Nid pob dydd y byddai Sali Mali, SuperTed a Sam Tân yn cael sylw ar lawr y siambr yn San Steffan, ond yn ystod Cwestiynau Cymru yn Nhŷ’r Cyffredin, fe wnaeth Ben Lake, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Geredigion, “greu hanes” wrth grybwyll y rhaglenni plant poblogaidd wrth ofyn cwestiwn.

Fe gyfeiriodd at y ffaith fod y Gronfa Cynnwys Cynulleidfaoedd Ifanc yn dod i ben yn hwyrach ym mis Chwefror, ar ôl darparu cyllid ar gyfer cynnwys i blant a phobol ifanc ar sianeli darlledwyr cyhoeddus.

Roedd y gronfa honno’n cael ei harwain gan y Sefydliad Ffilm Prydeinig (BFI), ac yn cael ei hariannu gan Yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS).

Dros gyfnod o dair blynedd, mae’r gronfa wedi darparu £57m, gyda 5% o’r gyllideb wedi ei chlustnodi ar gyfer cynnwys yn yr ieithoedd Celtaidd ar sianeli cyhoeddus S4C, BBC Alba yn yr Alban a TG4 yn Iwerddon.

Gyda’r gronfa honno nawr yn dod i ben, fe alwodd Ben Lake ar y Swyddfa Gymreig i ddatblygu ffyrdd newydd i sicrhau dyfodol cynnwys rhaglenni plant gwreiddiol drwy gyfrwng y Gymraeg.

‘Amhrisiadwy’

“Mae targed y gronfa o ddarparu 5% o’u cyllid yn yr ieithoedd brodorol wedi bod yn amhrisiadwy i gynhyrchwyr rhaglenni plant Cymraeg,” meddai Ben Lake.

“[Rhai o’r rheiny sydd wedi cael budd o’r gronfa] yw Bex, cyfres ddrama newydd sbon sy’n trafod iechyd meddwl plant, ac wrth gwrs penodau newydd o Sali Mali.

“Mae Mike Young, sef cynhyrchydd Sam Tân a chreawdwr SuperTed, wedi dweud o’r blaen y byddai’r ffefrynnau hoffus hyn heb gael eu creu heb gefnogaeth gan y wlad.

“Felly a wneith y Gweinidog [David Davies] gyfarfod efo fi i drafod effaith cau’r gronfa, ac am ffyrdd i sicrhau dyfodol cynnwys rhaglenni plant gwreiddiol drwy gyfrwng y Gymraeg.”

Ymateb y Gweinidog

Mewn ymateb i hynny, dywedodd David TC Davies, Is-Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y byddai “wrth ei fodd” yn trafod y mater gyda Ben Lake.

“Byddwn yn cyfarfod ag o gyda meddwl agored,” meddai ar lawr y siambr.

“Gallaf atgoffa’r Gŵr Anrhydeddus mai llywodraeth Geidwadol wnaeth sefydlu S4C. Llywodraeth Geidwadol wnaeth hefyd sefydlu Deddf yr Iaith Gymraeg.

“Efallai y bydd y Gŵr Anrhydeddus yn ymwybodol hefyd mai cadeirydd Ceidwadol o’r Pwyllgor Materion Cymreig wnaeth ganiatáu i’r Gymraeg i gael ei siarad am y tro cyntaf yn ystod gwrandawiadau.

“Gallaf sicrhau’r Gŵr Anrhydeddus ein bod ni wastad eisiau cefnogi’r iaith Cymraeg.”

Creu hanes

Ar ôl y cyfarfod, dywedodd Ben Lake gyda thafod yn y boch ei fod yn “falch o greu hanes” ar lawr y siambr wrth gyfeirio at Sali Mali.

Dywedodd hefyd ar Twitter ei fod yn “falch o sicrhau cyfarfod gyda’r Gweinidog i drafod y sefyllfa,” a allai beri “bygythiad andwyol” i raglenni plant o’r fath.

‘Croesawu ffynonellau ariannu eraill’

Dywed S4C fod nifer o gynyrchwyr wedi cael budd ariannol o’r gronfa, ac y byddan nhw’n hapus i weld rhywbeth yn cymryd ei le.

“Yn amlwg rydym yn siomedig fod y Gronfa Cynnwys Cynulleidfaoedd Ifanc yn dod i ben,” meddai llefarydd ar ran y sianel.

“Mae S4C wedi buddio o’r gronfa a nifer o gynyrchiadau megis: Y GyfrinachPersonAY Goleudy; animeiddiadau newydd Sali Mali a Sol, cyfres gomedi Hei Hanes, cyfres ar iechyd meddwl Bex a’r gyfres feithrin Byd Tadcu, wedi eu comisiynu na fyddai fel arall wedi gweld golau dydd.

“Fel yr ail gomisiynydd cynnwys plant mwyaf ym Mhrydain, byddai S4C yn croesawu ffynonellau ariannu eraill er mwyn sicrhau fod ein harlwy ar gyfer plant a phobl ifanc Cymru yn parhau’n gyfredol ac yn uchelgeisiol.”