Mae’r nifer o garthion heb eu trin sy’n cael eu gollwng i afonydd Cymru yn “broblem ddifrifol”, medd Llŷr Gruffydd, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ogledd Cymru wrth golwg360.

Daw hyn wrth i Bwyllgor Newid Hinsawdd y Senedd alw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar frys i fynd i’r afael â gollyngiadau carthion gan gwmnïau dŵr i afonydd Cymru.

Dywed y pwyllgor fod angen i Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, ddechrau gweithio gyda chwmnïau dŵr ar unwaith i leihau faint o garthion amrwd sy’n cael eu gollwng i afonydd.

Pan fydd dŵr llonydd yn cymysgu gyda dŵr carthffosydd, bydd cwmnïau dŵr weithiau’n rhyddhau’r gymysgedd i afonydd.

Yn ôl y cwmnïau dŵr, byddai cartrefi a busnesau’n gorlifo â charthion oni bai am y gollyngiadau.

Fodd bynnag, mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd yn gofidio am ba mor aml mae’r gollyngiadau hyn yn digwydd a’r cynnydd sydd wedi bod yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Yn 2016, cafodd ychydig o dan 15,000 o ddigwyddiadau o’r fath eu cofnodi gan 545 o fonitorau yng Nghymru.

Ond erbyn 2020, er bod nifer y monitorau ond wedi cynyddu i 2,000, roedd dros 105,000 o achosion o garthion heb eu trin yn cael eu gollwng i afonydd Cymru.

Ar ben hynny, mae’r adroddiad yn nodi nad yw’r ffigyrau hyn yn cynnwys “gorlifoedd storm heb eu trwyddedu na gorlifoedd storm nad ydynt yn cael eu monitro gan gwmnïau dŵr” ac felly bod y nifer gwirioneddol o achosion o ollwng carthion yn llawer uwch.

Mae’r pwyllgor, felly, yn galw am drefniadau monitro gwell i fesur effaith y gollyngiadau ar yr amgylchedd, ac maen nhw’n dweud y dylai’r Gweinidog Newid Hinsawdd gael amserlen benodol ar gyfer y gwaith.

‘Problem ddifrifol’

“Mae hi’n broblem ddifrifol ac yn broblem sydd â goblygiadau y dylen ni gyd boeni amdanyn nhw o safbwynt yr amgylchedd ac iechyd y cyhoedd,” meddai Llŷr Gruffydd wrth golwg360.

“Mae yna elfennau eraill yn cyfrannu at ddirywiad ansawdd dwr ein hafonydd ni, ond yn sicr mae hwn yn un o’r elfennau y mae’n rhaid i’r Llywodraeth fynd i’r afael ag e oherwydd mae’r dirywiad wedi bod mor eithafol ac yn amlwg os bydd hynny yn parhau bydd y broblem yn mynd yn waeth ac yn waeth.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi colli cyfle i fynd i’r afael â’r broblem, yn ôl Llŷr Gruffydd.

“Yr adeg gorau i fynd i’r afael â rhywbeth fel hyn oedd 10 mlynedd yn ôl, ond yr ail amser gorau i fynd i’r afael â rhywbeth fel hyn yw nawr,” meddai wedyn.

“Fe allwn ni edrych yn ôl yn sicr, a difaru bod dim mwy wedi cael ei wneud, ond mae’n rhaid i ni sicrhau rŵan nad ydym yn edrych yn ôl eto mewn pum mlynedd ac yn dweud yr un fath.

“Mae angen i’r Llywodraeth gael ei act at ei gilydd yn fan hyn, a nhw yw’r corff sydd yn y canol all dynnu’r holl elfennau sydd angen eu tynnu at ei gilydd i ddatrys hyn ac rydw i eisiau eu gweld nhw’n gwneud hynny a gwneud hynny ar frys.”

‘Gwella’r isadeiledd’

“Does dim un ateb penodol i hyn, mae yna nifer o atebion gwahanol sy’n gorfod dod at ei gilydd,” meddai wedyn.

“Mae rôl gan y Llywodraeth i fapio allan sut rydan ni’n cyflawni’r holl elfennau yna.

“Yn amlwg, mae angen rhaglen fuddsoddi er mwyn gwella’r isadeiledd, oherwydd rydan ni’n delio gydag isadeiledd o Oes Fictoria yn fan hyn sydd ddim yn addas i bwrpas.

“Nawr, dyw e ddim yn bragmatig i ofyn am adeiladu’r holl isadeiledd drwy Gymru gyfan, ond yn sicr mae’n bosib adnabod lle mae’r anghenion mwyaf a delio gyda rheini.

“Yn hynny o beth, mae gan y cwmnïau dŵr rôl i chwarae oherwydd nhw sy’n gyfrifol am yr isadeiledd.

“Mae’n rhaid i Ofwat fod yn rhan o’r ateb hefyd er mwyn gwneud yn siŵr bod gan y cwmnïau dŵr y cyllid angenrheidiol er mwyn gwneud y gwaith sydd angen ei wneud.”

Cyfoeth Naturiol Cymru

“Y pwynt olaf dw i eisiau ei wneud yw bod gan Gyfoeth Naturiol Cymru rôl allweddol i chwarae yn fan hyn,” meddai wedyn.

“Ond fel sy’n digwydd yn rhy aml, mae yna gwestiynau ynglŷn ag os oes ganddyn nhw’r capasiti a’r adnoddau angenrheidiol i wneud eu gwaith yn gywir yn y maes penodol yma.

“Maen nhw er enghraifft yn cydnabod eu bod nhw ddim ond yn delio neu ddim ond yn chwilio mewn i achosion o orlifoedd o ryw lefel arbennig.

“Hynny yw, mae yna nifer lawer o ollyngiadau llai dydyn nhw ddim yn chwilio mewn iddynt ac mae rhywun yn rhyw hanner ddallt y rhesymeg y tu ôl i hynny.

“Ond gyda’i gilydd, mae’r miloedd o ollyngiadau llai yna yn creu problemau mawr.

“Felly mae’n rhaid i ni gyrraedd pwynt lle rydan ni yn hyderus bod Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd mewn sefyllfa i allu bod ar dop y mater yma fel y byddech chi’n disgwyl iddyn nhw fod.”