Mae staff y Gwasanaeth Iechyd yn dweud bod diffyg gwlâu mewn ysbytai yn golygu ei bod yn anochel bod cleifion oedd â Covid wedi dod i gysylltiad ag eraill.
Treuliodd nifer o gleifion noson mewn ysbytai yn cysgu mewn cadair oherwydd bod prinder gwlâu ar eu cyfer.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod ganddyn nhw darged i greu 12,000 o swyddi newydd erbyn 2024-25.
Dywedodd Dr Nicky Lepold wrth BBC Cymru fod “cynifer o gleifion yn gaeth i’r ysbyty ac mae hynny’n anodd iawn ac yn rhwystredig”.
“Does dim staff yn y gymuned i gefnogi’r lefel uwch o angen,” meddai.
Roedd llawer o gleifion mewn “angen dybryd” ac roedd staff cael hi’n anodd sicrhau fod clinigau’n parhau’n i redeg, meddai.
Ymchwiliad penodol i Gymru
Dywed Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, fod hyn yn ganlyniad i nifer o fethiannau eraill yn y Gwasnaeth Iechyd dan Lywodraeth Cymru gan wneud galwadau pellach am ymchwiliad penodol i Gymru.
“Dydy hi ddim yn syrpreis i weld staff meddygol yn dod i gasgliadau am y cyfraddau uchel o heintiau Covid a gafwyd mewn ysbytai a’r toriadau o flwyddyn i flwyddyn yng ngwlâu’r Gwasanaeth Iechyd y mae’r Llywodraeth Lafur wedi llywyddu drostyn nhw,” meddai.
“Rydym oll yn gwybod fod yna methiannau wedi bod yn rheolaeth y Gwasanaeth Iechyd o ledaeniad y feirws, ond pan fydd hynny wedi cyplysu gydag amryw o fethiannau eraill fel methu â phrofi staff yn rheolaidd tan yn hwyr yn yr ail don er enghraifft, gweithwyr a staff sy’n talu’r pris, yn aml gyda’u bywydau.”
Fe gyfeiriodd hefyd at grŵp The Covid-19 Bereaved Families Group for Justice Wales sy’n “amlinellu’n gyson ddiffyg rheolaeth o’r clefyd mewn ysbytai”, gan alw am ymchwiliad Covid-19 penodol i Gymru.
Mae Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd yn galw am ymchwiliad penodol i Gymru, ond mae Llywodraeth Cymru am fod yn rhan o ymchwiliad ledled y Deyrnas Unedig.
“Mae gan y Prif Weinidog gyfle o hyd i wneud y peth iawn a sefydlu’r ymchwiliad Covid annibynnol, sy’n benodol i Gymru i roi i bawb a gollodd rywbeth i’r feirws ac sy’n ceisio dod o hyd i’r atebion y maent yn eu haeddu,” meddai Russell George.
Ymateb Llywodraeth Cymru
“Mae pwysau’r gaeaf, ynghyd â’r pandemig a’r angen i gefnogi’r rhaglen frechu yn parhau i roi mwy o straen ar wasanaethau a staff,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Rydym wedi ymrwymo i gynyddu capasiti drwy recriwtio amrywiaeth o broffesiynau gan gynnwys buddsoddi mwy na £260m mewn lleoedd hyfforddi i ddarparu 12,000 o staff clinigol ychwanegol erbyn 2024-25.
“Rydyn ni’n gwybod pa mor galed mae ein staff iechyd a gofal cymdeithasol wedi bod yn gweithio dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac rydyn ni eisiau diolch iddyn nhw am bopeth maen nhw’n ei wneud.”