Roedd ugain mlynedd a chwta naw mis rhwng darlledu darlith Tynged yr Iaith dros donfeddi radio Cymru, a darlledu rhaglenni cyntaf erioed sianel S4C ar y teledu.
Ar yr olwg gyntaf, mae’n edrych fel cyfnod byr o amser, ond wrth ystyried y ddau begwn hanesyddol hynny, roedd hi’n gyfnod o newid enfawr yn hynt yr iaith Gymraeg.
Mae’r cyfnod yn llawn o straeon am ymgyrchwyr yn dringo mastiau, gwrthod talu trwyddedi teledu, yn ogystal â bygythiad y gwleidydd Gwynfor Evans i ymprydio.
Heb hynny, mae’n bur debyg na fyddai modd gwylio cynnwys drwy gyfrwng y Gymraeg ar alw bob awr o’r dydd a’r wythnos mwy neu lai.
Ar achlysur 60 mlwyddiant y ddarlith radio hanesyddol, mae golwg360 wedi bod yn siarad â Huw Jones, sydd wedi bod ynghlwm â’r sianel o’i dyfodiad hyd at y presennol.
‘Yr her oedd peidio derbyn statws israddol’
Fel mae’n esbonio, fe wnaeth y ddarlith osod y seiliau ar gyfer yr ymgyrchu a ddigwyddodd yn y cyfnod dilynol.
“Mae’n amlwg bod gweithgareddau Cymdeithas yr Iaith drwy’r 60au a’r 70au wedi deillio’n uniongyrchol o’r ddarlith ac o’r her roedd Saunders Lewis yn ei chyflwyno,” meddai wrth golwg360.
“Yr her oedd peidio derbyn statws israddol i’r Gymraeg, achos pe bai rhywun yn gwneud hynny, yna yn y pen draw, oedd hi’n mynd i farw.
“Roedd y meddylfryd hynny’n sail i’r holl ymgyrchoedd gwleidyddol a phrotestiadau wnaeth ddilyn y ddarlith.”
Tanio’r ymgyrch
Er nad oedd sefydlu sianel Gymraeg yn un o’r blaenoriaethau i ymgyrchwyr yn y 1960au – gan mai dim ond dwy sianel oedd yn bodoli ar y pryd beth bynnag – fe gafodd yr ymgyrch ei thanio yn ystod y 1970au, wrth i’r cyfrwng ddechrau ehangu.
Bryd hynny, roedd rhaglenni Cymraeg yn ymddangos ar sianeli’r BBC ac ITV o bryd i’w gilydd, ond y teimlad oedd y byddai angen darlledwr penodol ar gyfer yr iaith ar gyfer y dyfodol.
“Dw i’n cofio cymryd rhan mewn protestiadau yn Llundain yn 1972,” meddai Huw Jones.
“Fe wnaethon ni eistedd ar draws Oxford Street er mwyn tynnu sylw at yr ymgyrch dros sianel Gymraeg. Roedd hynny ar ddechrau’r ymgyrch am y sianel deledu.
“Fe wnaeth pobol eraill gymryd y peth ymlaen yn llawer mwy dwys drwy gydol y saithdegau.”
Y gobaith a’r siom
Cafodd adroddiad gan y Pwyllgor Annan ei gyhoeddi yn 1977 yn edrych ar ddyfodol darlledu yn y Deyrnas Unedig.
Un o argymhellion yr adroddiad hwnnw oedd y dylid cyflwyno sianel deledu newydd ar wahân i Gymru, a oedd yn cynnwys rhaglenni Cymraeg.
Roedd y rhan fwyaf o bobol yn gweld hynny fel buddugoliaeth, ac fe wnaeth llawer o’r ymgyrchu leddfu yn hynny o beth, ond noda Huw Jones fod dau ddigwyddiad siomedig wedi dod ar ddiwedd y 1970au a deffro’r ymgyrch unwaith eto.
“Fe gollwyd y refferendwm yn 1979,” meddai.
“Roedd siom hynny yn aruthrol, ond wedyn daeth yr Etholiad yn yr un flwyddyn.
“Roedd yr ymrwymiad yma i weithredu argymhelliad yr adroddiad i sefydlu sianel Gymraeg wedi cael ei dderbyn gan bob un o’r pleidiau gwleidyddol yn eu maniffestos ar gyfer Etholiad ‘79.
