Mae ysgol gynradd cyfrwng Saesneg yn ne Powys yn treialu cynnal dosbarth cyfrwng Cymraeg.

Fel rhan o’r cynllun peilot, mae grŵp o ddisgyblion dosbarth Derbyn a Blwyddyn 1 yn Ysgol y Cribarth yn Abercrâf wedi bod yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ers dechrau’r flwyddyn academaidd.

Mae’r ysgol, sydd wedi cyflogi athro a chynorthwyydd i addysgu drwy’r Gymraeg, hefyd yn ceisio cefnogi rhieni a thrigolion eraill yn y gymuned i gynnal dosbarthiadau Cymraeg.

Mae’r cynllun yn cael ei gefnogi gan Gyngor Sir Powys fel un o’r nodau yn eu Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg yn y sir rhwng 2020 a 2030, ac mae hynny’n cynnwys gwella mynediad i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar draws pob oedran.

Bydd y Cyngor yn gwerthuso’r cynllun peilot, a phe bai’n llwyddiannus, gallai ffrwd cyfrwng Cymraeg parhaol gael ei chyflwyno yn yr ysgol.

‘Normaleiddio dwyieithrwydd’

Dywed Mr Simon Hosking, Pennaeth Dros Dro Ysgol y Cribarth, eu bod nhw’n falch o fod yn cychwyn ar y daith hon gyda’r Cyngor.

“Mae ein camau cyntaf tuag at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg eisoes wedi adfywio ymdrechion i normaleiddio dwyieithrwydd o fewn yr ysgol gyfan,” meddai.

“Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i wneud cyfraniad gwerthfawr i weledigaeth Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”

‘Cyfle cyffrous’

Mae’r cynllun yn “gyfle cyffrous”, meddai Mrs Susan Davies, Cadeirydd Llywodraethwyr yr ysgol.

“Rydym wrth ein bodd bod Ysgol Y Cribarth yn cymryd rhan yng nghynllun peilot darpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn ysgol cyfrwng Saesneg,” meddai.

“Mae’n gyfle cyffrous i’n disgyblion, yr ysgol a’n cymuned leol, a chredwn y bydd yn gwella profiad dysgu ein plant, yn ogystal â chyfrannu at nod Powys i gynyddu dwyieithrwydd yn y sir.”

‘Amgylchedd diwylliannol deinamig’

Dywed y Cynghorydd Phyl Davies, yr Aelod Cabinet ar faterion Addysg ac Eiddo, fod y Cyngor wedi ymrwymo i wella mynediad at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar draws pob cyfnod allweddol ac am gynyddu’r cyfleoedd i blant a phobol ifanc y sir, a’r rhai sy’n symud i’r sir, i ddod yn gwbl ddwyieithog.

“Y dystiolaeth gan weddill Cymru yw bod darpariaeth ddwyieithog/cyfrwng Cymraeg yn cynnig y cyfle gorau i ddysgwyr ddod yn gwbl ddwyieithog, tra hefyd yn creu amgylchedd diwylliannol deinamig sy’n eang ei gorwelion,” meddai.

“Rwy’n falch iawn bod y Cyngor yn gweithio gydag uwch arweinwyr yn Ysgol y Cribarth ar y cynllun peilot hwn.

“Nid yn unig y bydd hwn y cam cyntaf y plant ar eu taith i fod yn gwbl ddwyieithog, ond bydd canfyddiadau’r peilot hefyd yn bwysig i’r Cyngor wrth i ni edrych ar ffyrdd o wella mynediad at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar draws Powys.”