Mae elusen ganser MacMillan Cymru yn dweud eu bod nhw “mor ddiolchgar” am y rhoddion er cof am Gomisiynydd y Gymraeg.

Bu farw Aled Roberts, 59, yn ei gartref yn Rhosllannerchrugog fis diwethaf.

Mae Macmillan wedi ymrwymo i sicrhau bod y Gymraeg a’r Saesneg yn cael eu trin yn gyfartal ac i sicrhau’r defnydd o’r Gymraeg lle bynnag y bo modd.

Mae hyn yn cynnwys ateb ymholiadau ffôn yn Gymraeg pan fydd derbynnydd sy’n siarad Cymraeg ar gael ac os nad oes, mae addewid i ffonio’n ôl pan fo hynny’n bosib, ac mae gwasanaeth Cymraeg ar gael hefyd ar y llinell gymorth.

Mae’r elusen hefyd yn croesawu gohebiaeth yn y ddwy iaith, ac yn addo ateb yn iaith yr ohebiaeth sydd wedi’i derbyn ganddyn nhw.

Ar y cyfryngau cymdeithasol, mae rhywfaint o gynnwys yn Gymraeg wedi cael ei baratoi ymlaen llaw, ac maen nhw’n ymateb yn Gymraeg i sylwadau Cymraeg.

Mae staff a gwirfoddolwyr sy’n medru’r Gymraeg yn gwisgo’r bathodyn Iaith Gwaith ac yn ei osod ar eu llofnod e-bost, ac mae staff a gwirfoddolwyr yn cael eu hannog i ddefnyddio a datblygu eu sgiliau lle bynnag y bo modd.

Mae brand yr elusen yn gwbl ddwyieithog, gan gynnwys y logo, deunyddiau marchnata ac arwyddion sy’n cael eu harddangos yn ystod digwyddiadau.

Mae’r elusen yn dweud eu bod nhw hefyd am benodi hybwr Cymraeg i fonitro a gweithredu eu cynllun iaith Gymraeg, gan gydweithio â swyddfa Comisiynydd y Gymraeg i wneud hynny.

Ymhlith y gwaith yma mae ymrwymo i ddefnyddio cyfieithwyr allanol er mwyn sicrhau deunydd o safon uchel yn y ddwy iaith, a sicrhau bod polisïau’r elusen yn hybu’r defnydd o’r Gymraeg.

Mae’r elusen hefyd yn sicrhau bod cynifer o ddatganiadau i’r wasg â phosib ar gael yn ddwyieithog, ac maen nhw’n cynnig siaradwyr Cymraeg ar gyfer cyfweliadau pan fydd rhywun ar gael.

Pan fo’r elusen yn derbyn cwynion drwy gyfrwng y Gymraeg, maen nhw’n sicrhau ymateb yn Gymraeg.

Trafodaethau

Ar ôl i deulu Aled Roberts sefydlu tudalen codi arian, gan nodi y byddai unrhyw roddion yn cael eu trosglwyddo i’r elusen, mae dros £2,400 wedi’i godi hyd yn hyn.

“Roeddem, ym Macmillan, mor drist i glywed am farwolaeth cyn pryd Aled ar ôl gweithio gyda fe a’i dîm mor agos dros y blynyddoedd diwethaf ar gymryd ein gwaith a gwasanaethau Cymraeg ymhellach,” meddai Richard Pugh, Pennaeth Partneriaethau dros Gefnogaeth Cancr Macmillan dros Gymru, wrth golwg360.

 

“Rydym mor ddiolchgar bod teulu Aled wedi dewis codi arian ar gyfer ein gwasanaethau cyfrwng Cymraeg er cof amdano, ac rydym mewn sgyrsiau i drafod pa wasanaethau maen nhw’n teimlo y byddai’n fwyaf priodol.

“Yn y cyfamser, gall unrhyw un sydd yn dymuno cael cefnogaeth drwy gyfrwng y Gymraeg archebu neu lawrlwytho ein gwybodaeth cancr o’n gwefan, neu ffoniwch ni am ddim ar 0808 808 0000 a defnyddio’r linc iaith.

“Mae nifer o’n gwasanaethau dros Gymru, fel ein cyngor buddion a gwybodaeth am gancr a chanolfannau cefnogol, hefyd yn cynnig gwybodaeth a chefnogaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.

“Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am ein gwasanaethau trwy ffonio ein llinell cefnogaeth uchod neu drwy ymweld â macmillan.org.uk.” 

Gallwch roi arian er cof am Aled Roberts yma.

Cofio Aled Roberts – “hoffus, annwyl, dibynadwy”

Barry Thomas

“Mae’n cael ei gofio am wneud ei holl gyfraniadau yn Gymraeg yn y Siambr”

Aled Roberts yn “ddyn hoffus gydag ymroddiad cadarn i Gymru a’i gymuned yn Rhos”

“Bydd pawb oedd wedi gweithio ag o yn teimo’r golled yn arw, ac estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf gyda’i deulu a’i gyfeillion ar yr amser trist yma”

Aled Roberts “wedi defnyddio pob dawn oedd ganddo dros yr iaith”

Cadi Dafydd

Roedd gan Gomisiynydd y Gymraeg “gymaint o angerdd dros yr iaith a hefyd dros ei gynefin,” meddai Owen Evans

Teyrngedau i Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg a “rhyddfrydwr ymroddedig”

“Fel hyrwyddwr diflino dros warchod a hybu’r Gymraeg, fe wnaeth e ragori yn ei rôl fel Comisiynydd y Gymraeg,” medd Jane Dodds

Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg, wedi marw yn 59 oed

“Roedd Aled yn gymeriad hoffus â dawn anghyffredin i ddod â phobol at ei gilydd”