Mae’r gwaith o baru ffoaduriaid a theuluoedd dan y cynllun Cartrefi i Wcráin wedi dechrau.
Bydd Cymru’n gweithredu fel uwch-noddwr ar gyfer y cynllun a fydd yn rhoi cyfle i bobol sy’n ffoi rhag y rhyfel geisio lloches yn y wlad.
Mae 10,000 o bobol wedi cofrestru eu bwriad i gynnig llety yn eu cartref, ac i noddi unigolyn o Wcráin fel rhan o’r cynllun ac mae pobol wedi dechrau cael eu paru.
Bydd yr opsiwn yma ar gael i bobol sy’n ffoi o Wcráin o Fawrth 26, ac mae’n caniatáu i bobol sydd heb gysylltiadau teulu presennol i gael fisa i ddod i’r Deyrnas Unedig am hyd at dair blynedd.
‘Estyn croeso cynnes’
Dywed Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, y bydd y cynllun Cartrefi i Wcráin yn helpu pobol mewn angen difrifol sy’n wynebu amgylchiadau truenus.
“Mae cyfrifoldeb arnon ni i helpu pobl sy’n ffoi rhag amgylchiadau mor anodd, ond mae hefyd gyfrifoldeb arnon ni i sicrhau bod gwasanaethau cymorth ar gael pan fydd pobl yn cyrraedd,” meddai.
“Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda phobol a sefydliadau ym mhob cwr o Gymru i wneud yn siŵr bod hyn yn digwydd.
“Rydyn ni am i Gymru fod yn Wlad Noddfa, a byddwn ni’n parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod Cymru yn estyn croeso cynnes.”
‘Sicrhau cymorth’
Ychwanega Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, bod rhan o rôl Cymru fel uwch-noddwr yn golygu gweithio’n agos gyda llywodraeth leol yng Nghymru a’r trydydd sector a gwasanaethau cyhoeddus ehangach i sicrhau bod y cymorth sydd ei angen ar ffoaduriaid ar gael pan fyddan nhw’n cyrraedd.
“Mae hyn yn cynnwys cymorth i bobol sy’n dioddef trawma a salwch sy’n deillio’n uniongyrchol o’r rhyfel,” meddai.
“Byddwn ni hefyd yn gallu noddi pobol yn uniongyrchol.
“Bydd pobol sy’n cyrraedd drwy’r llwybr hwn yn cael eu cyfeirio at un o’r canolfannau croeso sy’n cael eu sefydlu ledled Cymru, cyn symud ymlaen i lety tymor canolig a thymor hwy.
“Mae’r patrwm hwn yn seiliedig ar lwyddiant y cynlluniau adsefydlu ffoaduriaid o Syria ac Affganistan.”
Mae grŵp rhyngweinidogol newydd Llywodraeth Cymru yn cyfarfod am y tro cyntaf heddiw (dydd Gwener, Mawrth 18) hefyd i oruchwylio’r ymateb i argyfwng Wcráin.
Mae’r grŵp yn cynnwys gweinidogion o bob rhan o’r Llywodraeth, yr Ysgrifennydd Parhaol ac uwch-swyddogion, a byddan nhw’n cyfarfod o leiaf unwaith yr wythnos ac yn cefnogi’r gwaith o wneud penderfyniad brys.