Mae Ysgrifennydd Addysg Cymru wedi cadarnhau y bydd ysgolion yn cael penderfynu ar eu mesurau Covid eu hunain ar ôl hanner tymor.

Pan fydd yr hanner tymor newydd yn dechrau ar Chwefror 28, bydd ysgolion yn dychwelyd at ddefnyddio’r Fframwaith Penderfyniadau Rheoli Heintiau Lleol, meddai Jeremy Miles heddiw (dydd Gwener, Chwefror 11).

Fydd gorchuddion wyneb ddim fel arfer yn cael eu hargymell mewn ystafelloedd dosbarth mwyach ar ôl yr hanner tymor chwaith.

Mae’r fframwaith cenedlaethol yn gosod canllawiau clir i alluogi ysgolion i deilwra mesurau i adlewyrchu amgylchiadau lleol.

Bydd ysgolion cael cefnogaeth gan swyddogion iechyd y cyhoedd ac awdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod y mesurau yn addas ac yn seiliedig ar dystiolaeth.

Argymhellion ‘cryf’

Mae Llywodraeth Cymru yn argymell yn gryf y dylai staff mewn ysgolion a lleoliadau gofal plant, a disgyblion uwchradd, ddefnyddio profion llif unffordd ddwywaith yr wythnos.

Yn ogystal, maen nhw’n argymell yn gryf y dylai staff sy’n gweithio mewn ysgolion arbennig wneud profion llif unffordd bob diwrnod cyn mynd i’w gwaith.

Mae’n fwriad gan Lywodraeth Cymru leihau’r lefel hyn o brofi yn ystod yr hanner tymor nesaf, ond bydd hynny’n digwydd yn raddol.

O Chwefror 28, fydd gorchuddion wyneb ddim fel arfer yn cael eu hargymell mewn ystafelloedd dosbarth mwyach.

Fodd bynnag, dylai disgyblion uwchradd, staff, ac ymwelwyr ymhob ysgol wisgo gorchuddion wyneb wrth symud o gwmpas ardaloedd dan do mewn ysgolion.

Os yw’r cyd-destun a chyngor lleol yn dangos bod angen gweithredu ar lefel risg ‘Uchel iawn’ dan y fframwaith cenedlaethol, gall ysgolion barhau i argymell bod mygydau’n cael eu defnyddio mewn ystafelloedd dosbarth gan staff a dysgwyr oed uwchradd.

Mae’n rhaid i ysgolion ddychwelyd i’w trefniadau arferol o ran amseroedd dechrau a gorffen ar ôl yr hanner tymor.

‘Llacio’n raddol’

Dywedodd Jeremy Miles fod y fframwaith wedi cael ei addasu heddiw i adlewyrchu’r newidiadau hyn.

“Fel y cyhoeddwyd yn gynharach heddiw, mae adolygiad 21 diwrnod diweddaraf Llywodraeth Cymru wedi dod i gasgliad ar sut y caiff amddiffyniadau eu llacio’n raddol os byddwn yn parhau i weld gwelliannau yn sefyllfa iechyd y cyhoedd,” meddai.

“Fel y nodwyd yn fy natganiad ar 25 Ionawr, rwy’n cadarnhau heddiw y bydd ysgolion yn dychwelyd i ddefnyddio’r Fframwaith Penderfyniadau Reoli Heintiau Lleol erbyn dechrau’r hanner tymor newydd ar 28 Chwefror.

“Dylai ysgolion ddefnyddio’r wythnos nesaf i gynllunio a gweithredu newidiadau i drefniadau gweithredol a sicrhau bod dysgwyr a’u rhieni/gwarcheidwaid, yn ogystal ag aelodau staff, yn glir o’r newidiadau hyn ar gyfer y dychweliad ar ôl gwyliau’r hanner tymor.

“Byddwn yn parhau i adolygu ein cyngor yn rheolaidd.”