Mae gwefan newydd wedi cael ei lansio yn cynnig gwersi canu, llefaru a dawnsio.
Bwriad y pecynnau gwersi yw paratoi plant at gystadlaethau eisteddfodol, boed hynny ar gyfer Eisteddfodau’r Urdd, y Genedlaethol, neu eisteddfodau lleol.
Mae’r gwersi wedi’u paratoi yn barod, a bydd chwe thiwtor ar wefan isteddfota.cymru yn mynd drwy bob pennill o gân neu gerdd, neu bob rhan o ddawns, yn ofalus.
Eleni mae’n bosib prynu pecynnau gwersi llefaru i holl oedrannau cynradd, pecynnau gwersi canu i holl oedrannau cynradd, gan gynnwys cyfeiliant, a gwersi dawnsio gwerin a gwersi dawnsio disgo i bob oedran.
‘Denu mwy i gystadlu’
Yn ôl Heledd Dafis, trefnydd gwefan isteddfota.cymru, mae dau fwriad i’r wefan, sef ehangu cylch cyfleoedd i fwy o blant Cymru, a thrwy hynny, sicrhau iechyd da eisteddfodau’r wlad.
“Ymateb i ddau beth mae’r gwersi hyn, sef er mwyn trio gwneud gwersi yn fwy hygyrch yn lle i’r detholedig rai sydd digwydd bod yn y ‘cylch’ yn barod, ac yn gwybod am neu yn adnabod hyfforddwr, â rhywun sydd yn medru mynd â nhw i wersi a thalu am hynny,” meddai wrth golwg360.
“Yn ei dro, mae hyn wedyn yn cyfyngu ar y plant hynny sy’n gallu wirioneddol bod yn gystadleuol ar y circuit eisteddfodol.
“Ac mae hyn yn ei dro yn golygu eisteddfodau tlotach a chylch sydd yn llawer yn rhy fach.
“Felly gobeithio bydd mwy o blant yn cael cyfleoedd i gael hyfforddiant gydag arbenigwyr a bod llai o rwystrau i hynny.
“Canlyniad naturiol hyn fydd cynnydd yn y nifer o blant all wirioneddol fod yn gystadleuol yn yr Eisteddfod a chyrraedd eu potensial.
“Bydd hyn yn taflu’r rhwyd eisteddfodol yn ehangach gan ddenu mwy i gystadlu yn ein heisteddfodau – ond yn enwedig yn ein heisteddfodau lleol efallai.”
Mae plant yn gallu arwain eu hunain drwy’r wers, eglura Heledd Dafis.
“Yn ogystal â’r gwersi mae’r darn yn ei gyfanrwydd i fynd drosto gyda’r tiwtor, a phethau ychwanegol fel top tips, gair o gyngor, a chyfeiliant ac ati – popeth i baratoi plentyn ar gyfer y llwyfan.”
Mae yna chwe thiwtor yn cynnig gwersi ar y wefan, Angharad Llwyd, sy’n adnabyddus am bortreadau Sophie ar Rownd a Rownd; Cai Fôn Davies, cantor a pherfformiwr sydd wedi ennill Gwobr Goffa Gwyneth Morus Jones deirgwaith; Ceirios Haf Gruffudd, perfformwraig, cantores, hyfforddwraig ac athrawes ran amser; Tudur Phillips, dawnsiwr stepio a chyflwynydd sydd wedi bod yn un o ymgeiswyr Ysgoloriaeth Bryn Terfel; Cerian Phillips, sy’n hyfforddi’r ddawns werin ac sydd wedi cael ei dewis i ymgeisio am Ysgoloriaeth Bryn Terfel deirgwaith; a Jess Elder, dawnswraig a hyfforddwraig dawns llawrydd fydd yn arwain plant drwy’r ddawns disgo.