Twm Ebbsworth o Brifysgol Aberystwyth gafodd ei goroni yn Eisteddfod Ryng-golegol 2022.
Er mai Prifysgol Bangor gipiodd dlws yr Eisteddfod, cyflawnodd Prifysgol Aberystwyth y ’dwbwl’, gyda Tomos Ifan Lynch yn cipio’r Gadair.
Joseff Owen o Brifysgol Bangor enillodd y Fedal Ddrama, gyda Thlws Y Cerddor yn mynd i Celt John o Brifysgol Bangor.
Emily Ellis o Brifysgol Aberystwyth gipiodd y Fedal Gelf.
Trystan Gwyn o Brifysgol Aberystwyth oedd enillydd y Fedal Wyddoniaeth, gyda James Horne o Brifysgol Bangor yn cipio Medal y Dysgwyr.
“Fe ysgrifennais i ddarn go gynnil a oedd yn sylwebu ar yr argyfwng tai haf a’r diffyg tai fforddiadwy mewn cymunedau gwledig yng Nghymru, drwy dynnu llinyn paralel rhwng Cantre’r Gwaelod a’r ardaloedd gwledig a oedd yn cael eu dinistrio gan y tonnau o drigolion tymhorol,” meddai Twm Ebbsworth wrth golwg360.
“Er fod y darn yn arddangos ymateb go ddramatig cymeriad i’r sefyllfa, gobeithiaf y bydd darllenwyr yn medru uniaethu gyda’i unigrwydd, yn ogystal â’i ddicter at y sefyllfa.”
Y darn buddugol
Dyma’r darn buddugol yn ei gyfanrwydd:
Môr: gan Twm Ebbsworth
Gwinga Pwyll wrth i’r wawr ei ddeffro, yn rhigwm boreol ei fod. Byddai rhywun call wedi buddsoddi mewn gorchudd i’r ffenestri ers tro, ond nid un felly ydyw, ac hyd yn oed pe bai dwtsh yn gallach fyddai dal heb wneud. Mae unrhyw newid yn codi llond twll o ofn arno.
Wyneba’r drych bychan sy’n crogi o’i flaen gan redeg ei law ar hyd-ddo i waredu’r anwedd. Ochneidia wrth iddo ddod wyneb yn wyneb ag ef ei hun. Defnyddia ei law i gribo cagle ei wallt o’i lygaid a chael gwell golwg arno ef ei hun a’r byd. Ond mae’n difaru’n syth, nid oes golwg dda ar y naill na’r llall. Mae’r cylchoedd duon o amgylch ei lygaid yn is nag erioed ac ar draws ei wyneb gwelw disgleiria pla o blorod seimllyd na welwyd ers ei arddegau. Er ei fod wedi prynu ffresnydd aer o’r garej mae’r lle yn dal i ddrewi o B.O. Does ganddo ddim cawod felly dim ond y glaw sy’n ei olchi, ac mae’n amlwg iddi fod yn fis go sych.
Mae modd blasu’r cwrw rhad ar ei anadl chwerw, ond mae hyn yn broblem medra Pwyll ddatrys. Ymestyna i’r sedd gyfagos a gafael mewn bag pum ceiniog o Costcutters, sydd hefyd yn fag ymolchi. Tila yw cynnwys y bag; brws dannedd, past dannedd, potel o ddŵr a derbyneb crebachlyd. Does ganddo ddim sinc felly rhaid ymadael a’i gerbyd.
Yn unol â’r arfer mae wedi llithro i drwmgwsg â’i ddillad gwaith yn ddillad gwely, ond gan ei bod hi’n ganol haf nid yw’n gweld eisiau moethusrwydd duvet yn ormodol. Y sedd gefn yw ei wardrob ac felly mae’n pwyso nôl ac yn cipio ei unig bâr o fŵts mwdlyd. Llithra ei draed i’r hen ledr llac tra’n gofalu peidio â tharo ei drwyn ar y llyw. Mae’n taro ei ysgwydd yn erbyn drws y cerbyd i gael gweld y byd.
Chafodd Pwyll fawr ddim o werth yn ewyllys ei Dad, ag eithrio’r 4×4. Y Mitsubishi Shogun oedd cannwyll ei llygaid a chofia Pwyll yn glir y diwrnod ddaeth i’r clos. Fe’i ddarganfyddodd mewn layby, gyda’r pris ar boster yn fras ar ei dalcen. Mi dalodd y pris llawn, ond erbyn i’r modur rygnu lawr i’r clos at dyddyn Maesllan roedd y poster yn y clawdd, a’i Dad yn spengan i’w wraig ei fod wedi taro diawl o fargen dda. Doedd y 4×4 ddim yn unigryw mewn unrhyw fodd, ond mae Pwyll yn cofio adeg pan roedd pawb yn yr ardal yn gyrru cerbydau tebyg. Ond yn ddiweddar mae’r hen beth yn dechrau tynnu sylw di-eisiau, a fawr ddim cerbydau o’i oed a’i amser bellach ar y lôn.
