Mae angen gweithio mwy uchelgeisiol i sicrhau bod pobol yn gallu byw eu bywydau drwy’r Gymraeg, yn ôl Comisiynydd y Gymraeg.

Yn ôl Gwenith Price, y Dirprwy Gomisiynydd Iaith, mae yna “ormod o lawer o rwystrau yn atal siaradwyr rhag defnyddio’r iaith o hyd”.

60 mlynedd ers darlith radio Saunders Lewis, Tynged yr Iaith, mae’r Comisiynydd yn cydnabod y cynnydd sydd wedi’i wneud o ran statws yr iaith ers 1962.

Er hynny, mae’n rhybuddio nad yw’r frwydr wedi’i hennill tan y bydd profiad siaradwyr Cymraeg yn gyfartal â’r Saesneg.

Gwenith Price

“Saesneg oedd unig iaith swyddogol sefydliadau cyhoeddus yn y 1960au, hyd yn oed mewn ardaloedd gyda chanrannau uchel iawn o siaradwyr Cymraeg,” meddai.

“Mae’r ffaith fod hawliau i ddefnyddio’r Gymraeg gyda sefydliadau cyhoeddus yn bodoli ym mhob rhan o Gymru erbyn hyn yn rhywbeth y gellid ei ddisgrifio, yng ngeiriau Saunders Lewis, fel dim llai na ‘chwyldro’.

“Mae’n annhebygol y byddai hyn wedi digwydd heb ei ysgogiad, ac ymdrechion cenedlaethau o ymgyrchwyr.

“Un mlynedd ar ddeg yn ôl i’r wythnos hon, daeth Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn ddeddf gwlad.

“Yn sgil y ddeddf, mae hawl defnyddio’r Gymraeg gyda dros 120 o sefydliadau cyhoeddus. Yn wahanol i’r ddeddf iaith flaenorol, arweiniodd Mesur y Gymraeg at orfodi sefydliadau i ystyried y Gymraeg yn fwy gofalus, gan sicrhau bod yr iaith yn ganolog wrth gynllunio gofal iechyd, er enghraifft.

“Rhoddodd y Mesur hefyd hawl i unigolion gwyno’n uniongyrchol i Gomisiynydd y Gymraeg. Gellir cwyno am ddiffyg gwasanaeth Cymraeg neu am ystyriaeth annigonol o’r iaith gan sefydliadau.

“Mae gan y Comisiynydd ystod o bwerau i ddelio â chwynion o’r fath ac atal profiadau tebyg rhag digwydd eto.”

‘Y frwydr heb ei hennill’

Mae Gwenith Price yn rhybuddio bod rhaid i bobol beidio â bod yn “rhy gyfforddus”.

“Er ein bod yn croesawu’r ymrwymiad a wnaed yn y cytundeb cydweithio rhwng Llafur Cymru a Phlaid Cymru yn ddiweddar, does dim digon wedi ei wneud dros y blynyddoedd diwethaf i symud y gwaith yn ei flaen, ac mae angen gosod dyletswyddau ar sectorau cyfan,” meddai.

“Rhwystr arall yw na all y Comisiynydd orfodi’r defnydd o’r Gymraeg gan sefydliadau sy’n cael eu rhedeg gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, er enghraifft materion yn ymwneud â phasbortau, trwyddedau gyrru a’r wladwriaeth les.

“Nid oes gofyn o gwbl chwaith ar y mwyafrif o fusnesau i ddefnyddio’r iaith, ac mae hyn yn cyfyngu ar allu pobol i fyw yn Gymraeg.

“Tan y bydd profiad siaradwyr Cymraeg yn gyfartal â’r Saesneg, nid yw’r frwydr wedi ei hennill.”

Chwyldro ym myd addysg

Heb weddnewid sefyllfa’r byd addysg, bydd y weledigaeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg yn methu, meddai’r Comisiynydd wedyn.

“Soniodd Saunders Lewis am yr angen am chwyldro ym maes gwasanaethau cyhoeddus. Heddiw, mae angen chwyldro yn y byd addysg.

“Does dim digon o athrawon all addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg i greu cenhedlaeth newydd o siaradwyr.

“Mae angen gwneud llawer mwy i ddenu siaradwyr i’r proffesiwn, a datblygu sgiliau iaith Gymraeg yr athrawon hynny sy’n addysgu drwy gyfrwng y Saesneg.”

Roedd adroddiad pum mlynedd y Comisiynydd ym mis Hydref 2021 yn pwysleisio bod angen chwyldro ym myd addysg, ac mae’n nodi bod angen “gweithredu uchelgeisiol” mewn meysydd fel datblygu economaidd, tai, technoleg a buddsoddi mewn rhwydweithiau cymunedol a chymdeithasol hefyd.

 

‘Angen chwyldro ym myd addysg neu bydd y weledigaeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg yn methu’

‘Eisiau gweld ehangu’r safonau ar draws y sector cyhoeddus, a rhagor o gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle a thu hwnt’