Bu farw Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg, yn 59 oed ddoe (dydd Sul, Chwefror 13).
Dechreuodd ar ei swydd fel Comisiynydd y Gymraeg ym mis Ebrill 2019 a chyn hynny, bu’n Aelod Cynulliad dros y Democratiaid Rhyddfrydol.
Cafodd ei eni a’i fagu yn Rhosllannerchrugog ger Wrecsam, cyn mynd yn ei flaen i astudio’r Gyfraith ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth.
Gweithiodd fel cyfreithiwr am nifer o flynyddoedd yn ardaloedd Wrecsam, Rhuthun a’r Wyddgrug.
Bu’n cynrychioli ardal Rhos a’r Ponciau ar Gyngor Wrecsam, cyn cael ei ethol yn Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn 2005.
Fe fu’n arwain y Cyngor nes cael ei ethol i’r Cynulliad dros ranbarth Gogledd Cymru yn 2011, ac roedd yn llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar Addysg, Plant a Phobol Ifanc, a’r Gymraeg yn y Senedd.
Ar ôl gwasanaethu am dymor yn y Senedd, cynhaliodd adolygiaeth annibynnol o Gynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg ar ran Llywodraeth Cymru, a bu’n cadeirio’r bwrdd oedd yn gyfrifol am weithredu’r argymhellion.
‘Dim pall ar ei frwdfrydedd’
Wrth dalu teyrnged iddo, dywedodd swyddfa Comisiynydd y Gymraeg ei fod yn “gymeriad hoffus â dawn anghyffredin i ddod â phobol at ei gilydd”.
“Roedd yn ddyn ei filltir sgwâr â’i galon yn y Rhos,” meddai Gwenith Price, Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg.
“Ei angerdd dros dwf yr iaith Gymraeg yn y rhan honno o Gymru oedd y sbardun iddo fynd ati i symbylu newid er lles cenedl gyfan.
“Pobol oedd wrth wraidd popeth a wnaeth.
“Roedd yn gadarn ei weledigaeth dros gynyddu hawliau i siaradwyr Cymraeg, a thros sicrhau cyfiawnder pan fo annhegwch.
“Dymunai weld Cymru lle roedd cyfle gan bob dinesydd i siarad a defnyddio’r iaith.
“Doedd dim pall ar ei frwdfrydedd, a gweithiodd yn ddiflino drwy ei salwch. Braint oedd cydweithio ag o.
“Mae’r newyddion am ei farwolaeth yn ein tristáu yn ddirfawr, a gwyddom y bydd pawb sydd wedi gweithio ag o’n teimlo yr un fath.
“Rydym yn meddwl heddiw am ei deulu; am ei wraig, Llinos, a’u meibion, Ifan ac Osian, ei fam a’i chwaer, ac mae ein cydymdeimladau dwysaf â nhw yn eu colled.”