Does dim lle i bethau o’r fath yn rhagor, hyd yn oed mewn cymdeithas wledig fel hon. Mae’n rhy ddigywilydd, yn rhy frwnt, yn rhy hynafol; yn atgoffa pawb o’r cyfnod pan oedd pobl yn byw a gweithio go iawn ar y tiroedd hyn . Mae gwylwyr Escape to the Country wedi ffeindio’r lle, gan roi lens sgrîn deledu ar fyw a bod yr ardal, a’i sgleinio a’i barchuso i le ble nad ydy 4×4 yn rhwydu a dyn lleol yn cysgu’r nos mewn lay-by, ac yn golchi ei ei ddannedd al fresco.
Gwasga Pwyll y mymrym lleiaf o’r mintys o wddf y past, cyn ei wlychu gyda’r dŵr potel a dechrau sgwrio. Poera’r ewyn gwyn dros darmac du y lay-by. Fe benderfynodd ar y noson gyntaf honno yn y 4×4 mai dyma oedd ei dir comin. Trueni ar diawl nad oedd modd ei berchnogi ac adeiladu tŷ un-nos fel ‘slawer dydd. Chwardda Pwyll yn dawel wrth ystyried yr harten y byddai swyddogion cynllunio’r Cyngor yn ei gael o weld bwthyn yn codi ar y llecyn cyn iddi wawrio. Roedd sens yn yr hen ffordd o fyw, pawb â’r hawl i fyw yn eu milltir sgwâr. Penderfyna Pwyll berchnogi’r lay-by yn answyddogol, a chanmola safle ei gartref symudol. Dyma’r man pellaf o’r pentref heb fod yn rhy bell ohono chwaith. Cofia’r tro cyntaf iddo dreulio’r noson yma, yn nyfnder ei siom byddai wedi dymuno gadael y twll hwn yn llwch olwynion y 4×4 , ond fe wnaeth rhywbeth ei gyflyrru i beidio â gwneud, ac i fwrw ei wraidd dros dro, rhag ofn. Does dim iddo yma rhagor, dim swyddi da, dim tai sy’n siwtio pris ei boced, dim cymuned glos, dim yw dim. Ac er hyn oll, nid yw erioed wedi mentro ymhellach. Yn ddyddiol, fe ddihuna â’i wyneb tua’r gorwel, a’r haul yn ei wawdio â gwên wrth ben bae Ceredigion, yn tywynnu dros yr hyn sydd wedi llithro o’i afael.
Llusga ei gorff blinedig i’r cab a thanio’r injan ac mae’r 4×4 yn grwgnach wrth ddeffro. Damsgena ar y sbardun yn ei awydd i symud, nid yw byth yn hwyr i’r gwaith, a hynny yn bennaf, gan fod dim byd gwell ganddo i’w wneud. Dyma unig siwrnau’r car, o’r layby i’r garej, o’r garej i’r layby, drosodd a throsodd a thro. Er bod yr anwedd ar hyd y ffenestr flaen heb gilio, mae’n troi’r llyw am yr heol gul.
Gyrra’n ddiofal ar hyd y lonydd gan fwrw golwg achlysurol dros frig y cloddiau er mwyn busnesa. Tebyg yw’r golygfeydd, pip ar rhimyn o fôr ar ddiwrnod clir, clytwaith o gaeau gwag, ambell ddafad, sawl ceffyl a mwy fyth o eifr a lamas. Er y stondin laeth ar ben hewl sawl fferm does dim un fferm odro bellach yn yr ardal. Yr hyn sy’n peri’r diflastod mwyaf i Pwyll yw’r enwau’r ffermwydd sy’n ei gyfarch. Fferm Penbryn, lle ddysgodd Pwyll i yrru tractor, bellach wedi’i fedyddio’n Sunnyhill Holiday Chalets. Pantglas, ble fu e a’i Dad yn helpu gyda’r cneifio bob blwyddyn, yn Blue-Valley Budget Holiday Cottages. Cyn hir, bydd tyddyn Tan-y-Fron yn Under the Bosom Swingers Club, meddylia Pwyll i’w hun. Prin mae’n adnabod y fro bellach, rhyw olion o bentref sydd yma.
