Cymru yw’r wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gyflwyno cynllun i ailgylchu offer pysgota.
Cafodd y llwythi cyntaf o sbwriel eu casglu heddiw ar Ddiwrnod Ailgylchu Byd-eang (dydd Gwener, Mawrth 18), a chafodd tua thair tunnell o offer pysgota eu hel i’w hailgylchu o saith harbwr ledled Cymru.
Mae biniau ailgylchu ar gyfer hen offer pysgota wedi’u gosod ym mhorthladdoedd Abertawe, Conwy, Aberdaugleddau, Caergybi, Ynys Môn, Abergwaun ac Aberteifi.
Cafodd y biniau eu llenwi i’r ymylon â rhwydi pysgota, rhaffau, a bwiau a allai fel arall fod wedi cael eu taflu i’r môr neu gael eu hanfon i safleoedd tirlenwi.
Bydd y gwastraff yn cael ei dorri’n fân a’i droi’n belenni, cyn cael ei ailddefnyddio i greu adnoddau megis dodrefn stryd, dan y Cynllun Adfywio Rhwydi.
‘Mwy o blastig na physgod’
Mae lle i gredu bod offer pysgota yn gyfrifol am hyd at 20% o’r holl sbwriel sydd yn y moroedd, a dangosodd arolwg y llynedd mai offer pysgota oedd 14% o’r holl sbwriel a gafodd ei ganfod ar draethau Cymru.
Dywed Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Cymru, fod cynlluniau fel hyn yn “dangos ein bod, drwy gydweithio, arloesi a gweithredu, yn gallu meddwl am atebion ymarferol a fydd yn sicrhau ein bod yn gadael ein moroedd mewn cyflwr gwell ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol”.
“Yn anffodus, os byddwn ni’n parhau i wneud yr hyn rydyn ni’n ei wneud ar hyn o bryd, mae adroddiadau’n dangos ei bod yn bosibl y bydd gennym fwy o blastig na physgod yn ein cefnforoedd erbyn 2050,” meddai.
“Fyddwn ni ddim yn osgoi wynebu’r heriau sydd o’n blaenau.
“Ers datganoli, rydyn ni wedi gweithio’n eithriadol o galed i newid ein record ar ailgylchu, o fod yn un o’r rhai gwaethaf yn y byd i un o’r goreuon.
“Drwy ymdrech ar y cyd gan Dîm Cymru, gallwn ni greu economi gylchol go iawn lle byddwn ni’n ailgylchu ac yn ailddefnyddio, gan gryfhau’n cadwyni cyflenwi a diogelu’r blaned.
“Mae’r hyn sy’n digwydd ar draws y byd yn dangos inni fod brys mawr i wneud hynny.”
‘Elwa yn aruthrol’
Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi darogan y bydd faint o blastig sydd yn ein cefnforoedd yn treblu yn ystod yr ugain mlynedd nesaf, a hynny, i raddau helaeth, oherwydd diffyg seilwaith ailgylchu.
Gall offer pysgota sydd wedi’i adael a’i daflu niweidio bywyd morol a chynyddu’r risg y bydd micro-blastigau’n cyrraedd y gadwyn fwyd.
Gweithiodd Llywodraeth Cymru gydag Odyssey Innovation Ltd ar y cynllun, a dywedodd eu rheolwr gyfarwyddwr, Rob Thompson mai “dim ond drwy gydweithio, yn bennaf rhwng y sector pysgota a grwpiau cadwraeth, gyda chefnogaeth prifysgolion a’r llywodraeth, mae’r Cynllun Adfywio Rhwydi wedi bod yn bosibl”.
“Bydd y prosiect cydweithredol hwn rhyngon ni, Llywodraeth Cymru a chymunedau pysgota yn dangos yr arferion gorau mewn sector lle mae gwir angen gwneud hynny, a bydd ansawdd ein moroedd a’r blodau a’r planhigion sydd ynddyn nhw yn elwa’n aruthrol hefyd,” meddai.
‘Ehangu i bob porthladd’
Ychwanega Marion Warlow o Gymdeithas Pysgotwyr Cymru eu bod nhw wedi cefnogi’r prosiect hwn o’r cychwyn cyntaf.
“Ar y cyd ag Odyssey Innovation, mae awdurdodau’r porthladdoedd, yr awdurdodau lleol a grwpiau cymunedol, a physgotwyr wedi bod yn cydweithio â thîm y prosiect peilot i ailgylchu ac adfywio offer pysgota sydd wedi cyrraedd diwedd ei oes a phlastigau caled,” meddai.
“Rydyn ni’n mawr obeithio bydd y profiad a fagwyd yn ystod y cynllun peilot hwn yn sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei ehangu mewn ffordd gynaliadwy yn y tymor hir i bob porthladd a harbwr yng Nghymru, gan leihau’n sylweddol ein dibyniaeth ar dirlenwi yn y dyfodol.”
Mae’r cynllun hwn yn un o nifer y mae Llywodraeth Cymru yn ei arwain wrth hyrwyddo’r newid i economi gylchol, lle mae gwastraff yn cael ei droi’n adnodd a’i ddefnyddio ble bo hynny’n bosib.
Yn ogystal â thorri allyriadau carbon deuocsid, bydd economi gylchol yn cryfhau ac yn atgyfnerthu cadwyni gyflenwi Cymru wrth iddi leihau’i dibyniaeth ar fewnforion o dramor, meddai Llywodraeth Cymru.
Mae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau i droi Cymru yn Genedl Ddiwastraff erbyn 2050 hefyd.