Bydd hi bellach yn bosib cofrestru ar gyfer cystadlaethau Eisteddfod yr Urdd tan hanner nos ar Chwefror 17, yn sgil problemau technegol.

Ddoe (dydd Llun, Chwefror 14) oedd y dyddiad cau yn wreiddiol, ond mae’r Urdd wedi dweud eu bod nhw’n ymwybodol fod rhai wedi cael problemau gyda’r system.

Nifer uchel o ddefnyddwyr yn ceisio defnyddio’r safle ar unwaith oedd achos y broblem, meddai’r Urdd, ac maen nhw wedi ymddiheuro’n arw am yr anghyfleustra.

Gall unrhyw un sy’n cael problem gysylltu â’r Urdd dros e-bost er mwyn sicrhau bod pawb sydd eisiau cystadlu yn gallu cofrestru i wneud hynny, meddai’r mudiad.

“Mae’r Urdd bellach yng nghanol cyfnod o wirio ceisiadau i gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd, ac o ganlyniad, mae’r system gofrestru am aros ar agor tan hanner nos ar yr 17eg o Chwefror,” meddai Urdd Gobaith Cymru.

“Mae staff yr Urdd wrthi’n delio gydag ymholiadau ac yn awyddus i helpu.

“Os ydy defnyddwyr a darpar gystadleuwyr yn cysylltu â’r Urdd drwy e-bost – eisteddfod@urdd.org – gydag unrhyw broblem, fe fydd aelod o staff yn medru cynnig datrysiad er mwyn sicrhau fod pawb sydd wedi cysylltu yn gallu cofrestru i gystadlu.”