Mae Llywodraeth Cymru am annog mwy o ferched i fentro i feysydd gwyddoniaeth a pheirianneg.
Daw hyn ar Ddiwrnod Rhyngwladol Merched mewn Gwyddoniaeth (dydd Gwener, Chwefror 11), ac mae Vaughan Gething, Ysgrifennydd Economi Cymru, am weld mwy o ferched ifanc yn mentro i yrfaoedd yn y meysydd STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg).
“Mae Llywodraeth Cymru’n benderfynol o gynyddu nifer y menywod sy’n gweithio ym maes STEM, oherwydd mae’n dda i’n cymdeithas ac i’n heconomi,” meddai.
“Mae tystiolaeth yn dweud wrthym fod gweithlu amrywiol yn cynyddu proffidioldeb, cynhyrchiant a chreadigrwydd ar draws diwydiant.
“Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn ceisio dathlu amrywiaeth a symud i ddileu anghydraddoldeb o bob math.
“Mae hyn yn cynnwys cynyddu amrywiaeth mewn STEM drwy chwilio am gyfranogiad gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, er mwyn adeiladu a datblygu byd lle mae astudio a gweithio mewn gwyddoniaeth yn agored i bawb.”
Mae Llywodraeth Cymru am dynnu sylw at Technocamps Girls into STEM, sef un o’r rhaglenni, sy’n anelu at gynyddu nifer y modelau rôl ysbrydoledig sydd â gyrfaoedd gwahanol iawn, gan arddangos rhai o’r rolau traddodiadol gyda’r nod o normaleiddio menywod mewn STEM.
Effaith y pandemig
Mae Jane Hutt, yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol, wedi tynnu sylw at bwysigrwydd cyfleoedd i astudio pynciau gwyddonol sydd wedi eu hamlygu gan y pandemig.
“Fel y gwyddom i gyd, mae pandemig Covid-19 wedi ailbwysleisio’r rôl hanfodol bwysig y mae gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) yn ei chwarae yn y byd, ac rwy’n ddiolchgar i’r gweithwyr proffesiynol STEM eithriadol sydd wedi arwain y frwydr yn erbyn Covid-19,” meddai.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae dros hanner y rhai sydd wedi cofrestru ar gyfer prentisiaethau STEM yn fenywod (52%), o gymharu â 44% yn Lloegr, 9% yn yr Alban a 3% yng Ngogledd Iwerddon.
Wrth i’r Wythnos Prentisiaethau ddod i ben, gwnaeth Tiffany Evans, 27 o Gastell-Nedd fentro i faes peirianneg.
Yn 27 oed, roedd hi am ddysgu sgiliau newydd i ddatblygu ei gyrfa, ond doedd hi ddim yn siŵr a allai fforddio mynd yn ôl i fywyd myfyriwr am resymau ariannol.
Ar ôl cwblhau ei phrentisiaeth y llynedd, mae hi bellach yn gweithio’n llawn amser fel peiriannydd telegyfathrebiadau gydag Openreach, gan roi’r sgiliau a ddysgodd yn ystod ei phrentisiaeth ar waith.
“Mae fel jig-so, mae’n rhaid i chi ddod o hyd i’r bai mewn milltiroedd a milltiroedd o gebl ond dyna sy’n ei gadw’n ddiddorol – does dim dau ddiwrnod yr un fath,” meddai.
“Pe bai’n rhaid i mi roi cyngor i unrhyw un, dilyn eich greddf a gofyn cwestiynau fyddai hwnnw.
“Fyddwn i byth wedi cael y cyfle hwn pe bawn i wedi anwybyddu’r teimladau oedd yn dweud wrthyf nad oedd fy hen swydd yn iawn i mi.”