Prif flaenoriaeth Llywydd newydd NFU Cymru yw sicrhau bod gan Gymru bolisïau amaethyddol “hollol grwn”, sydd ddim yn rhai andwyol.

Mae yna heriau enfawr yn wynebu’r maes, o ystyried newid hinsawdd a’r ffaith bod Cymru wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, meddai Aled Jones, sy’n ffarmio ar gyrion Caernarfon yng Ngwynedd.

Cafodd Aled Jones ei ethol yn unfrydol fel Llywydd yr wythnos hon, a chafodd Abi Reader, sy’n rhedeg fferm laeth yng Ngwenfô ger Caerdydd, ei hethol yn Ddirprwy Lywydd.

Mae teulu Aled Jones yn ffermio ers wyth cenhedlaeth, a bu’n gadeirydd cwmni Cattle Information Services am saith mlynedd ac yn un o ymddiriedolwyr Holstein UK am wyth mlynedd.

Mae yna broblemau gwirioneddol, byd eang o ran sicrhau cyflenwad bwyd digonol, ar hyn o bryd, meddai Aled Jones wrth golwg360, ac mae’n rhagweld mai dyna un o’r prif heriau sy’n wynebu’r gymuned amaethyddol, a dynoliaeth yn ehangach.

“Mae’r rhan fwyaf o bobol yn mynd i siopa ac mae’r silffoedd yn eithaf llawn, ond mi ddaeth o’n berffaith amlwg yn ystod y cyfnod ar gychwyn Covid pa mor fregus ydy’r gadwyn fwyd am y rheswm syml bod ein bwyd ni’n dod o bedwar ban byd,” meddai Aled Jones.

“Munud mae yna rywbeth bach, lleiaf erioed yn digwydd i’r gadwyn honno, mae pobol yn dechrau cynhyrfu’n sydyn iawn.

“Y gwirionedd amdani, os edrychi di ar wybodaeth sy’n dod o’r Food and Agricultural Organisation, darn o’r Cenhedloedd Unedig, does yna ddim ryw storfa fawr o fwyd tu cefn inni.

“Rydyn ni bron iawn fel diwydiant just in time. Does yna ddim llawer o stôr o bethau’n cael eu cadw achos mae hynny’n gostus.

“Yn ôl ar ddechrau’r 70au pan wnaethon ni ymuno â’r gymuned Ewropeaidd, roedd holl bolisïau Ewrop wedi bod i hybu cynhyrchiant bwyd. Roedd dwy ryfel byd wedi cael effaith enfawr arnom ni, roedd Ewrop yn llwgu am ddegawdau ar ôl y rhyfel.”

“Mewn lle bregus”

Gwellodd pethau yn raddol, ac roedd gan Ewrop “hen ddigon o fwyd”, ond mae poblogaeth y byd wedi dyblu ers y 70au, a’r adnoddau i gynhyrchu bwyd yn lleihau.

“Rho di ar ben hynny, realiti newid hinsawdd sy’n golygu bod yna eithafion o dywydd yn gallu codi mewn rhannau o’r byd – y peth cyntaf sy’n digwydd yw ei fod e’n cael effaith ar faint o fwyd sy’n cael ei gynhyrchu.

“Mae hynny’n golygu ein bod ni mewn lle bregus, a dydy newid hinsawdd ond yn mynd i waethygu hynny.”

Er mwyn symud ymlaen, mae Aled Jones yn dweud ei bod hi’n allweddol sicrhau bod cynnal y gallu i gynhyrchu bwyd yn greiddiol i bolisïau.

Ond, y peth pwysig, meddai, yw bod hynny’n cael ei wneud mewn ffordd sy’n cryfhau gallu’r diwydiant i ofalu am yr amgylchedd a bioamrywiaeth, a lleihau ei dibyniaeth ar garbon.

“Mae amaethyddiaeth yn gyfrifol am tua 12% o allyriadau carbon Cymru, ond mae amaethyddiaeth hefyd yn defnyddio tua 80% o dir Cymru.

