Tomos Ifan Lynch o Brifysgol Aberystwyth gafodd ei gadeirio yn Eisteddfod Ryng-golegol 2022.
Er mai Prifysgol Bangor gipiodd dlws yr Eisteddfod, cyflawnodd Prifysgol Aberystwyth y ’dwbwl’, gyda Twm Ebbsworth yn gipio’r Goron.
Joseff Owen o Brifysgol Bangor enillodd y Fedal Ddrama, gyda Thlws Y Cerddor yn mynd i Celt John o Brifysgol Bangor.
Emily Ellis o Brifysgol Aberystwyth gipiodd y Fedal Gelf.
Trystan Gwyn o Brifysgol Aberystwyth oedd enillydd y Fedal Wyddoniaeth, gyda James Horne o Brifysgol Bangor yn cipio Medal y Dysgwyr.
Yma, mae golwg360 yn cyhoeddi darn buddugol y Gadair:
Degawd.
Cerdd i bwy bynnag ddwedodd: ‘Dyro dy law i mi ac fe awn i ben y mynydd’ (steddfod ysgol, circa 2012)
y dyddia hynny
a gwynder ‘y myd yn bygwth dallu,
prin o’dd angen nerth
i droedio llethrau amser;
hop a cham a naid – pob dydd yn gartwnaidd o lawn.
dyro dy law i mi…
‘alla’i ddim heno, gen i ffwti ‘rôl ysgol’
dyro dy law i mi…
’dim heddiw; gwers biano,
parti penblwydd, poen yn fy mol.’
ond does dim ffwti heno,
darfu oes y gacen ffenest.
heddiw, dwi’n ddau ddeg dau
a’m meddwl fel tant rhwng bysedd amser,
a hwnnw’n frau a rhydlyd; gitâr rad.
ma’ cariad llynedd ’di gwywo bellach,
a’r chwyn yn cofleidio ‘mhigyrnau gan
f’atgoffa nad oes angladd pan fo cariad yn marw.
rhyfedd.
‘ddwedodd neb mai fel hyn fydda’r mynydd, naddo?
llawn cachu, baw a shit
yn chwara tricia â nhraed
fel y grisha symud yn stesion Lime Street.
dyro dy law i mi, ac fe awn i ben y basdad peth,
dyna o’dd o’n ddeud ‘de?
dyma fo. yli dwi’n ei roi o i chdi.
yli ffs! dyma chdi,
cymra fy ffycin llaw i ta!
dyraf. dyrwyd. dim.
Tomos Ifan Lynch