Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i Gomisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts, a fu farw ddoe (dydd Sul, Chwefror 13) yn 59 oed.

Roedd Aled Roberts yn gyn-Aelod Cynulliad dros y Democratiaid Rhyddfrydol, a bu’n Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam hefyd.

Cafodd ei eni a’i fagu yn Rhosllannerchrugog ger Wrecsam, a bu’n gweithio fel cyfreithiwr yn ardaloedd Wrecsam, Rhuthun a’r Wyddgrug.

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, fod y newyddion yn “ergyd fawr” i deulu’r blaid.

“Dw i’n drist ofnadwy o glywed am farwolaeth Aled. Roedd Aled yn rhyddfrydwr ymroddedig, ac roedd yn adnabyddus am weithio’n eithriadol o galed fel Aelod Cynulliad dros Ogledd Cymru ac fel uwch-gynghorydd ar Gyngor Bwrdeistref Wrecsam,” meddai.

“Mae’r newyddion hwn yn ergyd fawr i deulu’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, ac mae fy meddyliau a’m gweddïau gyda’i deulu a’i ffrindiau ar yr adeg anodd hon.

“Trwy gydol ei gyfnod fel Aelod Cynulliad fe wnaeth Aled barhau i roi sefyll dros ei gymunedau wrth wraidd ei holl weithredoedd.

“Yn ei rôl fel llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol dros Blant, Addysg a’r Gymraeg, fe wnaeth e ymladd yn galed dros fuddsoddi yn ein pobol ifanc, gan gynnwys i sicrhau bod Llywodraeth Cymru’n cynnal y Grant Amddifadedd Disgyblion.

“Mae’n cael ei gofio am wneud ei holl gyfraniadau yn Gymraeg yn y Siambr.

“Fel cynghorydd, roedd Aled yn fodel rôl fel gwas i’r gymuned a chynrychiolodd Ward Ponciau rhwng 1991 a 2012, a bu’n gwasanaethu fel Maer Wrecsam yn 2003-04. Cafodd ei ethol yn Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ym mis Mawrth 2005.

“Tu allan i wleidyddiaeth, roedd gan Aled yrfa amlwg fel cyfreithiwr lleol, ac yn 1985, roedd yn rhan o’r ymgyrch i amddiffyn un o sefydliadau lleol y Glowyr rhag cau.

“Roedd yn Gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gymraeg I D Hooson am flynyddoedd, ac yn un o lywodraethwyr Ysgol Maes y Mynydd, Rhosllannerchrugog. Roedd yn Gristion ymroddedig hefyd.

“Bydd Aled yn cael ei gofio’n bennaf am ei ymroddiad i’r iaith Gymraeg. Fel hyrwyddwr diflino dros warchod a hybu’r Gymraeg, fe wnaeth e ragori yn ei rôl fel Comisiynydd y Gymraeg, a cheisiodd hyrwyddo’r iaith ymhob agwedd o fywyd, gan gynnwys yn ei rôl fel Aelod Cynulliad.

“Bydd marwolaeth Aled yn gadael twll dwfn ym mywyd gwleidyddol Cymru ac yn ein plaid, roedd e’n rhywun roedd pawb yn ei adnabod, a gadawodd argraff gadarnhaol ar bawb oedd yn ei adnabod. Byddan ni’n ei fethu’n fawr.”

“Colled mewn cymaint o ffyrdd”

Wrth roi teyrnged i Aled Roberts, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, y bydd “colled ar ei ôl mewn cymaint o ffyrdd”.

“Rwy’n drist o glywed am farwolaeth sydyn Aled Roberts heddiw. Mae fy meddyliau gyda’i deulu a’i ffrindiau,” meddai Mark Drakeford.

“Cefais y fraint o weithio gydag Aled fel Aelod Cynulliad ac yn ystod ei gyfnod fel Comisiynydd y Gymraeg.

“Daeth â barn wybodus iawn am Ogledd Cymru i’r Senedd, ac ymrwymiad i’r Gymraeg a aeth ymhell y tu hwnt i wleidyddiaeth y pleidiau.

“Yn ystod ei gyfnod fel comisiynydd, tynnodd yn uniongyrchol ar ei brofiad ei hun, a phrofiad y cymunedau yr oedd wedi’u cynrychioli, i ganolbwyntio ar y Gymraeg fel iaith fyw, rhan o’n profiad bob dydd.