Daw at yr arwydd llwyd-las ‘Bronaber’ sy’n croesawu pob Thomas, Richard a Harold i’w bentref. Glyna sticer ‘YES Cymru’ yn styfnig i’r arwydd, yn llenwi bwlch yn ‘o’ yn ewn. Mae’r cochni wedi pylu a’i berchennog ifanc wedi’i throi hi am Gaerdydd ers tro. Tybed beth a wêl eraill yn y sticer bach crwn? Go brin eu bod yn deall ystyr yr ‘Yes’ …
Daw at normalrwydd y garej, a’i arwydd yn cyhoeddi i’r byd fod Diesel bedair ceiniog yn ddrutach na’r archfarchnad yn y dre. Mae’r garej a’i siop yn gytûn ar y llecyn, a’r unig ar wahanrwydd yn yr arwyddion parcio sy’n cyfeirio cwsmeriaid at y naill ochr neu’r llall. Daw arogl olew a phetrol i’w gyfarch wrth iddo gymryd dau le parcio a dod i stop sydyn. Mae ei fol yn cnoi a phecyn o Monster Munch fydd pryd cyntaf ei ddiwrnod unwaith eto. Gwthia’r drws â’i droed, mae ei gefn yn blet ac mae’n ymestyn wrth roi’r ddwy droed ar lawr. Oeda. Er bod Pwyll yn unig, nid yw’r dymuno cwmni ‘chwaith. Bob bore, ystwytha ac ystyria ei gymhlethdod. Dyn unig, nad sy’n hoffi cwmni. Dyn â dwy iaith yn ei geg, ond un yn ei ben. Dyn ei filltir sgwâr, nad sy’n ei ‘nabod rhagor. Daw dim lles o’i fyfyrio a cherdda am y garej, y tools a’r tegyl. Bydd Henry yno’n ei ddisgwyl.
Gwêl bip o Henry, yn ei ofyrôls nefi, yn rhoi dwy lwyaid o Nescafe i ddau fwg. Hen foi iawn ydyw yn y bôn, a’i drwyn, a’i ddannedd a’i ffurflenni VAT mor gam a’i gilydd. Fel pob mecanic o werth, mae olew fel tatŵ du ar bob crych a cham o’i ddwylo, ac yn inc o olew o dan ei ewinedd waeth beth fo ymdrech nosweithiol y Swarfega i’w ddileu. Mae staen olew yn drwm arno i bawb ei weld, ond mae Pwyll yn un o’r rhai prin sy’n deall bod staen galar ar ei du fewn hefyd, ac nid oes modd sgwrio hwnnw ‘chwaith.
Er mai Henry yw’r perchennog, mae rhyw lled ddealltwriaeth rhyngddynt a’r ddau yn gaeth i’r hun a fu. Daeth Henry a’i wraig yma i ymddeol o ganolbarth Lloegr, wedi gwerthu busnes gwerthu ceir fawr, ond bu farw ei wraig ymhen y flwyddyn a phrynodd Henry’r garej fach i’w gadw rhag dyfnderoedd ei dristwch.
“Bawre’ da!” Atseinia ei ymdrech ar draws y garej wag. Disgleiria ei dalcen moel wrth iddo chwifio’r llwy de gan wenu gyda balchder. Dyma’r unig ymadrodd Cymraeg sydd ganddo, er holl ymdrechion Pwyll. Ond bob bore mae’n adrodd y geiriau fel plentyn ar lwyfan Eisteddfod.
“Shwdi boio, be’ sy’ ‘mla’n de?” Gwyddai na fydd ei fós yn ei ateb yn y Gymraeg ond man a man rhoi cynnig arni.
“What’s that again?” Dydy Henry ddim wir yn poeni ond gwyddai bod plesio Pwyll yn gwneud iddo weithio’n galetach.
Yfant eu coffi, a Henry’n anwybyddu’r amlwg sef bod ei gyd-weithiwr ac unig ffrind wedi bod yn byw mewn car ers chwe mis. Dyma eu patrwm, coffi, mân sgwrsio a chychwyn yn araf ar eu gwaith. Ag eithrio fan ambell saer coed neu adeiladwr, daw eu prif waith o gynnal a chadw ceir cyplyau yn eu saithdegau ac ambell gar wedi gorboethi’n tynnu’u carafan. Wyddai Pwyll ddim a oedd Henry’n gwneud elw yn y garej mewn gwirionedd, ond tybia bod yr elw personol o fod yno yn llawer mwy na’r gwerth ariannol. Mae’r siop sy’n eiddo i’r garej yn ei gwneud hi’n weddol mewn llaeth, bara a phapurau newydd ond petrol a diesel sy’n denu pobl yma yn bennaf.
