Mae Vaughan Gething, Ysgrifennydd Economi Cymru, wedi amlinellu cynlluniau i lacio cyfyngiadau ond mae’n rhybuddio bod y “pwysau’n parhau” ar y Gwasanaeth Iechyd.

Daw hyn wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi y bydd y cyfyngiadau Covid sy’n weddill yn cael eu dileu ddiwedd mis Mawrth.

Mae gweinidogion yn mynnu mai’r ffaith fod cyfraddau achosion yn lleihau sy’n caniatáu eu penderfyniad, gyda’r defnydd o’r pasys Covid yn dod i ben ar Chwefror 18.

Fe ddywedodd hefyd y bydd y cyfnod hunanynysu yn gallu newid o fod yn ofynnol i fod yn gyngor, ond y bydd yn rhaid aros tan ddiwedd mis Mawrth i wneud y penderfyniad.

Fe ddywedodd Vaughan Gething wrth siarad ar raglen BBC Breakfast ei fod wedi “synnu” gyda phenderfyniad Boris Johnson i ddileu rheolau hunanynysu.

Amserlen

Chwefror 18: Pasys Covid ddim yn ofynnol mewn lleoliadau adloniant, clybiau nos na digwyddiadau mawr.

Chwefror 28: Ni fydd angen gorchudd wyneb mewn ysgolion ond yn parhau’n ofynnol ar drafnidiaeth gyhoeddus, siopau, a gwasanaethau gofal.

Diwedd Mis Mawrth: Ni fydd yn ofynnol i wisgo gorchudd wyneb, ond mae’n ddibynnol ar y wyddoniaeth.

Galwodd y Ceidwadwyr Cymreig am amserlen ar gyfer dileu’r holl ddeddfau Covid.

Ond mae Plaid Cymru yn dweud y dylai gweinidogion Llafur nodi pa feini prawf y mae’n rhaid eu bodloni er mwyn codi’r cyfyngiadau.

‘Pwysau y pandemig yn parhau’

Yn ystod y gynhadledd heddiw (dydd Gwener, Chwefror 11), fe rybuddiodd Vaughan Gething fod “pwysau’r pandemig” ar ysbytai “yn parhau’n gyson”.

“Mae ychydig o dan 1,100 o gleifion sy’n gysylltiedig â Covid-19 yn yr ysbyty ar hyn o bryd ac mae 16 o bobol â Covid-19 mewn gofal dwys,” meddai.

“Mae cyfraddau salwch ac absenoldeb ar draws y Gwasanaeth Iechyd wedi gostwng o’r uchafbwynt fis diwethaf, ond mae materion yn ymwneud â’r gweithlu yn parhau i gael effaith ar y gwasanaethau iechyd, gan gyfrannu at bwysau ehangach y gaeaf”.

Dywedodd fod adroddiadau bob dydd fod pobol yn marw gyda’r coronafeirws.

“Mae fy meddyliau gyda’r holl deuluoedd sy’n galaru colli anwyliaid ar hyn o bryd,” meddai.

Fe atgoffodd Vaughan Gething fod pasys Covid yn ofynnol i fynd i’r gêm rygbi ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad Stadiwm Principality yfory (dydd Sadwrn, Chwefror 12).

“Bydd pobol, fel fi, sy’n mynd i gêm Cymru yn erbyn yr Alban yfory’n dal angen dangos pas Covid,” meddai.

“Gwnewch yn siŵr eich bod wedi lawrlwytho neu argraffu eich tocyn cyn mynd i Stadiwm Principality.”

Roedd Vaughan Gething yn arwain y gynhadledd heddiw gan fod Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, yn hunanynysu wedi iddo brofi’n bositif am Covid-19.

‘Llacio’n raddol ac yn ofalus’

Dywedodd Vaughan Gething y bydd y Llywodraeth yn “dechrau llacio’n raddol ac yn ofalus” ond “ni fyddwn yn dileu’r holl fesurau amddiffynnol ar unwaith”.

“Er y gallwn fod yn hyderus bod achosion o coronafeirws yn gostwng, nid yw hynny’n golygu ei fod wedi diflannu,” meddai.

“Byddwn yn dechrau’r broses hon yr wythnos nesaf drwy ddileu’r gofyniad i ddangos tocyn Covid-19 i fynd i ddigwyddiadau mawr dan do ac awyr agored, clybiau nos, sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd.

“Mae hyn yn golygu o Chwefror 18, dydd Gwener nesaf, na fydd yn ofyniad cyfreithiol mwyach i ddangos pas Covid yng Nghymru.

“Ond os yw lleoliadau a digwyddiadau am barhau i ddefnyddio pasys Covid, fe allan nhw.”

Darllen mwy

Gweinidog yr Economi wedi “synnu” gyda phenderfyniad Boris Johnson i ddileu rheolau hunanynysu

Mae Vaughan Gething yn honni nad yw penderfyniadau Boris Johnson wedi eu selio ar dystiolaeth wyddonol
Mark Drakeford

Llacio rhai o’r cyfyngiadau sy’n weddill wrth i’r gyfradd achosion ostwng eto yng Nghymru

Fydd dim rhaid dangos pàs Covid ar ôl Chwefror 18, na gwisgo gorchudd wyneb mewn rhai lleoliadau o Chwefror 28