Mae un o weinidogion Llywodraeth Cymru yn dweud ei fod e wedi ei “synnu” gan gyhoeddiad Boris Johnson y gallai rheolau hunanynysu gael eu dileu’n gynnar, gan honni nad yw’r cam wedi’i gefnogi gan dystiolaeth wyddonol.

Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi dweud y gallai’r holl gyfyngiadau Covid-19 sy’n weddill yn Lloegr gael eu dileu o fewn wythnosau, gan gynnwys y gofyniad cyfreithiol i ynysu ar ôl prawf coronafeirws positif.

Y bwriad gwreiddiol oedd dod â’r rheol i ben ar Fawrth 24.

Mae’r cyhoeddiad wedi synnu llawer o arbenigwyr, gydag un yn ei ddisgrifio naill ai’n “ddewr neu’n dwp”.

Daw hyn wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi y bydd cyfyngiadau’n cael eu llacio yng Nghymru ddiwedd y mis.

Dywedodd Vaughan Gething, Ysgrifennydd yr Economi, wrth BBC Breakfast nad oedd datganiad Mr Johnson i’w weld yn seiliedig ar “gyngor iechyd cyhoeddus”.

“Cefais fy synnu’n fawr gan y cyhoeddiad a wnaed gan y Prif Weinidog ac yn wir, y ffaith nad yw’n ymddangos bod cyngor iechyd cyhoeddus yn sail i gyngor iechyd y cyhoedd,” meddai.

“Doedd dim cyfarfod gyda’r prif swyddogion meddygol cyn datganiad y Prif Weinidog (Boris Johnson).

“Dw i ddim wedi gweld cyngor gan Sage ar hyn, nac yn wir dystiolaeth wyddonol sy’n sail i’r hyn sydd wedi digwydd, o unrhyw ffynhonnell arall.

“Yma yng Nghymru, mae’r dewisiadau rydyn ni’n eu gwneud heddiw wedi mynd drwy’r broses honno.”

O Chwefror 18, fydd dim rhaid dangos pasys Covid i gael mynediad i rai lleoliadau a digwyddiadau, a fydd dim rhaid gwisgo gorchudd wyneb mewn lleoliadau dan do, gan gynnwys clybiau nos, sinemâu, theatrau a neuaddau cyngherddau.

Serch hynny, bydd lleoliadau’n cael gweithredu’r pasys y tu hwnt i hynny os ydyn nhw’n dymuno.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi galw ers cyn y Nadolig am ddileu eu defnydd.

Neithiwr (nos Iau, Chwefror 10), fe alwodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, am amserlen gan “ystyried y datblygiadau cadarnhaol hyn a llwyddiant yr ymgyrch frechu, rhaid i hyn olygu bod ein rhyddid yng Nghymru yn cael ei ddychwelyd yn llawn yn ddi-oed.”

“Mae’r adolygiad COVID diweddaraf a fydd yn cael ei gyhoeddi yfory, a ddylai fod yn newyddion da gyda’r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yng Nghymru wedi gwella’n fawr,” meddai ar Twitter.

“Dylai gweinidogion Llafur nodi amserlen ar gyfer dileu’r cyfyngiadau sy’n weddill yng Nghymru, megis pasbortau brechlyn a masgiau wyneb gorfodol mewn ysgolion.”

Protestwyr oedd yn erbyn cyflwyno pasys mewn theatrau a sinemâu wedi ymgynnull y tu allan i’r Senedd

Yn ôl Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd Plaid Cymru, mae angen cadw “pethau’n gyson yn y gobaith gwirioneddol na fydd angen i ni gymryd cam yn ôl i unrhyw gyfyngiadau pellach yn y dyfodol”.

“Yn y cyfamser, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru nodi’r camau ar gyfer pa feini prawf y mae’n rhaid eu bodloni er mwyn i’r holl gyfyngiadau gael eu codi yng Nghymru,” meddai.

Cafodd pasys Covid eu cyflwyno fis Hydref y llynedd yn dilyn pleidlais ddramatig ar lawr y Senedd, lle methodd y gwrthbleidiau ag atal y Llywodraeth rhag eu cyflwyno wedi i un Aelod Ceidwadol methu â phleidleisio o bell.

‘Diwedd mis Mawrth’

Wrth siarad ar raglen BBC Breakfast fe ddywedodd Vaughan Gething y bydd Llywodraeth Cymru’n edrych tuag at ddiwedd mis Mawrth cyn gwneud newidiadau pellach.

 

“Felly fe fyddwn yn mynd trwy ein proses arferol o edrych ar gyfyngiadau bob tair wythnos ddiwedd Mawrth, lle gallwn fesur ac asesu llwyddiant parhaus y cyfyngiadau rydyn ni’n eu cyhoeddi heddiw,” meddai.

“Byddwn yn edrych ar ein rhaglen frechu a’r gyfradd o achosion er mwyn deall a ydym yn parhau i weld sefydlogrwydd mewn cyfraddau achosion a byddwn wedyn yn cymryd cyngor pellach gan arbenigwyr gwyddonol a’n Prif Swyddog Meddygol.

“Ac ar y pwynt yna, fe all y Llywodraeth ddechrau edrych ar hunanynysu i fod yn gyngor yn hytrach na’n ofyniad.”

Vaughan Gething fydd yn rhoi’r adolygiad tair wythnos gan fod Mark Drakeford yn hunanynysu gyda Covid-19.

Mark Drakeford

Llacio rhai o’r cyfyngiadau sy’n weddill wrth i’r gyfradd achosion ostwng eto yng Nghymru

Fydd dim rhaid dangos pàs Covid ar ôl Chwefror 18, na gwisgo gorchudd wyneb mewn rhai lleoliadau o Chwefror 28