“Felly roedd yna ddisgwyl mawr – beth bynnag fyddai’n digwydd, pwy bynnag fyddai’n ennill – y byddai’r sianel yn digwydd.
“Ond wedyn daeth Thatcher i mewn a phenderfynu gwyrdroi hynny, a datgan y byddai mwy o raglenni, ond y bydden nhw ar y ddwy sianel oedd yn bodoli eisoes.
“Wedyn, wrth gwrs, fe gafwyd ymateb Gwynfor Evans i hynny, wnaeth danio’r ymgyrch unwaith yn rhagor.”
‘Cadwyn gwbl amlwg’
Noda Huw Jones fod cysylltiad clir rhwng darlith Saunders Lewis yn 1962 a sefydlu S4C yn 1982.
“Yn sicr, mae ymgyrch y sianel wedi ei wreiddio yn yr ymgyrchu blaenorol dros arwyddion ffyrdd, ffurflenni cyhoeddus, ac ati,” meddai.
“Roedd y rheiny wrth gwrs yn amlwg wedi deillio yn uniongyrchol o’r ymateb i ddarlith Saunders Lewis.
“Felly, mae yna gadwyn gwbl amlwg yn rhedeg o ddarlith Tynged yr Iaith i fygythiad Gwynfor Evans i ymprydio, a bod hynny wedi bod yn weithred gatalydd i sefydlu’r sianel.”
‘Creu hyder yng ngwerth yr iaith’
“Roedd ennill y frwydr am sianel deledu a’r fuddugoliaeth ynddi’i hun yn gymaint o hwb i hyder siaradwyr Cymraeg,” meddai Huw Jones wedyn.
“Does dim modd anwybyddu’r effaith seicolegol honno o ymgyrchu a llwyddo dros rywbeth sydd yn rhan o’ch hunaniaeth chi.
“Mae hynny’n wir am yr holl broses o brotestio, a gwneud y datganiad nad ydy statws eilradd ddim yn ddigon da achos bod hynny’n tanseilio ni fel unigolion, cenedl, ac fel cymuned.
“Roedd gwrthod y statws eilradd, symud ymlaen o hynny, ac ennill brwydrau yn gwbl hanfodol i’r broses o greu hyder yng ngwerth yr iaith fel cyfrwng sy’n werth ei gwarchod, ei pharhau a’i throsglwyddo drwy genhedlaethau.”
‘Bob dydd o bob wythnos, mae hi yno’
Wedi ei lansiad yn 1982, daeth Huw Jones yn ddarlledwr blaenllaw ar S4C, cyn dod yn brif-weithredwr a chadeirydd ar y sianel yn ddiweddarach.
“Swyddogaeth y sianel yw bod yn gyfrwng sy’n rhoi llwyfan dyddiol i’r Gymraeg, nid jyst yn y corneli bob hyn a hyn,” meddai.
“Bob dydd o bob wythnos, mae hi yno, mae’r Gymraeg i’w glywed, ac mae yna safon ac amrywiaeth.
“Dw i’n meddwl ei bod hi ddim yn bosib dychmygu bod iaith gyfoes yn y byd sydd ohoni yn gallu goroesi heb fod ganddi fynediad i gyfrwng torfol sylweddol – a dyna beth yw sianel deledu.
“Dydy hi ddim yn ddigon wrth gwrs i beth fyddai rhywun yn dymuno ei gael ar gyfer pob pwrpas mewn bywyd, ond mae hi’n ased sylweddol.
“Ac fel sgil effaith, mae hi wedi arwain at greu mwy nag un genhedlaeth o bobol sydd wedi gallu gweithio drwy gyfrwng yr iaith ac sydd wedi creu sgiliau creadigol amlwg.
“Wrth edrych yn ôl, dim ond criw bychan o actorion proffesiynol Cymraeg oedd yna yn y chwedegau, ond erbyn hyn mae yna gannoedd ohonyn nhw, a phobol greadigol Gymraeg ymhob modd.
“Mae’n rhaid i chi gael hynny os ydych chi am gael sylfaen o ddiwylliant byw er mwyn galluogi i’r iaith ffynnu.”