“Nid oriel yw’r lle priodol ar gyfer graffiti” – dyna farn yr artist o’r Rhondda, Bagsy, ar ôl i furlun gan yr artist graffiti Banksy gael ei symud o Gymru am y tro olaf yr wythnos hon.

Fe fu cryn siom ymhlith trigolion Port Talbot ar ôl i’r gwaith – yr unig waith graffiti gan Banksy yng Nghymru – gael ei symud i leoliad newydd yn Lloegr ddydd Mawrth (Chwefror 8).

Bagsy Leanne Wood
Leanne Wood wedi’i darlunio ar un o fagiau Bagsy

“Yn eironig, nid fi yw’r ffan fwyaf o graffiti,” meddai Bagsy, a ddaeth i amlygrwydd ar ôl iddo roi gwaith graffiti ar fagiau plastig mewn archfarchnadoedd yn y Rhondda, ac sydd bellach yn gwneud bagiau a chrysau-T sydd wedi’u cynhyrchu yn yr ardal.

Mae graffiti “wedi dechrau cael statws” ac mae “symud darn o’i leoliad yn y lle cyntaf yn broblematig i fi oherwydd mae graffiti yn benodol i safle,” meddai Bagsy, gan gyfeirio at y murlun “Season’s Greetings”, a ymddangosodd dros nos cyn y Nadolig yn 2018 ar wal garej y gweithiwr dur Ian Lewis, yn Taibach ar gyrion Port Talbot.

Mae’r murlun yn cyfleu neges am effaith diwydiant trwm ym Mhort Talbot ar yr amgylchedd.

Graffiti yn “sylwebaeth gymdeithasol”  

Roedd y darn graffiti wedi denu ymwelwyr o bell ac agos gan achosi problemau yn ei dro. Bu’n rhaid i Gyngor Castell-nedd Port Talbot gyflogi swyddogion diogelwch i gadw llygad ar y darn celf er mwyn sicrhau bod neb yn ceisio ei ddifrodi a chafodd ffens ei godi o amgylch y garej.

“Mae gwaith Banksy wedi dyrchafu graffiti – i fi, mae’n ymwneud â sylwebaeth gymdeithasol, hynny ydy, y ffordd mae pobol yn ymateb i’r darn sydd wedi cael ei roi yn y lleoliad arbennig yna. Os ydy pobol yn gosod ffens neu eisiau ei hamddiffyn rhag fandaliaid yna mae hynny i gyd yn rhan o’r gwaith celf. Mae’r cyhoedd wedyn yn cymryd perchnogaeth o’r gwaith celf ar ôl iddo gael ei roi ar wal,” meddai Bagsy.

Yn y pendraw, fe benderfynodd Ian Lewis werthu gwaith Banksy i’r gwerthwr celf John Brandler o Essex am swm sydd heb ei ddatgelu, ac roedd e wedi cytuno i gadw’r gwaith yn ei leoliad gwreiddiol am dair blynedd.

Ym mis Mai 2019, cafodd y gwaith ei symud i adeilad Tŷ’r Orsaf, hen orsaf heddlu’r dref, fel bod modd i’r cyhoedd ei weld. Ond mae bellach wedi ei symud i Loegr ac mae’n debyg y bydd yn cael ei arddangos ym Mhrifysgol Ipswich yn Suffolk.

Daw hyn yn dilyn ffrae rhwng John Brandler a’r cyngor ynglŷn â’r gost o gadw’r gwaith celf ym Mhort Talbot. Dywed y cyngor y byddai wedi costio tua £100,000 y flwyddyn i gadw gwaith Banksy ym Mhort Talbot ond mae trigolion y dref yn dweud bod “cyfle wedi’i golli” i adfywio’r dref gan fanteisio ar y murlun i ddenu ymwelwyr.

Yn ôl John Brandler, mae gwaith celf Banksy yn cael ei symud “i’w gadw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, lle mae modd ei weld a’i fwynhau, ond nid ei fandaleiddio.”

Dywed Bagsy nad yw’n cytuno gyda’r penderfyniad i symud y gwaith celf a’i arddangos mewn oriel.

“Dyw mynd ag e i oriel ddim yn rhywbeth dw i’n cytuno ag e. Pan wnes i ddechrau tynnu lluniau ar fagiau siopa, ro’n i’n gweld graffiti fel rhywbeth dylech chi ei brofi yn y foment. Ar hap. Ond ni ddylai bara am byth. Mae rhoi graffiti mewn oriel yn dinistrio’r elfen yna i fi.”

Mae Cymdeithas Gwarchod Banksy yn gobeithio codi arian drwy roi gweithiau celf mewn lleoliadau ar hap er mwyn cynnal a chadw ‘Season’s Greetings’ a gweithiau eraill gan yr arlunydd anhysbys, gan sicrhau bod modd parhau i’w arddangos i’r cyhoedd.