Mae cynhyrchwyr sioe gyntaf Canolfan Mileniwm Cymru eleni wedi cyhoeddi cyfres o enwau cyfarwydd yn rhan o’r cast.

Fe fydd y sioe gerdd gomedi wreiddiol, Anthem, yn cael ei pherfformio yn Stiwdio Weston y ganolfan rhwng 30 Mawrth a 22 Ebrill.

Yn ymddangos yn y prif gast mae rhai o sêr y byd actio yng Nghymru, gan gynnwys Rhian Morgan, Iestyn Arwel, Lily Beau Conway, Rhys ap Trefor, Gwydion Rhys, Joey Cornish, a Leilah Hughes.

Canolbwynt y sioe, yn ôl y cynhyrchwyr, fydd cystadleuaeth ganu deledu fwyaf y genedl, ac wrth i’r gystadleuaeth honno ddechrau poethi, bydd y sioe yn edrych ar y “drama a’r doniolwch” sy’n datblygu ar yr awyr, yn ogystal â thu ôl i’r llenni.

Eleni, mae Canolfan Mileniwm Cymru yn dathlu deng mlynedd ers eu cynhyrchiad gwreiddiol cyntaf, Ma’ Bili’n Bwrw’r Bronco, a gafodd ei berfformio ym mis Gorffennaf 2012.

Cafodd Anthem ei hysgrifennu gan Llinos Mai, sydd hefyd wedi cyd-gyfansoddi’r caneuon a’r gerddoriaeth gyda Dan Lawrence, a bydd Alice Eklund yng nghadair y cyfarwyddwr.

Gallwch ddarllen sylwadau gan yr awdur Llinos Mai yn y darn isod:

Canolfan Mileniwm Cymru yn cynhyrchu ‘Anthem’

Bydd y sioe gerdd gomedi, Anthem, yn “llythyr cariad at wlad y gân, ond â’i thafod yn dynn yn ei boch”