“Yndi, mae o’n rhan o’r broblem, ond dyna ydy un o ragoriaethau amaethyddiaeth – mae’r potensial sydd gan amaeth i amsugno carbon gymaint, gymaint mwy nag unrhyw ddiwydiant arall.”

Un peth sy’n pryderu Aled Jones yn ofnadwy yw bod yr “holl drafodaeth” wedi mynd tuag at ddadlau mai’r “ffordd i atal newid hinsawdd ydy plannu coed, plannu coed, plannu coed”.

“Dydyn ni ddim yn dweud nad plannu coed ydy’r ateb, mae yna le heb os nag oni bai i gynyddu faint o goed rydyn ni’n eu plannu,” meddai Aled Jones.

“Ond ei wneud o mewn modd sy’n mynd i fod yn gynaliadwy o ran ei fod o ddim yn amharu ar unrhyw agwedd arall.”

Y llynedd, cyhoeddodd NFU Cymru strategaeth tyfu coed ar gyfer Cymru, ‘Tyfu Gyda’n Gilydd’, a’r neges ynddo yw plannu’r “goeden iawn yn y man iawn”, a hynny “heb golli unrhyw fodfedd o dir lle bysa fo wedi bod yn hanfodol i gynhyrchu bwyd”.

Mewnforio yn “anghynaladwy”

Dydy’r trafodaethau diweddar ynghylch yr angen i fwyta llai o gig coch ac yfed llai o lefrith ddim yn ystyried bod rhinweddau dulliau cynhyrchu Cymru’n golygu bod eu costau carbon yn llawer iawn is na’r ffigwr byd eang, meddai Aled Jones.

“Rydyn ni angen bwyd i fyw, os ydyn ni’n gwneud llai, be ydyn ni’n mynd i roi yn ei le fo?

“Wyt ti’n mynd i gael dy brotein o soya? Mae yn gwestiwn mawr ynghylch ffynhonnell soya, torri coed yr Amazon a phethau felly, ond a ydy’r protein yna’n mynd i ddod o wledydd eraill yn y byd?”

Mae yna ragrith mawr yn y ffaith bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi arwyddo cytundeb masnach ag Awstralia, meddai Aled Jones.

“Mae’r ffaith yn dangos yn glir iawn, yn Ne Cymru Newydd bod 75% o goedwigoedd fan honno wedi cael eu colli oherwydd systemau cig eidion, wedi clirio coedwigoedd er mwyn gallu cadw stoc.

“Mae hynny’n hurt bost yn fy meddwl i, eu bod nhw’n mynd i ganiatáu cig eidion i ddod o lefydd sy’n bell o safonau cynhyrchu gennym ni adref.

“Pan ti’n sôn wedyn am lefrith almon, er enghraifft, mae’r rheiny’n dod o Galiffornia, ac yn fan honno ti angen rhywbeth fel 156 litr o ddŵr i gynhyrchu 1 litr o lefrith almon, o gymharu ag 8 litr o ddŵr ar gyfer cynhyrchu 1 litr o lefrith buwch.

“Does yna ddim cymhariaeth. Mae yna bwysau mawr am gyflenwad dŵr mewn rhai ardaloedd felly.

“Dydy o ddim yn gynaliadwy.”

“Medi’r goblygiadau am ddegawdau”

Mae yna ddadl gref dros ddiogelu dulliau cynhyrchu llwyddiannus, meddai Aled Jones.

“Nid eu colli nhw nag ychwaith lleihau ein gallu fel ein bod ni’n ddibynnol ar fewnforion ar bob twll a chongl, a bod gennym ni ddim trefn na rheolaeth ar sut mae o wedi cael ei gynhyrchu,” meddai.

“Os ydyn ni’n gwneud polisïau anghywir, mi fyddan ni’n medi’r goblygiadau, nid mewn blwyddyn neu ddwy, ond mewn ugain mlynedd, hanner can mlynedd.

“Erbyn iddyn nhw sylweddoli, fydd hi rhy hwyr.”