Fe fydd Prifysgol Aberystwyth yn croesawu archif o eiddo personol y bardd David James Jones, sy’n cael ei adnabod fel Gwenallt, mewn digwyddiad arbennig heddiw (dydd Llun, Mawrth 21).
Cafodd y gwrthrychau eu rhoi yn arbennig i’r Brifysgol gan deulu’r bardd, a oedd yn fyfyriwr ac yn ddarlithydd yno yn ystod ei fywyd.
Fe fyddan nhw’n bresennol yn y digwyddiad, sy’n cael ei gynnal ar Ddiwrnod Barddoniaeth y Byd 2022.
Ymhlith y casgliad mae nifer o’r eitemau o’r cyfnod pan oedd yn garcharor am ei fod yn wrthwynebydd cydwybodol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae llawysgrifau, gan gynnwys llythyron personol a dyddiadur, hefyd wedi dod i ddwylo’r Brifysgol yn ddiweddar, ac fe fydd myfyrwyr a staff yn gallu eu defnyddio nhw wrth gynnal ymchwil yn y dyfodol.
Casgliad newydd
“Roedd hi’n ddymuniad gan Mam-gu a Mam fod papurau Dad-cu yn cael eu cadw’n ddiogel,” meddai ei wyres Elin Gwenallt Jones.
“Mae rhan fawr o’r archif eisoes yn y Llyfrgell Genedlaethol.
“Wrth glirio tŷ Mam fodd bynnag, daeth nifer o eitemau newydd i’r golwg.
“Roeddwn yn awyddus iawn i sicrhau eu bod nhw hefyd yn cael eu cadw a’u rhannu’n ehangach”.
Mae’r bardd Mererid Hopwood, Athro’r Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth, wedi croesawu’r casgliad.
“Mae nifer o’n myfyrwyr wedi astudio gwaith Gwenallt yn yr ysgol cyn dod atom ni, ond mae gallu rhannu’r gwrthrychau hyn â nhw, a dangos llawysgrifen y bardd, yn dod â gwefr ac arwyddocâd arbennig i’r geiriau,” meddai wrth golwg360.
“Mae’r archif newydd yn sicr yn galw am waith dadansoddi ysgolheigaidd manwl.
“Rydym yn hynod ddiolchgar i Elin a’r teulu am y rhodd hael hwn.”
‘Un o feirdd mwyaf dylanwadol Cymru’
Ymhlith yr eitemau mae dyddiadur Gwenallt yn ystod ei ymweliad â Chaersalem – taith a ysbrydolodd y gerdd enwog, ‘Y Coed’ – yn ogystal â’i fathodyn carchar.
Bydd yr eitemau diweddaraf yn cael eu diogelu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
“Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn falch iawn o dderbyn ychwanegiad i bapurau Gwenallt a ddiogelwyd gan ei deulu,” meddai’r Prif Weithredwr Pedr ap Llwyd.
“Trwy astudio’r deunydd yma gallwn edrych o’r newydd ar fywyd a gwaith un o feirdd mwyaf dylanwadol Cymru.
“Mae’r deunydd yn cynnwys llythyrau, ffotograffau a nodiadau a fydd yn werthfawr iawn i astudiaethau pellach o fywyd a gwaith bardd a oedd yn adlewyrchu syniadau a chynnwrf yr ugeinfed ganrif yn ei farddoniaeth.
“Mae’r rhodd yma yn ychwanegol at lawysgrifau, sgriptiau, a nodiadau Gwenallt sydd yma eisoes, ynghyd â deunydd yn ymwneud â ‘Chymdeithas yr Hwrddod’, a ffurfiwyd gan Gwenallt ac Idwal Jones yn Aberystwyth.”