Byddai plannu coed yn helaeth ar dir Cymru’n “siŵr o gael effaith andwyol” ar economi’r wlad, yn ôl llywydd newydd NFU Cymru.
Mae angen cynyddu faint o goed rydyn ni’n eu plannu, ond mae angen gwneud hynny mewn ffordd gynaliadwy, meddai Aled Jones.
Mae ystadegau Llywodraeth Cymru’n dangos bod coedwigaeth, am bob erw, yn cyflogi traean y nifer fyddai’n cael eu cyflogi drwy ffermio traddodiadol, meddai.
Yn ôl Aled Jones, mae yna ragrith mawr yn perthyn i’r ffaith fod cwmnïau mawr yn prynu tiroedd yng Nghymru er mwyn ceisio gwrthbwyso eu hallyriadau carbon.
Daw ei sylwadau wrth i un ffarmwr o Sir Benfro ddadlau bod angen cynnwys yr argyfwng tir fel rhan o ymgyrch Nid yw Cymru ar Werth.
Mewn blog ar wefan Undod – mudiad democrataidd, sosialaidd, gweriniaethol a gafodd ei sefydlu i sicrhau annibyniaeth – mae Alex Heffron yn dadlau bod cymunedau Cymru’n wynebu bygythiad gan farchnadoedd tai a thir cyfalafol.
“Dydyn ni ddim yn dweud nad plannu coed ydy’r ateb, mae yna le heb os nac oni bai i gynyddu faint o goed rydyn ni’n eu plannu, ond ei wneud o mewn modd sy’n mynd i fod yn gynaliadwy o ran ei fod o ddim yn amharu ar unrhyw agwedd arall,” meddai Aled Jones wrth golwg360.
“Pobol wedi cael eu symud allan o’u man geni, a gorfod gadael oherwydd nad oedd bywoliaeth yno.
“Yndi, mae coedwigaeth yn cyflogi, ond traean o be fysa ti’n gael mewn ffarmio traddodiadol.
“Elli di weld, felly, y peryglon os oes yna 180,000 hectar, dyna ydy’r targed gan Lywodraeth Cymru, sef 10% yn ychwanegol o dir Cymru’n mynd mewn i goed – mae o’n siŵr yn mynd i gael effaith andwyol ar ein heconomi.
“Dw i’n hynod o falch bod cymunedau gwledig yn ffynnu, a dyna le mae’r iaith wedi ffynnu hefyd.
“Mae cadarnleoedd yr iaith yng nghymunedau cefn gwlad Cymru, a’r peth diwethaf dw i eisiau ei wneud fel Cymro ydy gweld hynny’n cael ei amharu.”
‘Euogrwydd newid hinsawdd’
Mae’r argyfwng hinsawdd, a ffurfio polisïau sy’n helpu’r amgylchedd a bioamrywiaeth, yn flaenoriaeth i Aled Jones, ond mae’n dweud bod yr “holl frys a’r rhuthr mawr i blannu coed” yn golygu bod yna farchnad garbon yn ffurfio, a honno’n fygythiad i gymunedau.
“Y cwbl mae hynny’n ei wneud yw bod cwmnïau sydd eisiau datgarboneiddio, a’r unig ffordd maen nhw’n ei wneud o, yn hytrach nag edrych ar eu systemau eu hunain a’u hallyriadau, maen nhw, drwy euogrwydd newid hinsawdd, yn trio llesteirio’r euogrwydd drwy ddefnyddio a phrynu tiroedd yng Nghymru i blannu coed,” meddai.
“Does yna ddim rheolaeth ar y peth, oherwydd y gwirionedd amdani ydy bod cwmnïau’n dod mewn i Gymru ac mae ganddyn nhw goffrau sylweddol o arian tu cefn iddyn nhw oherwydd mae eu harian nhw wedi dod yn sgil cynnal diwydiant sy’n ddibynnol ar losgi nwy, ac ati.
“Tawelu eu cydwybod newid hinsawdd nhw… ‘Prynwn ni gannoedd ar gannoedd a miloedd a miloedd o diroedd yng Nghymru, ac fe wnawn ni wneud ein hunain yn net-sero’.
“Mae yna ryw ragrith mawr yn perthyn i hynny. Rhai o’r diwydiannau, fedra nhw fyth, fyth newid eu dulliau i fod yn llai dibynnol ar garbon, y cwbl maen nhw’n ei wneud yw bod yn ddibynnol ar lefydd eraill i wneud y ffigwr yn negatif.”
‘Uno pawb’
Yn ei flog, ‘O gipio tir i’r argyfwng tai: Nid yw Cymru ar Werth’, mae Alex Heffron yn dadlau bod cymunedau lleol, yr hinsawdd, ac ecoleg ardaloedd ar eu colled wrth i gwmnïau mawr blannu coed conwydd, sydd ag ychydig o fudd ecolegol, er mwyn gwrthbwyso eu hallyriadau carbon.
“Mae angen adferiad ecolegol ledled Cymru, ac ychydig iawn sy’n gwadu hynny, ond rhaid iddo gael ei arwain gan gymunedau Cymru ac ar eu cyfer,” meddai.
“Mae angen democrateiddio pellach ar dir, nid rhagor o grynhoi tir sydd o fudd i gyfalafwyr ac elitau sy’n ffodus i gael eu geni i deulu a all olrhain ei linach yn ôl i’r Normaniaid.
“Ni fydd y marchogion gwyn newydd hyn a addysgir mewn ysgolion preifat, yn eu Barbour, brethyn caerog a welingtons Le Chameau, yn achub ein cymunedau, hyd yn oed os yw’r syniad o gael ein “hachub” yn un cyfeiliornus a nawddoglyd.
“Mae cymunedau ledled Cymru yn wynebu bygythiad gan farchnadoedd tai a thir cyfalafol sy’n cael eu gyrru gan elw.
“O ddegawdau o foneddigeiddio sy’n cynyddu costau rhent a chostau byw dosbarth gweithiol Caerdydd, i gartrefi gwledig sy’n cael eu prynu fel tai haf neu fel tai gwyliau i’w gosod, i’r tir sy’n cael ei brynu gan gronfeydd rhagfantoli, mae’n rhywbeth sy’n uno pawb, ac eithrio’r rhai sy’n gwneud elw.
“Mae hyn oll yn arwain at gynyddu mewn costau byw; yn gyrru pobol i ffwrdd o’u trefi, pentrefi a chymdogaethau genedigol; ac yn troi Cymru’n diroedd hamdden helaeth ar gyfer cyfoethogion.”
Bydd rali Nid yw Cymru ar Werth yn cael ei chynnal yn Aberystwyth ddydd Sadwrn (Chwefror 19).