Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar gynigion i ddatblygu treth dwristiaeth.

Bydd yr ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer ardollau ymwelwyr lleol yn dechrau yn yr hydref.

Byddai ardollau yn sicrhau bod modd i bobol fwynhau cyrchfannau poblogaidd yng Nghymru am genedlaethau i ddod, meddai Rebecca Evans, Ysgrifennydd Cyllid a Llywodraeth Leol Cymru.

Ar hyn o bryd, mae twristiaeth yn gwneud cyfraniad “economaidd sylweddol” i Gymru, meddai Llywodraeth Cymru, gyda gwariant cysylltiedig â thwristiaeth yn cyrraedd dros £5bn y flwyddyn yn 2019.

Byddai treth dwristiaeth yn creu incwm i awdurdodau lleol, gan eu galluogi i reoli gwasanaethau a seilwaith sy’n sicrhau twristiaeth lwyddiannus.

‘Baich gormodol ar gymunedau’

Mae ardollau ymwelwyr yn “rhywbeth cyffredin mewn cyrchfannau twristiaeth yn rhyngwladol”, yn ôl Rebecca Evans.

“Maen nhw’n gyfle i ymwelwyr wneud buddsoddiad mewn seilwaith a gwasanaethau lleol, sydd yn eu tro yn sicrhau twristiaeth lwyddiannus,” meddai.

“Heb ardoll o’r fath, mae baich gormodol ar gymunedau lleol i ariannu gwasanaethau a darpariaethau lleol, y mae twristiaid yn dibynnu arnyn nhw.

“O gadw traethau a phalmentydd yn lân, i gynnal parciau, toiledau a llwybrau lleol – dylai’r seilwaith hanfodol sy’n cynnal twristiaeth gael ei gefnogi gan bawb sy’n dibynnu arno.

“Byddai cyflwyno a gweithredu ardoll o’r fath yn sicrhau y bydd modd mwynhau cyrchfannau yng Nghymru am genedlaethau i ddod. Byddai hefyd yn annog twristiaeth fwy cynaliadwy.

“Byddem yn sicrhau bod yr ardoll yn gymesur, a byddai pwerau i godi’r ardoll yn nwylo awdurdodau lleol.

“Byddai hyn yn golygu bod modd gwneud penderfyniadau yn lleol, yn unol ag anghenion ein cymunedau.

“Bydd yr ardoll yn berthnasol i’r rhai sy’n talu i aros dros nos mewn ardal awdurdod lleol.

“Bydd cyfleoedd ar gyfer cyfraniadau ehangach tuag at effaith costau mathau eraill o weithgareddau ymwelwyr ar seilwaith lleol yn cael eu cynnig fel rhan o’r ymgynghoriad ar yr ardoll.”

‘Twristiaeth gynaliadwy’

Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru a’r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru’n cynnwys ymrwymiadau i gyflwyno ardollau.

Dywed Cefin Campbell, Aelod Dynodedig Plaid Cymru, y bydd rhoi’r pŵer i bobol leol gyflwyno ardoll dwristiaeth yn “gwneud gwahaniaeth i gymunedau ledled y wlad sy’n denu niferoedd sylweddol o dwristiaid”.

“Bydd yn rhoi mwy o bŵer ac adnoddau i bobl leol a’u cynrychiolwyr fuddsoddi yn eu hardaloedd a sicrhau ffyniant lleol,” meddai.

“Bydd modd i gynghorau ofyn i dwristiaid wneud cyfraniad bach at yr ardaloedd maent yn ymweld â nhw a’r gwasanaethau maent yn eu defnyddio.

“Bydd y mesur hwn yn helpu i gefnogi sector twristiaeth sy’n gynaliadwy, yn hytrach nag yn niweidiol. Bydd hyn yn helpu i sicrhau’r budd mwyaf i gymunedau a’r economi leol.

“Mae ardollau o’r fath – a elwir yn drethi twristiaeth yn aml – yn gyffredin mewn gwledydd ar draws Ewrop a thu hwnt. Hanfod hyn yw parch rhwng ein cymunedau a’r ymwelwyr maent yn eu croesawu.

“Dyma bolisi newydd sy’n ffrwyth ysbryd cydweithredol Cymreig.”

Bydd ymgynghoriad ffurfiol ar gynigion deddfwriaethol drafft ar gyfer ardoll ymwelwyr yn cael ei lansio yn yr hydref, ac yn cynnig cyfle i ystyried ystod eang o safbwyntiau, yn ôl Llywodraeth Cymru.

“Angen buddsoddi arian yn well” yn hytrach na chael treth ar dwristiaid

Mae busnesau rhai o ardaloedd Cymru wedi mynegi pryderon am fanteision cyflwyno treth dwristiaeth yn y wlad

Llywodraeth Cymru’n ystyried treth dwristiaeth “er lles y diwydiant”

Mark Drakeford yn addo cynnal ymgynghoriad er mwyn galluogi awdurdodau lleol i godi’r dreth