Mae cefnogwyr rygbi sy’n teithio i Gaerdydd ar gyfer gêm Cymru yn erbyn yr Alban yn cael eu hannog i gynllunio eu teithiau’n ofalus ac i gofio gwisgo gorchudd wyneb ar drenau.
Daw’r alwad gan Drafnidiaeth Cymru, wrth i gefnogwyr teithio i Gaerdydd ar gyfer y gêm rygbi rhwng Cymru a’r Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Mae mygydau’n parhau’n ofynnol yng Nghymru wrth deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, ac mae Trafnidiaeth Cymru yn cydweithio’n agos gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydain i ymgysylltu â chefnogwyr sy’n teithio i’r brifddinas ac yn ôl.
Bydd trenau’n brysur iawn drwy gydol dydd Sadwrn (Chwefror 12), ac mae disgwyl i bron i 75,000 o gefnogwyr fynd i Stadiwm Principality ar gyfer gêm gartref gyntaf Cymru yn eu hymgyrch ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Er bod Trafnidiaeth Cymru yn gweithredu’r amserlen frys a gafodd ei chyhoeddi fis diwethaf, bydd yn gweithredu cymaint o wasanaethau ychwanegol â phosibl yn ôl ac ymlaen o Gaerdydd ac yn darparu trafnidiaeth ffordd, lle bo modd gwneud hynny.
Mae’r gwelliannau’n cynnwys cau maes parcio cefn Gorsaf Ganolog Caerdydd gan ei gwneud yn haws i fysiau gael mynediad a gwella’r system giwio ar gyfer gwasanaethau’r Cymoedd.
Bydd Cyngor Caerdydd yn cau Heol Penarth ar ôl y gêm fel bod y llwybr o dan y bont reilffordd yn ddiogel i bobol gerdded ar ei hyd.
Mae grisiau gorsaf Caerdydd Canolog wedi cael eu gwella gan eu gwneud yn fwy diogel ac mae cynlluniau hefyd i redeg mwy o drenau er mwyn cynyddu capasiti.
Gadael digon o amser
Mae Trafniaieth Cymru’n annog cwsmeriaid i wirio amserlenni yn ofalus cyn teithio gan adael digon o amser ar gyfer eu taith cyn ac ar ôl y gêm.
Bydd system giwio hefyd ar ôl y digwyddiad ar waith gyda lleoliadau newydd ar gyfer ciwiau ar gyfer y gwasanaethau i Gasnewydd a Chaerloyw.
“Rydym yn edrych ymlaen at groesawu miloedd lawer o gefnogwyr rygbi sy’n teithio i ac o Gaerdydd ar ein gwasanaethau ddydd Sadwrn,” meddai Colin Lea, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad Trafnidiaeth Cymru.
“Mae’n bwysig cofio ein bod ni’n dal mewn pandemig sy’n parhau i effeithio ar wasanaethau rheilffordd ledled y Deyrnas Unedig.
“Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddarparu cymaint o gapasiti â phosibl i gael pobol i mewn i’r ddinas ac adref eto.
“Ond mae’n gwbl hanfodol fod pawb yn cynllunio ymlaen llaw ac yn gwirio’r wybodaeth deithio ddiweddaraf cyn dechrau ar eu taith.
“Mae rhagolygon y tywydd yn argoeli prynhawn gwlyb a gwyntog, felly dylai cwsmeriaid wisgo dillad priodol a gwirio am unrhyw amhariad ar y rhwydwaith y gall y tywydd ei achosi.
“Rydyn ni’n atgoffa cwsmeriaid i wisgo gorchudd wyneb trwy gydol eu taith, oni bai eu bod wedi’u heithrio. Dyma’r gyfraith o hyd yng Nghymru.”
Heddlu Trafnidiaeth Cymru
“Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda’n partneriaid trwy gydol y twrnamaint i helpu’r miloedd sy’n defnyddio’r rheilffordd i deithio yn ôl ac ymlaen i’r digwyddiadau yn ddiogel,” meddai Richard Powell, Arolygydd yr Heddlu Trafnidiaeth.
“Bydd ein presenoldeb yn fwy amlwg mewn lleoliadau allweddol, a bydd swyddogion yn atgoffa teithwyr bod yn rhaid iddyn nhw wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, oni bai eu bod wedi’u heithrio.
“Fel gyda phob digwyddiad mawr, mae’n bwysig iawn fod pawb sy’n defnyddio’r rheilffordd yn cadw’n effro, a’u bod yn wyliadwrus.
“Mae’n bwysig adrodd am unrhyw beth sy’n ymddangos yn amheus i staff yr orsaf, swyddog BTP, neu gellir anfon neges destun i 61016 gyda manylion.”
Cyngor i deithwyr
Mae Trafnidaeth Cymru hefyd yn dweud wrth bobol sy’n teithio i Gaerdydd o orllewin neu ddwyrain Cymru ar hyd y brif reilffordd i ddefnyddio gwasanaethau rhyng-ddinas lle mae modd gwneud hynny.
Hefyd, maen nhw’n annog y rhai sy’n teithio pellteroedd byrrach i gerdded, beicio neu ddefnyddio gwasanaethau bws lleol os gallan nhw.
Mae gorchuddion wyneb yn parhau i fod yn orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, oni bai bod pobol wedi’u heithrio.