Mae arolygwyr addysg yng Nghymru’n cael eu hannog i ymchwilio i brofiadau o aflonyddu rhywiol mewn ysgolion cynradd.

Daw’r alwad gan Laura Anne Jones, llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig, yn ystod cyfarfod pwyllgor yn y Senedd heddiw (dydd Iau, Chwefror 10).

Dywedodd, “fel gwleidydd a mam”, ei bod hi’n “llwyr ymwybodol fod hyn yn broblem mewn ysgolion cynradd”.

Mae’r Pwyllgor Plant, Pobol Ifanc ac Addysg wedi bod yn trafod adroddiad diweddar sy’n dweud bod disgyblion ysgol uwchradd dan bwysau’n rheolaidd i anfon lluniau noeth, a bod merched yn cael eu haflonyddu dros hyd eu sgertiau.

Gwnaeth tua 1,300 o ddisgyblion ysgol gymryd rhan yn yr astudiaeth gan Estyn a gafodd ei gyhoeddi fis Rhagfyr y llynedd, gan edrych ar brofiadau plant o aflonyddu rhywiol wrth iddyn nhw aeddfedu.

Fe ddaeth i’r amlwg na fyddai llawer o ddisgyblion yn dweud wrth eu hathrawon, gan fod digwyddiadau wedi cael eu “normaleiddio”, ac roedd athrawon yn aml yn eu diystyru fel rhai “dibwys”.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ar y pryd ei bod yn dangos “gwirionedd anghyfforddus” yr oedd disgyblion yn ei wynebu.

Gwnaeth 95% o ddisgyblion Blwyddyn 13 ddweud eu bod nhw wedi gweld aflonyddu rhywiol yn digwydd, a 72% wedi ei weld yn digwydd yn yr ysgol.

Yn ôl Laura Anne Jones, y dechnoleg sydd gan blant ifanc a’r diffyg cyfyngiadau ar eu teclynnau sy’n rhan o’r broblem.

“O’m profiad i fel gwleidydd a mam, rwy’n ymwybodol iawn bod hyn yn broblem hefyd, yn enwedig, yn amlwg, yn y plant iau uwch, oherwydd bod plant yn cael ffonau’n llawer ieuangach, ac nid yw rhieni’n rhoi’r cloeon ar yr hyn y dylent ei wneud, sy’n rhan o’r broblem,” meddai.

“Yn fy rôl fel Gweinidog Addysg yr Wrthblaid, sy’n eistedd yn y @SeneddChildrenPwyllgor Plant a Phobl Ifanc/Addysg gyda @JoelJamesSWC@EstynHMIheddiw, lle rydym yn edrych ar aflonyddu rhywiol gan gyfoedion, sy’n peri pryder i broblem gynyddol yn yr ysgol a’r tu allan iddi,” meddai ar Twitter.

‘Rhaid i ni weld’

“Yn y gwaith a wnaethom, dywedodd cyfran eithaf sylweddol o bobl ifanc eu bod wedi profi rhywfaint o hyn yn yr ysgol gynradd am y tro cyntaf,” meddai Jassa Scott, cyfarwyddwr strategol Estyn.

“Rydyn ni’n gwybod o rywfaint o’r gwaith yn ymwneud â bwlio ac yn y blaen fod hyn yn digwydd yno.

“Yr arwydd rydyn ni wedi’i gael yw y bydd gofyn i ni wneud mwy o waith o gwmpas hyn mewn colegau addysg bellach y flwyddyn nesaf, felly bydd cyfle i ymestyn hyn i’r grŵp oedran hwnnw.

“Rwy’n siŵr, yn y gwaith y byddwn yn ei wneud gydag ysgolion cynradd, y byddwn yn parhau i gasglu rhywfaint o dystiolaeth am faint y broblem yno hefyd.

“A fydd hynny’n mynd ymhellach i lawr y lein mewn darn penodol o waith sy’n edrych ar faterion penodol mewn ysgolion cynradd, bydd yn rhaid i ni weld.”

Mae Estyn yn dweud eu bod yn cytuno’n rhannol o ran y “gwaith thematig” ar gyfer y flwyddyn nesaf gyda’r Ysgrifennydd Addysg Jeremy Miles.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

“Mae diogelwch plant yn ein hysgolion ni yn flaenoriaeth.

“O fis Medi nesaf ymlaen bydd Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb sy’n briodol i ddatblygiad yn cael ei haddysgu i bob plentyn ym mhob ysgol gynradd yng Nghymru.

“Helpu dysgwyr i ffurfio a chynnal ystod o berthnasoedd iach, yn seiliedig i gyd ar gydymddiriedaeth a pharch, yw sylfaen Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb.

“Ar hyn o bryd rydym yn cynnal cynllun peilot gyda phymtheg o ysgolion, gan gynnwys deg ysgol gynradd, fel sail i addysgu a dysgu’r cod.

“Byddwn yn edrych yn ofalus ar y canlyniadau ac yn canolbwyntio ar ba gymorth sydd ei angen ar athrawon i addysgu a chefnogi dysgwyr.”