Dydy Cymru ddim yn derbyn unrhyw “arian ychwanegol” i helpu trethdalwyr gyda phrisiau ynni cynyddol, yn ôl y Prif Weinidog Mark Drakeford.

Daw’r cais wedi i Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, gyhuddo Llywodraeth Cymru o beidio â’i gwneud hi’n glir i drethdalwyr a fyddan nhw’n cael ad-daliad treth gyngor o £150 i helpu gyda biliau ynni.

Dywed Simon Hart ei bod yn “destun gofid” nad yw Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi a fydd arian y Trysorlys ar gyfer Cymru yn cael ei ddefnyddio i roi ad-daliad treth gyngor i helpu gyda chostau argyfwng byw, fel sydd wedi’i gyhoeddi yn Lloegr.

Ond dywed Prif Weinidog Cymru nad oes “arian ychwanegol i Gymru” gan y Trysorlys i ddarparu’r ad-daliad.

Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd y Canghellor Rishi Sunak £350 o gymorth i aelwydydd ledled Lloegr i ddelio â biliau ynni cynyddol dros y flwyddyn o fis Ebrill.

Bydd tua £150 o’r cymorth ar ffurf ad-daliad treth gyngor i bob trethdalwr yn y bandiau A i D.

Cyhoeddodd y Trysorlys hefyd y byddai llywodraethau datganoledig Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael cyfanswm o £565m o gyllid ychwanegol i gyflawni’r un mesur.

“Mae’r Canghellor wedi cyhoeddi y bydd 80% o aelwydydd Lloegr yn derbyn ad-daliad treth cyngor o £150 o fis Ebrill eleni,” meddai David Jones, Aelod Seneddol Ceidwadol Gorllewin Clwyd, yn San Steffan.

“O ganlyniad i hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn £175m yn ychwanegol o dan fformiwla Barnett.

“A yw’n destun gofid iddo, fel y mae i mi, nad yw Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eto y bydd yr arian hwnnw’n cael ei drosglwyddo i drethdalwyr cynghorau Cymru sydd â hawl i’r un cymorth yn union â’u cymheiriaid yn Lloegr?”

Wrth ateb dywedodd Simon Hart fod David Jones wedi “gwneud pwynt pwysig iawn”.

“Roedd y Trysorlys yn glir iawn o ran beth oedd canlyniad fformiwla Barnett i Lywodraeth Cymru,” meddai.

“Yr hyn dydw i ddim yn ei ddeall yw pam fod teuluoedd yng Nghymru a busnesau yng Nghymru yn dal yn aneglur ynglŷn â sut fydd yr arian hwnnw’n cael ei ddefnyddio.”

‘Dim arian ychwanegol’

“Yr wythnos ddiwethaf dywedodd Trysorlys Ei Mawrhydi y byddai Cymru’n derbyn £175m o’i chynllun ad-dalu treth gyngor Lloegr,” meddai Mark Drakeford wrth ymateb ar Twitter.

“Yn union fel yr ydym yn cwblhau ein cynlluniau i fynd i’r afael â’r Argyfwng Costau Byw, rydym wedi dysgu nad oes arian ychwanegol i Gymru.

“Byddwn yn parhau i weithio i gefnogi’r rhai sydd ei angen fwyaf.”

Dywed Llywodraeth Cymru y byddan nhw’n amlinellu ei chynlluniau i gefnogi trethdalwyr yng Nghymru gyda chostau cynyddol yr wythnos nesaf.