Mae’r Deyrnas Unedig yn anfon “milwyr, awyrennau a llongau” i wahanol wledydd Ewrop mewn ymgais i amddiffyn NATO yn sgil y bygythiad cynyddol o Rwsia, yn ôl Boris Johnson.

Bydd y Prif Weinidog a’r Ysgrifennydd Tramor yn nwyrain Ewrop heddiw (dydd Iau, Chwefror 10) gyda’r gobaith o atal ymosodiad o Rwsia ar yr Wcráin.

Mae’r Deyrnas Unedig yn dweud y byddai goblygiadau “trychinebus” i ddiogelwch Ewropeaidd pe bai Rwsia yn ymosod ar ei chymydog.

Mae mil o filwyr Prydain wrth gefn, pe bai argyfwng dyngarol yn codi, tra bod gan Rwsia fwy na 130,000 o filwyr ar ei ffin gyda’r Wcráin.

Rhybuddiodd Boris Johnson fod Ewrop yn wynebu’r “argyfwng diogelwch mwyaf” ers degawdau.

“Gallai rhywbeth hollol drychinebus ddigwydd yn fuan iawn,” meddai Boris Johnson.

“Mae’r sefyllfa, mae gen i ofn dweud, yn parhau i fod yn ddifrifol.

“Rydym yn gweld y nifer enfawr o unedau milwrol ar y ffin â’r Wcráin.

“Mae’n debyg mai dyma’r foment fwyaf peryglus yn yr argyfwng diogelwch mwyaf y mae Ewrop wedi’i wynebu ers degawdau.”