Mae Mark Drakeford wedi cyhoeddi y bydd rhagor o gyfyngiadau Covid-19 yn cael eu llacio cyn diwedd y mis hwn.

Daw cyhoeddiad prif weinidog Cymru wrth i’r gyfradd achosion yng Nghymru barhau i ostwng, er bod cyfraddau trosglwyddo’r feirws yn dal yn eithaf uchel ym mhob cwr o’r wlad.

O Chwefror 18, fydd dim rhaid dangos pàs Covid i gael mynediad i rai lleoliadau a digwyddiadau, a fydd dim rhaid gwisgo gorchudd wyneb mewn lleoliadau dan do, gan gynnwys clybiau nos, sinemâu, theatrau a neuaddau cyngherddau.

Serch hynny, bydd lleoliadau’n cael gweithredu’r pasys y tu hwnt i hynny os ydyn nhw’n dymuno.

Bydd pasys Covid rhyngwladol yn parhau i fod yn ganolog i gynlluniau i deithio dramor, a bydd rhaid i deithwyr wirio rheolau’r wlad maen nhw’n teithio iddi, gan gynnwys unrhyw eithriadau i blant.

O Chwefor 28, fydd dim rhaid gwisgo gorchudd wyneb yn y rhan fwyaf o lefydd dan do, ac eithrio siopau, trafnidiaeth gyhoeddus a lleoliadau iechyd a gofal, a’r gobaith yw y bydd yr orfodaeth yn cael ei dileu ym mhob lleoliad erbyn diwedd mis Mawrth.

Bydd ysgolion yn cael dychwelyd i ddefnyddio’u fframwaith penderfyniadau lleol o Chwefror 28, ac o Chwefror 11, bydd y canllawiau ar gyfer gwisgo gorchudd wyneb yn cael ei ddiweddaru er mwyn egluro bod modd i oedolion dynnu eu gorchudd wyneb wrth siarad â phlant mewn grwpiau cylchoedd meithrin.

Bydd adolygiad pellach ar Fawrth 3, pan fydd y cyfyngiadau lefel sero sy’n dal mewn grym yn cael eu hadolygu.

‘Amseroedd gwell i ddod’

“Gyda niferoedd cynyddol o bobol wedi cael y brechlyn a’r brechlyn atgyfnerthu, a gyda diolch i waith caled ac ymdrechion pawb ledled Cymru, rydym yn hyderus bod cyfraddau’r coronafeirws yn lleihau ac y gallwn edrych ymlaen at amseroedd gwell i ddod,” meddai’r prif weinidog Mark Drakeford.

“Gallwn ddechrau dileu’n raddol ac yn ofalus rai o’r mesurau diogelu sydd gennym mewn grym o hyd ar lefel rhybudd sero. Ond nid ydym yn dileu’r holl fesurau ar yr un pryd gan nad yw’r pandemig wedi dod i ben eto.

“I ddiogelu Cymru, mae angen inni fod yn wyliadwrus o hyd a gwneud popeth o fewn ein gallu i dawelu meddyliau pobol sy’n teimlo eu bod yn wynebu’r risg fwyaf.

“Byddwn yn cadw rhai o’r mesurau diogelu pwysig sydd mewn grym, gan gynnwys gorchuddion wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, ar drafnidiaeth gyhoeddus ac ym mhob siop.

“Byddwn hefyd yn cadw’r rheolau hunanynysu sydd mewn grym.

“Fis nesaf, byddwn yn cyhoeddi cynllun yn nodi sut y byddwn yn symud y tu hwnt i lefel rhybudd sero a’r dull gweithredu mewn argyfwng rydym wedi bod yn ei ddilyn ers bron i ddwy flynedd.

“Bydd hyn yn helpu pob un ohonom i wneud cynlluniau ar gyfer y dyfodol.”