Mae Prifysgol De Cymru wedi llongyfarch graddedigion y brifysgol am greu ffilm sydd wedi ei henwebu am Oscar.

Cafodd Affairs of the Art ei chreu gan Joanna Quinn, oedd yn arfer bod yn fyfyrwraig ar gwrs animeiddio’r brifysgol, a Les Mills, fu’n arwain cwrs yno yn y gorffennol.

Mae’r ffilm yn ymddangos ar restr fer y categori Ffilm Fer Animeiddiedig Orau yng Ngwobrau’r Academi eleni.

Roedd cyfanswm o 11 o raddedigion yr Ysgol Ffilm a Theledu yn gweithio ar y ffilm a gafodd ei chyhoeddi y llynedd ac sydd wedi ennill 26 o wobrau byd-eang hyd yn hyn.

Bydd proses bleidleisio a seremoni’r gwobrau eleni yn cael eu cynnal ar ddiwedd mis Mawrth.

Affairs of the Art

Fe wnaeth Joanna Quinn a Les Mills sefydlu Beryl Productions yn y 1980au, ac maen nhw wedi cyhoeddi nifer o ffilmiau animeiddiedig ers hynny.

Mae prif gymeriad y ffilmiau hynny, Beryl, wedi ei henwi ar ôl y cwmni.

Gweithiwr ffatri 59 oed yw Beryl, sydd wrth ei bodd yn dylunio ac yn breuddwydio am fod yn artist byd enwog.

Roedd Joanna Quinn yn un o’r pedwar a wnaeth serennu fel un o gymeriadau’r ffilm, yn ogystal â’r actores o Gaerdydd, Mali Ann Rees.

Dros gyfnod y Nadolig, cafodd y ffilm ei dybio a chafodd y fersiwn Gymraeg ei darlledu ar S4C o dan yr enw Y Cythraul Celf.

Mae Sioned Geraint, Comisiynydd Plant S4C, yn dymuno’n dda i’r criw oedd tu ôl i’r ffilm.

“Llongyfarchiadau mawr i bawb fu ynghlwm gyda’r animeiddiad arbennig hon,” meddai.

“Roedd hi’n bleser cael creu fersiwn Gymraeg o ffilm oedd wedi llwyddo i ddal dychymyg gwylwyr ledled y byd.

“Pob lwc i’r tîm i gyd gyda’r fersiwn Saesneg o’r ffilm Affairs of the Art yn seremoni’r Oscars eleni.”

‘Cyrraedd uchafbwynt y diwydiant’

Mae pedwar yn rhagor o raddedigion Prifysgol De Cymru yn rhan o ffilmiau eraill a gafodd eu henwebu – gan gynnwys Rosie Walker a Ben Brown, a oedd wedi gweithio ar y ffilm Dune, yn ogystal ag Amy Carpenter a Jakub Kupcik, a oedd wedi gweithio ar ffilm Spider-Man: No Way Home.

Dywed Tom Ware, Cyfarwyddwr Cynhyrchu a Pherfformiad y Brifysgol, ei bod hi’n “ffantastig” gweld cymaint o raddedigion yr Ysgol Ffilm a Theledu yn cyrraedd uchafbwynt y diwydiant a chael cydnabyddiaeth fyd-eang.

“Unwaith eto, mae creadigrwydd a phroffesiynoldeb ein graddedigion yn dyst i’r dalent a’r cyfleoedd a gafodd eu meithrin yn ystod eu hastudiaethau yma ym Mhrifysgol De Cymru,” meddai.

Bydd seremoni’r Oscars eleni yn cael ei chynnal yn Los Angeles ar nos Sul, Mawrth 27, gyda’r bleidlais ar agor rhwng Mawrth 17-22.