Mae 89 o bobol ifanc wedi ennill medalau aur am eu llwyddiant yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru.

Cafodd cyfres o gystadlaethau rhanbarthol eu cynnal dros Gymru, gan herio cystadleuwyr mewn pum gwahanol sector i fod y gorau yn eu maes.

Aeth dros 800 o bobol ifanc ati i gystadlu dros y tri mis diwethaf ym maes Adeiladu a Seilwaith; Peirianneg a Thechnoleg; Iechyd, Lletygarwch a Ffordd o Fyw; Technoleg Gwybodaeth a Menter; a’r Cyfryngau Cymdeithasol.

Nod y gystadleuaeth yw ysbrydoli ac uwchsgilio cenedlaethau’r dyfodol drwy feithrin sgiliau galwedigaethol pobol ifanc a dathlu eu cyflawniadau.

Yn ogystal ag 89 o fedalau aur, cafodd 87 o bobol fedal arian, a 91 fedal efydd, yn ystod y seremoni rithiol neithiwr (nos Iau, Mawrth 17).

‘Cyfle gwych’

Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru’n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru a’i rhedeg gan rwydwaith o golegau, darparwyr dysgu, a sefydliadau sy’n cael eu harwain gan gyflogwyr.

Dywed Esther Taylor, enillydd medal aur yn y categori Dylunio Ffasiwn a Thechnoleg, ei bod hi wedi mwynhau’r gystadleuaeth yn fawr iawn.

“Roedd yn gyfle gwych i roi cynnig ar rywbeth newydd ac roeddwn i’n teimlo fy mod i’n cael digon o gymorth ac anogaeth ar hyd y daith!” meddai.

“Dysgais sut i gynllunio a gweithio’n effeithlon o fewn amserlen dynn yn ystod y gystadleuaeth a dysgu sgiliau newydd fel creu taflen manyleb dilledyn – rhywbeth doeddwn i erioed wedi’i wneud o’r blaen.

“Roedd fy nhiwtor yn anhygoel. Roedd hi’n anfon negeseuon ata i ar Teams gydol yr wythnos ac yn ffonio i sicrhau fy mod i’n barod ac yn gwybod beth oedd angen ei wneud.

“Dw i mor falch ohonof fy hun am ddod yn gyntaf, mae’n dipyn o gamp!”

‘Dathlu doniau’r ifanc’

Yn amodol ar rownd arall o geisiadau, gallai enillwyr y rownd derfynol gymryd rhan yng nghystadlaethau Prydeinig a rhyngwladol WorldSkills UK, EuroSkills, a WorldSkills.

Fis Hydref, bydd cystadleuaeth WorldSkills yn cael ei chynnal yn Shanghai, a fis nesaf, bydd pymtheg o gystadleuwyr o Gymru’n cystadlu am le i gynrychioli Team UK yn y gystadleuaeth.

Dywed Vaughan Gething, Ysgrifennydd yr Economi, fod pobol ifanc Cymru’n hanfodol i lwyddiant y wlad yn y dyfodol.

“Mae’n wych gweld mentrau fel Cystadleuaeth Sgiliau Cymru a’r prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yn dathlu ac yn arddangos doniau’r ifanc,” meddai.

“Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn helpu i roi’r sgiliau a’r profiad sydd eu hangen ar bobl ifanc fel rhan o’u datblygiad personol a phroffesiynol.

“Mae’n cynnig cyfle i unigolion fagu hyder a sgiliau cyflogadwyedd gan ganiatáu i gyflogwyr addysgu sgiliau sy’n benodol i’r swydd.

“Mae’n hollbwysig ein bod yn buddsoddi yng nghenedlaethau’r dyfodol a’n bod yn parhau i gynnig cyfleoedd fel Cystadleuaeth Sgiliau Cymru er mwyn rhoi llwyfan i bobl ifanc arddangos eu galluoedd.

“Mae cystadlaethau sgiliau yn sbardun i bobol gamu ymlaen a datblygu’n weithwyr hynod fedrus, a chyfrannu’n ôl at yr economi.”

‘Cystadleuaeth a hanner’

Ameer Davies-Rana fu’n cyflwyno’r gwobrau ar y cyd â Mari Lovgreen, a dywed ei fod yn “brofiad arbennig ac yn gyfle gwych”.

Mari Lovgreen ac Ameer-Davies Rana

“Rydyn ni wedi gwobrwyo doniau anhygoel ledled Cymru ac roedd gwylio teuluoedd pawb yn dathlu’n fyw yn y partïon gwylio ar y diwedd yn ychwanegu at awyrgylch arbennig y noson,” meddai.

“Bu’n gystadleuaeth a hanner eto eleni, felly llongyfarchiadau mawr i bawb am gymryd rhan.

“Roedd hi’n fraint go iawn dathlu llwyddiannau cymaint o gystadleuwyr ar draws ystod o sectorau ac rwy’n dymuno pob lwc iddyn nhw yn y dyfodol.”