Cychwynna Pwyll ar ei ddefod ddyddiol o gadw llygad amdano. Mae’n gwybod y daw, fel arfer. Daw yn ei Golf GTi newydd, o glos glân, mewn i’r siop i nôl y Telegraph ac yna heb gydnabod nac yngan gair mae’n ymadael. Dyma berchennog Maesllan, y dyn a’i welodd ar y we a’i brynu mewn deuddydd, cyn i Pwyll hyd yn oed gael cyfle i wneud apwyntiad i weld ei reolwr banc. Ar ei soffa ym Manceinion, llwyddodd hwn gyda dau glic a galwad ffôn i brynu Maesllan o dan drwyn Pwyll. Ystyria Pwyll yn aml ai hwn neu wraig ei Dad oedd ar fai mewn gwirionedd. Hi, a’i dagrau ffug a ddaeth i ben yn go handi, er gwaethaf ei galar, i roi arwydd ‘Ar Werth’ ar ben y lôn, a hynny cyn bod bil y trefnwr angladdau wedi cyrraedd. Gwnaeth ei Dad lygaid llo ar Molly ddegawd nôl, a hithau’n wraig Maesllan ymhen chwe mis. Daeth i’r clos rhyw ddiwrnod i holi am gael rhenti tir ar gyfer ei cheffyl, a ffeindiwyd stabal yr un i’r cob a’i berchennog cyn pen pythefnos. Doedd Pwyll ddim yn gweld bai ar ei Dad yn ail briodi, roedd yn haeddu cwmni , ond roedd ildio Maesllan ac ennill Molly yn fawr o gysur i Pwyll. Diflannodd Molly rhyw brynhawn, â siec Maellan yn ei chyfrif banc ac allweddi’r 4×4 ar fwrdd y gegin i Pwyll. Ac am ryw reswm, mae Pwyll yn cadw llygad dyddiol am brechennog Maesllan, a rhyw deimlad yn cyniwair ynddo bod hwn wedi perchnogi ei gartref, ac wedi dwyn ei ddyfodol.
‘Another coffee, mate?’ Mae Henry’n chwilio cwmni, a daw mwg gynnes i’w law.
‘You look as if you could do with one. Hope you don’t mind my saying, but you look … ’ ac mewn un edrychiad gall Pwyll synhwyro bod Henry’n gwybod. Ddylai e ddim synnu, mae’n siwr bod digon wedi sylwi ar y 4×4 yn y layby ers misoedd, ond gan nad oes neb wedi yngan gair mae Pwyll o dan yr argraff nad oes neb yn gwybod, neb yn poeni.
‘I’ve got plenty of room you know, you’re more than welcome if …’
Mae’r cynnig yn ormod iddo, ei garedigrwydd annisgwyl yn ei daflu oddi ar ei echel. Ceisia fwmian ei ddiolch, ond mae’n gwybod iddo swnio’n anniolchgar, a damia ei hun am fod mor swrth.
‘Thank you Henry, I’m … I’m ok … I’ll be fine ….’ yw ei ymdrech orau at gydnabod y caredigrwydd. Teimla’n lletchwith, a’i eiriau’n drwsgwl o ddi-serch. Mae’n ail afael yn ei waith, yn newid brake pads sydd prin wedi treulio.
Fesul awr a fesul sgwrs herc dros goffi daw’r diwrnod gwaith i ben ac mae Pwyll wrth lyw’r 4×4 yn araf yrru ar ei daith nôl i’r lay by. Mae ganddo pasty a scotch egg mewn pecyn ar y sedd wrth ei ymyl, ac ymdrech i gadw’n iach drwy brynu banana i bwdin. Teithia’r filltir o’r garej, gan ystyried yr oriau o ogordroi nes i’r nos ei lyncu. Mae’r dydd yn ‘mestyn, ac mae’n ffeinhau heno. Tynna Pwyll yr hen stôl wersylla o’r bŵt, ac eistedd yng nghysgod y 4×4 a’i gefn at yr heol. Ni all flino ar yr olygfa, a’r cwm yn wledd o’i flaen. Ochneidia wrth i’r machlud pryfoclyd fwrw’i olau gwan fan draw ar y Golf GTi yn eistedd ar glos Maesllan. Gwylia, nes i’r nos lapio’r tyddyn o’i olwg.