Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu’r newyddion bod trwydded ddarlledu sianel deledu Russia Today wedi cael ei dirymu.

Yn ôl Ofcom, dydy trwyddedwyr sianel RT, ANO TV Novosti, “ddim yn addas nac yn briodol” i ddal trwydded.

Ar hyn o bryd, mae 29 o ymchwiliadau ar y gweill yn edrych ar ddidueddrwydd dyladwy (due impartiality) rhaglenni’r sianel.

Roedd y Ceidwadwyr Cymreig wedi ysgrifennu at Ofcom fis diwethaf yn mynegi pryderon dros y sianel wedi ymosodiad Rwsia ar Wcráin.

Fe wnaeth Tom Giffard, llefarydd diwylliant y Ceidwadwyr Cymreig, gyhuddo’r sianel o gael eu hariannu gan wladwriaeth Rwsia, o fod yn arf propaganda i Putin, ac o rannu camwybodaeth.

“Dw i’n falch o weld Ofcom yn gweithredu’n sydyn ac yn dirymu trwydded ddarlledu RT ar ôl iddyn nhw dorri’r cod darlledu sawl tro ac yn sgil eu tuedd amlwg tuag at lywodraeth Putin,” meddai Tom Giffard.

“Does dim lle o gwbl i RT ar ein tonfeddi. Doedd hi’n gwneud dim ond dosbarthu camwybodaeth, rhannu celwydd y Kremlin, a gweithio fel propaganda i unben Rwsia.

“Roedd y penderfyniad hwn yn un cywir, heb amheuaeth, ac rydyn ni angen sicrhau bod sefydliadau newyddion yn adrodd ffeithiau’r rhyfel yn deg a chytbwys.”

‘Bustl llygredig yn camhysbysu’r byd’

Mae Chris Elmore, yr Aelod Seneddol Llafur dros Ogwr, wedi croesawu’r newyddion hefyd,.

“Mae hi’n bwysig bod Ofcom wedi dirymu trwydded ddarlledu RT ac mae hi’n briodol mai corff annibynnol sydd wedi penderfynu gwneud hyn,” meddai ar Twitter.

“Doedd y propaganda a oedd yn cael ei boeri gan RT yn ddim byd mwy na bustl llygredig oedd yn trio gwenwyno trafodaethau cyhoeddus a chamhysbysu’r byd gyda chelwyddau.”

Dirymu ar unwaith

Wrth ddirymu’r drwydded, dywedodd Ofcom eu bod nhw o’r farn bod maint a natur ddifrifol bosib y materion sydd wedi cael eu codi mewn cyfnod byr o amser yn peri pryder mawr – “yn enwedig o ystyried hanes cydymffurfio RT”.

Mae’r sianel wedi derbyn dirwy o £200,000 am achosion blaenorol o dorri didueddrwydd dyladwy.

Mae’r ymchwiliad wedi ystyried ffactorau gan gynnwys perthynas RT â Ffederasiwn Rwsia, ac wedi cydnabod ei fod yn cael ei ariannu gan wladwriaeth Rwsia.

Nododd Ofcom fod cyfreithiau newydd yn Rwsia “sydd i bob pwrpas yn gwneud unrhyw newyddiaduraeth annibynnol sy’n gwyro oddi wrth naratif newyddion gwladwriaeth Rwsia ei hun, yn enwedig mewn perthynas â’r ymosodiad ar Wcráin, yn drosedd”.

“O ystyried y cyfyngiadau hyn, rydym o’r farn ei fod i’w weld yn amhosib i RT gydymffurfio â rheolau didueddrwydd dyladwy ein Cod Darlledu o dan yr amgylchiadau,” meddai Ofcom.

“Gan gymryd hyn oll i ystyriaeth, yn ychwanegol at ein pryderon cydymffurfio uniongyrchol a lluosog, rydym wedi dod i’r casgliad na allwn gael ein bodloni y gall RT fod yn ddarlledwr cyfrifol o dan yr amgylchiadau presennol.

“Gan hynny, mae Ofcom yn dirymu trwydded RT i ddarlledu, yn effeithiol ar unwaith.”

‘Ddim yn addas’

Mae rhyddid mynegiant yn rhywbeth sy’n cael ei warchod yn frwd yn y wlad hon, ac mae’r trothwy ar gyfer cymryd camau ynghylch darlledwyr wedi’i osod yn uchel iawn, meddai’r Fonesig Melanie Dawes, Prif Weithredwr Ofcom.

“Gan ddilyn proses reoleiddio annibynnol, rydym wedi dod i’r casgliad heddiw nad yw RT yn addas ac yn briodol i ddal trwydded yn y Deyrnas Unedig,” meddai.

“O ganlyniad, rydym wedi dirymu trwydded ddarlledu RT yn y Deyrnas Unedig.”