Mae’r hanesydd John Morgan-Guy wedi derbyn y teitl anrhydeddus ‘Athro Ymarfer’ ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i gydnabod ei yrfa academaidd a’i ymchwil.

Yn ystod ei yrfa, mae wedi cynnal ymchwil sylweddol i hanes campws y Brifysgol yn Llanbedr Pont Steffan, sy’n dathlu ei deucanmlwyddiant eleni, ac mae’n rhan o’r tîm sydd ynghlwm â’r dathliadau hynny.

Ar hyn o bryd, mae’r Athro yn golygu cyfrol sy’n archwilio rhai o’r casgliadau sydd wedi eu cadw yn Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen, lle mae’n Gymrawd Ymchwil Anrhydeddus.

Bydd o hefyd yn cyhoeddi cyfrol arall maes o law yn cofnodi hanes y brifysgol dros y ddau gan mlynedd diwethaf.

Yr Athro John Morgan-Guy

Ers 1997, mae’r Athro wedi bod yn darlithio’n rhan amser yn y brifysgol, ond mae ei gysylltiad â’r sefydliad yn ymestyn yn bellach yn ôl na hynny.

Yn wreiddiol o Gaerdydd, fe ddechreuodd ei astudiaethau israddedig mewn Hanes yn y brifysgol ym 1962, pan oedd hi’n cael ei galw yng Ngholeg Dewi Sant.

Ar ôl treulio cyfnod yn St Stephens House Rhydychen, lle cafodd ei ordeinio ym 1967, dychwelodd i Gaerdydd i ddechrau ei weinidogaeth yn Y Sblot.

Ers hynny, mae wedi teithio o gwmpas Cymru a Lloegr fel offeiriad, cyn parhau ar ei yrfa academaidd ym 1984.

Yn y flwyddyn honno, dychwelodd i Gaerdydd er mwyn dechrau doethuriaeth ar ‘Eglwys y 18fed Ganrif yn Hen Esgobaeth Llandaf 1660 – 1815’ yn fyfyriwr rhan-amser yn y brifysgol yn Llambed.

Fe dreuliodd 14 mlynedd yn cwblhau’r ddoethuriaeth honno, mewn oes pan doedd dim cyfyngiadau ar nifer geiriau.

‘Pleser ac yn fraint’

Bellach, mae’r Athro Morgan-Guy wedi rhyddhau dros gant o bapurau academaidd, ac wedi dod yn gymrawd mewn nifer o gymdeithasau gwahanol.

“Mae’n bleser ac yn fraint cael fy ngwneud yn Athro Ymarfer yn y Brifysgol,” meddai’r Athro wrth dderbyn y teitl anrhydeddus.

“Mae gen i gysylltiad gydol oes â champws Llambed y Brifysgol ar ei amrywiol ffurfiau yn hanes addysg yng Nghymru.”

Dywedodd Is-Ganghellor y Brifysgol, Yr Athro Medwin Hughes, ei fod yn “falch iawn” o benodi John Morgan-Guy yn Athro Ymarfer, a’i fod yn dod â “chyfoeth o brofiad” i’r sefydliad, a’n “chwarae rhan hanfodol” wrth gynnal ei hanes.