Mae dirprwyaeth o wyth o ddatblygwyr gemau a meddalwedd cyfrifiadurol o Gymru yn mynd i San Francisco ar gyfer cynhadledd flynyddol fwya’r diwydiant gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.

Mae’r Gynhadledd Datblygwyr Gemau yn dod â’r gymuned datblygu gemau ynghyd i rannu syniadau, datrys problemau ac i siapio’r dyfodol yn ystod pum niwrnod o addysgu, ysbrydoli a rhwydweithio, gyda’r cynadleddwyr yn cynnwys rhaglenwyr, artistiaid, cynhyrchwyr, dylunwyr, arbenigwyr sain ac arweinwyr busnes.

Mae hefyd yn gyfle i arddangos y teclynnau a gwasanaethau diweddaraf ym maes datblygu gemau gan gwmnïau megis Epic, Google, Intel, Nvidia, Oculus, Sony, Amazon a Microsoft.

Roedd y diwydiant yn werth oddeutu £7bn yn 2020 – sy’n gynnydd o 29.9% o gymharu â 2019 – ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n llawn i helpu cwmnïau Cymreig i fasnachu’n ryngwladol ac i ddenu buddsoddiad.

‘Sector allweddol’

“Yma yng Nghymru, rydyn ni wedi bod yn ymwneud ac yn trafod gyda’n diwydiant gemau, sy’n prysur dyfu, ac yn ei gefnogi ers nifer o flynyddoedd, gan wneud hynny drwy fentrau fel y Gronfa Datblygu Digidol, cymorth masnach ar gyfer cynadleddau rhyngwladol allweddol, a Sioe Datblygu Gemau Cymru,” meddai Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon.

“Mae’n sector allweddol o’r diwydiannau creadigol sy’n cynnig swyddi cynaliadwy sy’n talu’n dda, a dyna pam rydyn ni’n awyddus i’w weld yn tyfu ac yn ehangu yng Nghymru.

“O gofio bod cynrychiolwyr yn dod o bedwar ban byd, mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i fusnesau Cymru eu hyrwyddo eu hunain a, thrwy gydweithio â Cymru Greadigol, yn gyfle hefyd iddyn nhw ddangos yr hyn sydd gan Gymru i’w gynnig i ddarpar fuddsoddwyr.”

‘Dyddiad pwysig yn y calendr’

“Ers y daith gyntaf saith mlynedd yn ôl, mae taith fasnach Llywodraeth Cymru i ymweld â GDC wedi dod yn ddyddiad pwysig yn ein calendr, ac ar ôl bwlch o ddwy flynedd, mae’n braf iawn cael mynd yn ôl unwaith eto!” meddai Richard Pring, sylfaenydd a chyfarwyddwr Wales Interactive.

“Heblaw am greu cannoedd o gyfleoedd busnes a chyfleoedd rhwydweithio inni yn ystod y cyfnod hwnnw, mae hefyd, y naill flwyddyn ar ôl y llall, wedi rhoi cyfle inni arddangos talent a gemau gorau Cymru ar lwyfan y byd!”

‘Meithrin a datblygu perthynas’

“Allai ddim pwysleisio digon pa mor bwysig y mae teithiau masnach Cymru Greadigol wedi bod i dwf Sugar Creative,” meddai Jason Veal, rheolwr gyfarwyddwr Sugar Creative.

“Maen nhw wedi’n galluogi i feithrin a datblygu perthynas gyda’n partneriaid datblygu yn rhyngwladol ac wedi galluogi Sugar i gystadlu ar lwyfan byd-eang.

“Mae’r bartneriaeth a’r cysylltiadau a ddatblygwyd yn GDC, diolch i arweiniad a chefnogaeth tîm Cymru Greadigol, wedi bod yn allweddol i dwf Sugar, nid yn unig o’n rhan ni fel cwmni, ond hefyd o ran yr enw da sydd gennym yn fyd-eang fel cwmni sy’n arwain y ffordd wrth ddefnyddio technoleg ymgolli i adrodd straeon ac wrth ddatblygu realiti estynedig.”