Bydd prosiect newydd yn ystyried sut y gall barddoniaeth gyfleu heriau’r argyfwng hinsawdd, a helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng.
Fel rhan o’r prosiect, bydd beirdd o Brifysgol Aberystwyth yn cydweithio â Chanolfan y Dechnoleg Amgen ym Machynlleth gan ganolbwyntio ar atebion di-garbon i’r argyfwng, cyn mynd ati i lunio cerddi.
Yn ôl y prifardd Dr Hywel Griffiths, uwch-ddarlithydd yn yr Adran Ddaearyddiaeth yn Aberystwyth ac un o’r beirdd sy’n rhan o’r prosiect, mae barddoniaeth yn “ffordd effeithiol” o gyfathrebu am bynciau gwyddonol.
Bydd cerddi Cymraeg a Saesneg, wedi’u cyfansoddi gan bum aelod o staff y brifysgol, yn cael eu harddangos i’r cyhoedd yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen cyn symud i Brifysgol Aberystwyth.
‘Annog cydweithio’
Dros yr wythnosau nesaf, bydd yr Athro Mererid Hopwood ac Eurig Salisbury o’r Adran Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, a Matthew Jarvis a Dr Gavin Goodwin o’r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, ynghyd â Dr Hywel Griffiths, yn derbyn hyfforddiant, yn gwrando ar ddarlithoedd, ac yn cynnal trafodaethau er mwyn astudio sut i sicrhau dyfodol cynaliadwy drwy fioamrywiaeth, ynni adnewyddadwy ac adeiladu cynaliadwy.
Bydd y pump yn dysgu am arwyddocâd targedau sero-net wrth gynllunio atebion i’r argyfwng hinsawdd, ac yn ystyried sut beth fydd bywyd di-garbon, cyn mynd ati i ysgrifennu.
“Y bwriad yw trio annog cydweithio rhwng y gwyddorau a’r celfyddydau i drio gwella dealltwriaeth gyhoeddus o’r wyddoniaeth tu ôl i newid hinsawdd, ac yn benodol yr allyriadau carbon a sut rydyn ni’n gallu lleihau allyriadau carbon a mynd i’r afael gyda rhai o heriau newid hinsawdd mewn gwahanol ffyrdd,” meddai Dr Hywel Griffiths wrth golwg360, gan ychwanegu bod gan farddoniaeth “ran fawr” i’w chwarae wrth gyfleu gwybodaeth am newid hinsawdd, a dyfodol di-garbon.
“Dw i’n meddwl bod hynny’n wir am bob math o wyddoniaeth, nid o reidrwydd newid hinsawdd.
“Dw i yn meddwl ei fod e’n ffordd effeithiol o gyfleu negeseuon, o gyfathrebu gyda phobol.”
O fudd i’r cyhoedd
Yn ôl Dr Hywel Griffiths, mae yna symudiad eithaf cryf wedi bod yn ystod y blynyddoedd diwethaf a gwyddonwyr wedi dechrau cydweithio â cherddorion, beirdd, artistiaid gweledol i greu gweithiau sy’n trio archwilio syniadau gwyddonol, yn enwedig o ran newid hinsawdd.
“Un rhan ohono yw’r syniad bod y celfyddydau yn gallu cyfathrebu neges, weithiau, yn fwy effeithiol na dulliau eraill,” meddai.
“Ond mae’r beirdd a’r artistiaid yn gallu cael budd mawr allan ohono fo hefyd, achos mae’n gallu ysbrydoli gweithiau newydd, rhoi syniadau newydd i bobol.
“Dw i wedi gwneud ambell beth dros y blynyddoedd, roeddwn i’n fardd preswyl mewn cynhadledd wyddonol ychydig flynyddoedd yn ôl.
“Mae yna dipyn o hynna yn digwydd, mae yna ddarlleniadau barddoniaeth, a be fysan ni’n ei alw’n stomp, yn rhai o’r cynadleddau mwyaf yn y maes ers cwpwl o flynyddoedd bellach.
“Dyw e ddim jyst yn rhywbeth sy’n mynd i fod o fudd i ni fel ysgrifenwyr, ond mae’n mynd i fod, gobeithio, yn rhywbeth y gall y cyhoedd ei weld, a gobeithio efallai gallu cyhoeddi’r cerddi maes o law.”
‘Cyfathrebu’n effeithiol’
Dywed Dr Anna Bullen o dîm Prydain Ddi-Garbon Canolfan y Dechnoleg Amgen, mai cenhadaeth y Ganolfan yw “ysbrydoli, dysgu a galluogi’r ddynoliaeth i ymateb i argyfyngau’r hinsawdd a bioamrywiaeth”.
“Bydd y ddealltwriaeth newydd a gawn am yr heriau a’r potensial a gynigir gan waith creadigol i gyfrannu at y ddisgwrs ddi-garbon yn bwydo i’n hymdrechion i gyfathrebu’n effeithio â’r cyhoedd ehangach ynghylch atebion amgylcheddol,” meddai.
Mae’r prosiect wedi cael ei ariannu gan y cyllid mae Prifysgol Aberystwyth wedi’i gael gan un o gronfeydd Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol.
Pwrpas cyllid y gronfa honno yw rhoi cymorth i academyddion ac ymchwilwyr weithio ar draws ffiniau disgyblaethau, er mwyn datblygu dealltwriaeth am wahanol safbwyntiau a methodolegau ymchwil y gellid eu defnyddio i fynd i’r afael â heriau amgylcheddol.