgrifennwyr ac mae eisiau iddyn nhw gario ymlaen i sgrifennu. Plîs daliwch ati.”

Fe wnaeth gwaith Twm ddenu sylw Siân Northey a Gwenno Mair Davies ar unwaith.

“Roedden ni’n amlwg yn darllen y gwaith yma ar wahân, ond fe wnaeth yr un un gwaith dynnu sylw’r ddwy ohonom ni, a doedd gennym ni ddim dwywaith mai Pysgodyn Aur fyddai Prif Lenor yr Eisteddfod,” meddai Gwenno Mair Davies wrth golwg360.

“Roedd ei waith yn drawiadol iawn, o ran ei fod yn annisgwyl. Ychydig iawn o lenorion ifanc, efallai, sy’n mentro i ysgrifennu llenyddiaeth ysgafnach ei naws.

“Dw i’n dweud ysgafn, ond roedd o’n gomedi tywyll iawn ei naws, ond roedd o’n gynnil iawn y ffordd roedd o’n mynd ati i sgrifennu. Fe wnaeth o dynnu sylw a hoelio sylw ni’n dwy.”

Y Goron a’r enillydd

Coron Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022

Mae Twm yn derbyn coron hardd wedi’i chreu gan y cerflunydd Ann Catrin, a’i rhoi gan Gymdeithas Gymraeg Dinbych.

Fe ddaw o bentref Llanwnnen, ger Llanbedr Pont Steffan yng Ngheredigion.

Mae ar fin cwblhau cwrs ôl-radd yn Adran y Gymraeg Aberystwyth.

Yn aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Llanwenog, enillodd Gadair Genedlaethol y Mudiad yn 2019, ynghyd â dwy Goron Eisteddfod Ryng-golegol yn 2020 a 2022.

Mae wrth ei fodd yn chwarae gitâr ac yn chwarae pêl-droed i dîm y Geltaidd yn Aberystwyth yn ogystal â thîm lleol Sêr Dewi.

Yn gefnogwr brwd o Tottenham Hotspur yn ogystal â’r tîm pêl-droed cenedlaethol, mae’n edrych ymlaen yn fawr i’r gêm ddydd Sul.

“Hoffwn ddiolch yn fawr i’m cyn-athrawon am eu hysbrydoliaeth a’u cefnogaeth; ac yn arbennig i Mrs Delor James, cyn Bennaeth y Gymraeg ym Mro Pedr am ei hanogaeth gyson ac i Eurig Salisbury yn y Brifysgol am ei gefnogaeth,” meddai.

“Ac wrth gwrs, diolch i fy nheulu a ffrindiau am eu cyfeillgarwch, eu hamynedd a’u cefnogaeth, yn arbennig i Lleucu, Mam, Dad a Guto.”

Bydd y cyntaf, ail a thrydydd yn y cystadlaethau llenyddol gydol yr wythnos yn cael cyfle i fynd ar Gwrs Olwen yn yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd er cof am Olwen Dafydd. Mae hyn yn bosib drwy nawdd Ymddiriedolaeth Olwen Griffith.

Trwch blewyn oedd rhwng yr ail a’r trydydd, a dewis rhyngddyn nhw gymrodd amser, meddai’r beirniaid.

“Roedd yna ychydig mwy o aeddfedrwydd, efallai, yng ngwaith yr ail o fod wedi ail a thrydydd ddarllen,” meddai Gwenno Mair Davies.

“Roedd diwedd hwnnw yn dy daro di, diweddglo annisgwyl a thro yn y gynffon.”

Gair gan y noddwyr

“Mae Grŵp Cynefin yn falch iawn o fod yn Brif Noddwr un o uchafbwyntiau’r ŵyl, sef seremoni’r Coroni yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych,” meddai Shan Lloyd Williams, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin, oedd wedi noddi’r seremoni.

“Mae Dinbych a’r ardal yn bwysig i Grŵp Cynefin.

“Mae un o’n prif swyddfeydd yng nghanol y dref, sef Tŷ John Glyn, a llawer o’n staff a chwsmeriaid yn byw yn yr ardal.

“Partneriaeth Grŵp Cynefin yw HWB Dinbych – canolfan allweddol bwysig yn cynnig bob math o gyrsiau, cynlluniau, cefnogaeth ac addysg i’r gymuned, yn arbennig pobl ifanc yr ardal.

“Eleni agorwyd Awel y Dyffryn yn Ninbych – ein datblygiad tai gofal ychwanegol mwyaf hyd yn hyn, yn darparu cymuned gynnes a chefnogol i bobol hŷn y sir.

“Mae Grŵp Cynefin yn cynnig llawer ‘Mwy Na Thai’ – yn grantiau, partneriaethau, cefnogaeth, cyfleoedd, cyflogaeth ac mae cefnogi gŵyl mor ddeinamig ag Eisteddfod yr Urdd, ar ein stepen drws, yn bwysig iawn i ni. Pob hwyl i’r ŵyl!”

Mi fydd y gwaith buddugol ynghyd â’r feirniadaeth ar gael i’w darllen ar wefan Eisteddfod yr Urdd o brynhawn Gwener, Mehefin 3.

Bwriad trefnwyr yr Eisteddfod yw cyhoeddi cyfrol o gyfansoddiadau Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022 ar ei newydd wedd, wedi’i guradu gan rai o Brif Enillwyr yr ŵyl, erbyn yr hydref.

Twm Ebbsworth

Môr: Darn buddugol y Goron yn Eisteddfod Ryng-golegol 2022

Twm Ebbsworth o Brifysgol Aberystwyth gafodd ei goroni eleni