Fe fydd gŵyl sydd wedi’i threfnu gan fyfyrwyr o Brifysgol De Cymru yn uno gyda Gŵyl 6 Music yng Nghaerdydd ym mis Ebrill.

Ymhlith yr artistiaid fydd yn rhan o’r brif ŵyl mae Gruff Rhys, Carwyn Ellis, Gwenno a Georgia Ruth, tra bydd Cerys Matthews a’r Manic Street Preachers yn cymryd rhan mewn sgyrsiau.

Carwyn Ellis

Ochr yn ochr â’r brif ŵyl, fe fydd Immersed! yn arddangos rhai o ddoniau ifanc mwyaf disglair de Cymru, gan godi arian at Ymddiriedolaeth Ganser Arddegwyr.

Fe fydd dros 60 o artistiaid rap, hip-hop, R&B a neo-soul yn perfformio ar draws pum llwyfan, gan gynnwys Afro Cluster, Mace the Great, Benji Wild, Lemfreck, FAITH, Minas a Ladies of Rage.

Bydd llwyfan y brifysgol yn cynnwys perfformwyr ac artistiaid sy’n astudio yn Ysgol Cerddoriaeth a Sain y brifysgol, gan gynnwys Yasmine & the Euphoria, Basic State, Slummz, User Busy, Terrapins, Howl a N.A.S.H.

Ochr yn ochr â hynny, bydd cyfle i artistiaid graffiti arddangos eu gwaith, gyda bwyd stryd, perfformiadau cabaret, ffilmiau byrion, arddangosfeydd celf a marchnad ffasiwn hefyd yn rhan o’r arlwy.

Yn ystod y dydd, bydd Climate Clash Cymru yn digwydd yn Tramshed, gyda’r pwyslais ar gerddoriaeth a newid hinsawdd, gydag oriel a murlun yn seiliedig ar waith Anthony Burrill, a’r bwriad yw archwilio sut i wneud perfformiadau cerddorol byw yn fwy cynaladwy.

Bydd yr ŵyl yn darlledu digwyddiad byw ar Fawrth 30, gan bontio’r ddau ddigwyddiad byw a rhoi cyfle i weld rhai o uchafbwyntiau’r noson yn y Tramshed.

Ar Fawrth 31, sef uchafbwynt yr ŵyl, fe fydd y pwyslais ar sîn amgen Caerdydd, gan gynnwys Black Elvis, Telgate, Shlug, Motel Thieves, Daytona Black, Breichiau Hir, Silent Forum, Ynys a SYBS, a bydd cyfle i’r gynulleidfa fod yn rhan o brofiad fideo 360.

 

“Gwych” fod cynifer o artisitiad o Gymru’n perfformio yng Ngŵyl Radio 6 Music

Huw Bebb

“Mae’r ffaith bod yno gymaint o artistiaid o Gymru ar y lein-yp fel Gruff Rhys, Deyah, Carwyn Ellis, Gwenno yn wych”