Mae un o aelodau mwyaf profiadol Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi cyhoeddi ei fod yn camu o’r neilltu erbyn yr Etholiadau Lleol ym mis Mai.
Daeth Geraint Davies yn aelod o’r Cyngor ar gyfer Treherbert am y tro cyntaf yn 1988, pan oedd y Rhondda yn awdurdod lleol ar ei ben ei hun.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae wedi brwydro sawl Etholiad Cyffredinol, ac fe ddaeth yn Aelod o’r Cynulliad cyntaf yn 1999, gan gynrychioli etholaeth newydd Rhondda.
Roedd hynny’n annisgwyl ar y pryd, gan fod yr ardal yn gadarnle i’r Blaid Lafur, ond fe lwyddodd Plaid Cymru i gael rhyw fath o gyfnod aur yno ar ddiwedd y 1990au, gan ennill mwyafrif ar Gyngor Rhondda Cynon Taf hefyd.
Fe fydd Geraint Davies yn sefyll i lawr eleni ar ôl rhoi dros 40 mlynedd o wasanaeth i’w gymuned.
Yn fferyllydd cyn ymddeol ac yn ymgyrchydd brwd dros sawl achos, dywed mai’r gymuned honno o’i gwmpas sydd wedi rhoi’r “hwb” iddo ar hyd y blynyddoedd.
‘Dyna’r rheswm es i mewn i wleidyddiaeth’
Mae Geraint Davies wedi ymwneud â gwleidyddiaeth ers bron i hanner canrif bellach, ac mae’n dweud mai’r refferendwm datganoli aflwyddiannus yn 1979 wnaeth ei sbarduno i fentro i lywodraeth leol.
“Fe wnes i chwarae rhan fach yn y refferendwm datganoli yn 1979,” meddai wrth golwg360.
“Ro’n i’n siomedig dros ben gyda’r canlyniad.
“Roedd Plaid Cymru yn isel iawn o ran cefnogaeth bryd hynny, ond fe wnes i ddechrau cangen yn Nhreherbert, ac fe ddaethon ni o fewn 150 o bleidleisiau i’r enillydd mewn is-etholiad yn ddiweddarach, a oedd yn hwb mawr i ni.
“Dyna beth oeddwn i mo’yn, oedd cael refferendwm arall a sefydlu Senedd yng Nghaerdydd, ac mae hynny wedi dod i fodolaeth.
“Dyna’r rheswm es i mewn i wleidyddiaeth, ac mae wedi bod yn llwyddiannus. Rydyn ni mo’yn mynd ymlaen nawr i ddatblygu yn bellach, datganoli’r cyfryngau a datganoli cyfraith a threfn, ac wrth gwrs, mynd ymlaen i gael annibyniaeth.
“Fe ddes i’n aelod o’r Cyngor er mwyn gwneud hynny a chynnal Cymreictod yn yr ardal a rhoi hyder i bobol i feddwl ein bod ni’n gallu gwneud pethau ar ben ein hunain.”
Ychwanegodd Geraint ei fod yn teimlo bod Llywodraeth Cymru wedi “amddiffyn llywodraeth leol” dros y blynyddoedd, a bod llywodraeth leol yn Lloegr yn “llawer gwannach”.
Rhan fach o hanes
Er ei fod wedi parhau’n gynghorydd dros y cyfnod, fe ddaeth Geraint Davies yn aelod o’r Cynulliad cyntaf yn 1999, gan guro’r ffefryn i’r sedd, sef yr ymgeisydd Llafur, Wayne David.
“Roedd hi’n gyfle arbennig i fi fel aelod cyntaf y Rhondda yn y Cynulliad,” meddai.
“Un peth oeddwn i’n hoffi fwyaf am y swydd hynny oedd croesawu plant ysgol i’r adeilad.
“Ro’n i’n gofyn iddyn nhw pryd cafodd Cymru Senedd ddiwethaf, ac roedden nhw’n dyfalu dwy, bump neu efallai ddeg mlynedd.
“Wedyn roedden nhw’n rhyfeddu pan oeddwn i’n dweud 600 mlynedd wrthyn nhw. Roeddwn i’n mwynhau eu croesawu nhw’n fawr iawn.”
Uchafbwyntiau
Wrth restru rhai o’r pethau yr oedd yn fwyaf balch ohonyn nhw yn ystod ei gyfnod fel cynghorydd ac fel Aelod Cynulliad, dywed fod “yr ymgyrch treth y pen yn eithaf diddorol a chyffrous”.
Fe wnaeth Geraint Davies chwarae rhan flaenllaw yn yr ymgyrch honno yn y Rhondda i gael gwared â Threth y Pen.
Yn ystod yr ymgyrch, fe wrthododd ei wraig Merrill dalu’r dreth, a oedd wedi ei chyflwyno gan y Blaid Geidwadol.
Hi oedd y cyntaf yng Nghymru a Lloegr i wneud hynny, ac fe gafodd beilïaid eu gyrru i’w cartref am ei safiad.
