Bydd degau o filoedd o staff y Gwasanaeth Gofal a fydd yn gymwys ar gyfer y cyflog byw o fis Ebrill eleni yn derbyn taliad net o £1,000 gan Lywodraeth Cymru.

Daw’r taliad ychwanegol, a fydd yn cael ei wneud i ryw 53,000 o bobol, yn sgil yr argyfwng costau byw.

Mae Plaid Cymru ac UNISON yn croesawu’r cyhoeddiad ond maen nhw hefyd wedi lleisio pryderon.

Mae hyn yn rhan o gyhoeddiad gan Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, y bydd buddsoddiad pellach o £96m i gefnogi staff, ar ben y £43m i gyflwyno’r cyflog byw go iawn.

Mae’r Dirprwy Weinidog, a fu’n gweithio yn y sector gofal cyhoeddus, yn dweud bod hyn yn fodd hefyd o ddenu pobol i weithio yn y sector.

“Mae cyflwyno’r cyflog byw go iawn mewn gofal cymdeithasol yn un o’n prif flaenoriaethau, ac rwy’n falch ein bod wedi gallu gwneud hyn yn ein blwyddyn gyntaf o lywodraeth,” meddai.

“Ar adeg pan rydym yn wynebu argyfwng costau byw, mae’r taliad ychwanegol hwn i weithwyr gofal sy’n derbyn y cyflog byw go iawn yn dangos ein hymrwymiad i gefnogi pobol ac annog mwy o bobol i ystyried swydd werthchweil mewn gofal.

“Rwyf wedi gweld yn uniongyrchol y gwahaniaeth y mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn ei wneud i fywydau bob dydd pobol ac rwy’n gwybod pa mor werthfawr ydynt.

“Rydym am weld mwy o bobol yn ymgymryd â swyddi parhaol ym maes gofal cymdeithasol ac yn dechrau gyrfa werthchweil. Rydym hefyd yn gobeithio y bydd y rhai sy’n ystyried gadael gofal cymdeithasol, neu sydd eisoes wedi gadael, yn aros.”

Bydd y taliad ychwanegol, sy’n cyd-fynd â chyflwyno’r cyflog byw go iawn, yn £1,498 cyn didyniadau ar gyfer treth ac yswiriant gwladol.

Gall gweithwyr gofal ar gyfradd sylfaenol treth incwm ddisgwyl derbyn £1,000 ar ôl didyniadau a bydd y taliad ychwanegol ar gael fel un taliad neu’n rhandaliadau’n fisol.

‘Plastr gludiog ar glwyf dwfn’

Mae Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd Plaid Cymru, yn croesawu’r bonws ond yn dweud y bydd “taliadau trwsio cyflym” yn aneffeithiol.

“Mae’r bonws hwn i’w groesawu, ond nid yw’n mynd i’r afael â’r broblem wirioneddol bod gormod o’n gofalwyr sy’n gweithio’n galed eisoes wedi gadael y proffesiwn am gyflogau uwch mewn mannau eraill,” meddai.

“Hyd nes y caiff y rhai sy’n gweithio ym maes gofalu eu gwobrwyo a’u cydnabod fel y maent yn ei haeddu a bod ganddynt yr ymreolaeth a’r cyllid i ddarparu’r gwasanaethau gofal o ansawdd uchel y gallant fod yn falch ohonynt, ni fydd taliadau trwsio cyflym fel hyn yn cael fawr mwy o effaith yn y tymor hir na rhoi plastr gludiog ar glwyf dwfn.”

Dywedodd Mark Turner, arweinydd gofal UNISON, wrth BBC Cymru ei fod yn gobeithio y byddai’n perswadio pobol i ddychwelyd i’r sector, ond nad yw’r Cyflog Byw Go Iawn “yn ddigon”.

“Mae’n ddechrau ond mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â thelerau ac amodau gwael y rhai yn y sector gofal yng Nghymru a dyna pam mae Unsain yn galw am wasanaeth gofal cenedlaethol a ddarperir yn gyhoeddus.”

Ychwanegodd fod nifer ohonyn nhw’n “ei chael hi’n anodd cael dau ben llinyn ynghyd”.

Cadw addewid

Dywed Jayne Bryant, Aelod Llafur o’r Senedd dros Orllewin Casnewydd, fod hyn yn cadw at addewid a wnaed gan Lywodraeth Cymru i roi cyflog byw go-iawn i weithwyr gofal iechyd.

“O ddydd i ddydd, mae staff gofal cymdeithasol yn gofalu am ein pobol fwyaf agored i niwed, mewn cartrefi gofal ac yn y gymuned,” meddai ar Twitter.

“@WelshLabour yn gwireddu ein haddewid i dalu cyflog byw go iawn iddynt.

“Heddiw, rydym hefyd wedi cyhoeddi y byddant yn derbyn £1,000 yn ychwanegol i helpu yn ystod yr argyfwng costau byw.”