“Mae’n ddrwg iawn gennyf fod ei amser a’i waith fel comisiynydd wedi’i dorri’n fyr oherwydd ei farwolaeth annhymig.”

‘Angerdd dros y Gymraeg’

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi rhoi teyrnged iddo ar Twitter hefyd.

“Newyddion trist iawn bod Aled Roberts wedi marw,” meddai Andrew RT Davies.

“Bydd Aled yn cael ei gofio am ei wasanaeth cyhoeddus a’i angerdd dros yr iaith Gymraeg, ac roedd ganddo lawer ar ôl i’w gynnig.

“Mae fy meddyliau gyda’i deulu ar yr amser anodd hwn.”

‘Cyfraniadau arwyddocaol i fywyd Cymru’

“Rydym yn drist iawn o glywed am golli Aled Roberts, ac mae meddyliau’r Ceidwadwyr Cymreig gyda’i deulu, ffrindiau a chydweithwyr ar yr adeg anodd hon,” meddai Samuel Kurtz, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar yr iaith Gymraeg.

“Fel arweinydd cyngor, Aelod Cynulliad a Chomisiynydd yr Iaith Gymraeg, gwnaeth Aled gyfraniadau arwyddocaol i fywyd Cymru a fydd yn aros yn hir yn y cof ac yn cael eu parchu’n fawr.

“Roedd hi bob amser yn bleser cydweithio â fe, a byddwn yn gweld eisiau ei fewnbwn amhrisiadwy i drafodaethau ar ddyfodol ein mamiaith.

“Bydd colled fawr ar ei ôl.”

‘Colled i Gymru’

Dywedodd Delyth Jewell, Aelod o’r Senedd dros Blaid Cymru, bod marwolaeth Aled Roberts yn “golled i Gymru”.

“Newyddion ofnadwy o drist,” meddai.

“Rwy’n anfon pob cydymdeimlad at ei deulu, ei gydweithwyr, a phawb oedd yn ei garu.”

Dywedodd Heledd Fychan, llefarydd Plaid Cymru dros y Gymraeg, y bydd “colled fawr” ar ôl Aled Roberts.

“Roedd parch aruthrol i Aled ar draws y pleidiau gwleidyddol fel cyn Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Wrecsam, cyn Aelod Cynulliad ac yna fel Comisiynydd y Gymraeg,” meddai.

“Roedd yn angerddol dros yr Iaith, a’r defnydd ohoni yn ein bywydau bob dydd, a bydd colled fawr ar ei ôl.

“Hoffwn ar ran Plaid Cymru yrru ein cydymdeimlad dwysaf at ei deulu a’i ffrindiau heddiw, a diolch am ei gyfraniad i’r genedl.”

‘Person o egwyddor, llawn angerdd’

Mae Elin Jones, Llywydd y Senedd, hefyd wedi talu teyrnged.

“Mae colli Aled yn ergyd greulon i’w deulu ac yn golled fawr i’r byd cyhoeddus yng Nghymru,” meddai.

“Roedd yn berson o egwyddor, llawn angerdd dros ei iaith a’i genedl.

“Roedd hefyd yn ddyn hoffus ac uchel ei barch ar draws y byd gwleidyddol.

“Pob cydymdeimlad â’i deulu.”

‘Ergyd i’r Gymraeg’

“Mae hyn yn real ergyd i’r Gymraeg a bywyd cyhoeddus Cymru,” meddai Mabli Siriol ar ran Cymdeithas yr Iaith.

“Mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn gweithio’n agos iawn gydag Aled ers blynyddoedd ers pan oedd e’n Aelod Cynulliad ac yn amlwg fel Comisiynydd y Gymraeg.

“Roedd yna lot mawr o barch ymysg ein haelodau ni tuag ato fe. Roedd yn ddyn real annwyl oedd â dealltwriaeth real ddofn o’r Gymraeg a lot o angerdd dros yr iaith.

“Beth oedd wastad yn fy nharo i amdano fe oedd e’n rhywun oedd yw wirioneddol yn credu yn y syniad fod y Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru ac wedi profi yn ei yrfa ei fod wedi gweithio i wireddu hynny.

“Mae Cymdeithas yr Iaith yn cydymdeimlo gyda’i wraig â’i deulu.”

Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg, wedi marw yn 59 oed

“Roedd Aled yn gymeriad hoffus â dawn anghyffredin i ddod â phobol at ei gilydd”