Bydd Pwyllgor Gwaith Cyngor Ynys Môn yn cyfarfod heddiw (dydd Llun, Chwefror 14) i drafod strategaeth newydd i ddod â channoedd o dai fforddiadwy i’r farchnad.

Gobaith y strategaeth yw gwella’r ddarpariaeth tai ar yr ynys dros y bum mlynedd nesaf drwy ddefnyddio tai sy’n wag ar hyn o bryd ac adeiladu tai newydd sy’n fforddiadwy i bobol leol.

O fewn y tair blynedd nesaf, mae’r awdurdod yn gobeithio ychwanegu 176 o dai cyngor at eu stoc bresennol, a dod â 50 o dai gwag yn ôl i ddefnydd cyhoeddus yn y flwyddyn nesaf.

Roedd adroddiad gan y Cyngor yn nodi bod pris tŷ cyfartalog yn Ynys Môn yn £170,000, tra bod cyflogau cyfartalog yn £27,445.

Yn ôl yr adroddiad, mae 62.2% o boblogaeth leol yr ynys felly wedi’u prisio allan o’r farchnad dai yno, gyda’r ystadegau yn llawer iawn uwch yn yr ardaloedd hynny sydd â chyfraddau uwch o ail gartrefi, fel Rhosneigr.

Croesawu’r cynlluniau

Mae cymuned Rhos-y-bol wedi gweld dros ddwsin o dai cyngor yn cael eu cwblhau yno yn y flwyddyn ddiwethaf – rhywbeth mae un o’r cynghorwyr lleol, y Cynghorydd Aled Morris Jones, yn ei groesawu.

“Dw i’n croesawu bod y tai wedi eu hadeiladu,” meddai wrth golwg360.

“Maen nhw o gymorth i ateb yr angen yn lleol, ac mae pobol leol yn gallu cael tai yn lleol ac yn y cymunedau lle maen nhw wedi cael eu magu.

“Dw i’n croesawu bod y Cyngor yn adeiladu ar y gwaith sydd wedi cael ei wneud ar hyd y blynyddoedd.

“Wrth i ni wneud hyn, a sicrhau bod yr adeiladu’n cael ei dargedu i le mae’r angen, fydd o’n gymorth i warchod a hybu’r iaith Gymraeg.”

Tai cynaliadwy

Wrth ystyried y nifer uchel o bobol sy’n ei chael hi’n anodd fforddio tŷ, mae’r Cynghorydd Aled Morris Jones yn teimlo y byddai angen adolygu’r cynllun lleol “ar frys” er mwyn sicrhau bod yr angen yn cael ei gyrraedd.

Dywed fod angen sicrhau bod y tai cyngor sydd eisoes ar gael yn gynaliadwy i’w preswylwyr.

“Hefyd, mae eisiau i’r Cyngor edrych ar y ddarpariaeth tanwydd sydd yn rhai o’n tai ni,” meddai.

“Ro’n i ond yn siarad efo rhywun bore ‘ma oedd yn bryderus eu bod nhw’n methu â chynnal y system gwresogi yn eu tŷ cyngor. Mae hynny’n ymwneud â’r ‘storage heaters’ hyn sydd yn ddrud eithriadol.”

Ychwanega y bydd costau’n gwaethygu pan fydd y cap ar brisiau ynni yn codi ym mis Ebrill.

Mae’n credu hefyd y byddai angen sicrhau bod cyfleoedd gwaith digonol ar yr ynys, a bod hynny’n “rhan o’r datrysiad” wrth wneud yn siŵr bod trigolion lleol yn gallu camu ar yr ysgol dai.