Mae hi’n “hollbwysig” bod arian ychwanegol sy’n cael ei ddarparu i’r aelwydydd fydd yn ei chael hi’n anodd yn ystod yr argyfwng costau byw yn Lloegr, yn cyrraedd yr un bobl yng Nghymru.
Dyna mae Ben Lake, yr Aelod Seneddol Plaid Cymru, wedi dweud wrth golwg360 yn dilyn ffrae rhwng Llywodraethau Cymru a Phrydain ynghylch arian ychwanegol i ostwng biliau treth y cyngor.
Roedd y Canghellor Rishi Sunak wedi gwneud addewid ar ddechrau’r mis i roi £175 miliwn yn ychwanegol i Gymru, i dalu am ostwng biliau treth y cyngor fel sy’n digwydd yn Lloegr.
Byddai’r cynnydd yn y gyllideb yn helpu Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw, yn yr un modd ag sy’n digwydd dros y ffin.
Ond yn ôl ffigyrau sydd wedi eu cyhoeddi’r wythnos hon, mae’n debyg na fydd cyllideb lawn y Llywodraeth ym Mae Caerdydd yn cynyddu mewn gwirionedd, oherwydd gostyngiadau mewn meysydd eraill.
Yn sgil y datgeliad, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford y bydd y Llywodraeth yn “parhau i gefnogi pobol sydd fwyaf o angen cymorth”.
‘Cyfrifoldeb’
Mae Ben Lake, yr Aelod Seneddol dros Geredigion, yn teimlo bod cynyddu’r gyllideb yn “hollbwysig” wrth ystyried ffactorau fel codi’r capiau ar filiau ynni.
“Mae gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyfrifoldeb i sicrhau arian digonol i bob un o’r gwledydd unigol, yn enwedig pan gofiwn mai yn Llundain caiff y system lles a budd-daliadau Cymreig ei benderfynu,” meddai wrth golwg360.
“Mae’r argyfwng costau byw yn effeithio ar bawb ledled y Deyrnas Unedig, ond mae disgwyl i brisiau ynni gynyddu yn sylweddol yng Nghymru gyda’r penderfyniad newydd, gyda dros 280,000 o deuluoedd mewn peryg o ddioddef tlodi tanwydd eleni.
“Penderfyniad y Canghellor oedd hi i beidio ystyried mesurau dros dro fyddai’n lleihau biliau ynni – megis gwaredu treth ar werth biliau ynni er enghraifft – ac felly mae’n ddyletswydd arno i sicrhau cyllid i gefnogi’r teuluoedd hynny yng Nghymru fydd yn gweld eu biliau bron yn dyblu.
“Er fydd costau ynni yn codi i bawb, fydd yr effaith yn waeth ar incymau’r teuluoedd tlotaf.”
Colli ffydd yn yr Undeb?
Mae Ben Lake yn tybio y gallai ffydd y Cymry yn yr Undeb gael ei dirywio os nad yw’r gefnogaeth yn wastad ar draws y cenhedloedd.
“Fydd hi’n anodd iawn i’r Canghellor honni ei fod e’n defnyddio holl rym Trysorlys y Deyrnas Unedig er mwyn helpu teuluoedd tlotaf Cymru, ac felly bod y gyfundrefn bresennol yn gwasanaethu pobol Cymru,” meddai.
“Yn naturiol, fydd nifer gynyddol o bobol yn cwestiynu wedyn os fyddai Cymru ar ei hennill o fedru defnyddio’r pwerau hyn i helpu ein hunain.”