“Roedd y cyfarfod cyngor yn arbennig ar ôl i’r beilïaid ddod i mewn i’n tŷ ni ac i’n busnes ni wedyn,” meddai wedyn.
‘Wnaethon ni drawsnewid y Cyngor’
“Pan oeddwn i’n y Cynulliad, roeddwn i’n hapus ein bod ni wedi gallu adnewyddu stâd y cyngor yn Nhreherbert,” meddai Geraint Davies wedyn.
“Roedd enw ofnadwy gyda’r stâd, ond mae’r stâd yna wedi cael ei drawsnewid o ganlyniad i’r ymgyrch honno, ac rwy’n falch iawn fy mod i wedi gallu helpu.
“A phan wnaeth [Plaid Cymru] gymryd drosodd yn 1999, doedd dim arian wrth gefn gan y Cyngor achos bod e wedi cael ei wario.
“Felly wnaethon ni drawsnewid y cyngor bryd hynny, a ro’n i yn y cabinet ar y pryd.
“Roedden ni wedi arbed tua 2,000 o swyddi.
“A daeth y cyngor hwnnw yn ail o holl gynghorau Prydain o ran gwelliant gorau yn eu gweithredu a’u gwasanaethau.
“Roedd hi’n dipyn o her i ni fel awdurdod achos oedd miloedd o swyddi yn y fantol.”
‘Doedd neb yn ein credu ni’
Fe chwaraeodd ardal y Rhondda ran fawr yn yr ail bleidlais am ddatganoli yn 1997, ac roedd Geraint Davies yn rhan allweddol o hynny.
Nododd fod tua dau draean o bobol yr ardal wedi pleidleisio o blaid cael Cynulliad yng Nghymru – un o’r canrannau uchaf fesul ardal yng Nghymru.
Serch hynny, roedd y Rhondda yn rhan o sir ehangach Rhondda Cynon Taf, fel y mae heddiw, ac roedd y cyfanswm ar gyfer y sir gyfan yn ddim ond 58.5% o blaid datganoli.
Ar ben hynny, fe welodd yr ardal newid mawr yn ystod y cyfnod, gan fod Plaid Cymru wedi llwyddo i drechu Llafur i sedd gyntaf y Rhondda yn y Cynulliad.
Fe gawson nhw fwyafrif am y tro cyntaf ar Gyngor Rhondda Cynon Taf hefyd.
“Roedd e bron yn wyrthiol i feddwl bod Llafur yn arfer cael y mwyafrif mwyaf ym Mhrydain fwy neu lai am nifer o flynyddoedd,” meddai Geraint Davies wedyn.
“Roedden ni’n meddwl y byddai pethau’n symud y ffordd hynny, ond doedd neb yn ein credu ni.
“Mae’n rhaid i chi ystyried pobol fel Glyn James oedd wedi gwneud y gwaith caib a rhaw ac wedi newid meddylfryd pobol o ran bod yn Gymry.”
‘Pwysig i ni ddefnyddio’r Gymraeg’
Mae Geraint Davies, sy’n aelod brwd o Gymdeithas yr Iaith, wedi ymgyrchu i ddod â’r Gymraeg i lwyfan mwy blaenllaw yn ei gymuned hefyd.
“95% o’r amser, rwy’n siarad yn Gymraeg ar y Cyngor,” meddai.
“Rwyf wedi gallu gwneud hynny dros y pedair, pum mlynedd diwethaf.
“Mae’n bwysig i ni ddefnyddio’r Gymraeg, ac mae’n rhaid inni ei defnyddio hi.
“Does dim pwynt i’r holl ysgolion yma, oes yw plant yn gadael a ddim yn defnyddio’r iaith.”
Camu o’r neilltu
Fe fydd Geraint Davies yn camu o’r neilltu erbyn mis Mai er mwyn canolbwyntio ar redeg y capel lleol.
“Chi’n teimlo bod pethau’n newid,” meddai.
“Mae mwy o gyfrifoldeb gyda fi nawr yn y capel, a dw i mo’yn canolbwyntio ar hynny.
“Rydyn ni’n rhedeg banc bwyd, caffi, a does dim gweinidog gyda ni nawr, felly rydyn ni’n cynnal popeth ein hunain fel aelodau.
“Ac rwy’n credu efallai bod hi’n fwy pwysig i fi wneud hyn na fy ngwaith fel cynghorydd erbyn hyn.”
Cyn camu i ffwrdd, fe fu Geraint Davies yn talu teyrnged i’r gymuned y mae wedi ei wasanaethu am gyhyd.
“Maen nhw wir yn bwysig,” meddai.
“Dw i wedi byw yma drwy gydol fy oes i gyda fy ffrindiau o ‘nghwmpas i.
“Fyddai dim un ymgyrch ddim wedi gallu digwydd heb gefnogaeth y bobol yn y gymuned.
“Nhw sy’n rhoi’r hwb i chi gadw i fynd.”