Mae Ysgrifennydd Cyfiawnder Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwadu y bydd Cymru’n dlotach o £1bn erbyn 2024 yn sgil Brexit.

Mae Llywodraeth Cymru’n mynnu bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi torri addewid maniffesto.

Fe wnaeth y sylwadau wrth ymweld â Bae Caerdydd ddoe (dydd Iau, Chwefror 10).

Roedd Cymru’n derbyn tua £375m gan yr Undeb Ewropeaidd ac eleni, fe dderbyniodd £46m fel rhan o’r Gronfa Adnewyddu Gymunedol sy’n rhan o gynllun Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Bues i’n cyfarfod â @WelshGovernment a phartneriaid i drafod sut y byddwn yn rhoi terfyn ar gam-drin y fframwaith hawliau dynol ac yn adfer rhywfaint o synnwyr cyffredin i’n system gyfiawnder,” meddai Dominic Raab ar Twitter.

Er hynny, fe wnaeth e feirniadu nifer o’r lluniau dros y gwefannau cymdeithasol, gan nad oedd gweinidogion Llywodraeth Cymru i’w gweld, gyda dim ond Aelodau Ceidwadol Senedd Cymru ynddyn nhw.

Y llynedd, fe wnaeth gweinidogion y Deyrnas Unedig ailadrodd yr addewid y byddai’r cynllun newydd – y Gronfa Ffyniant a Rennir – yn rhoi “o leiaf yr un swm” i’r gwledydd cartref ag yr oedden nhw’n ei gael gan yr Undeb Ewropeaidd.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dweud eu bod yn gwario yng Nghymru drwy’r Cynllun ‘Codi’r Gwastad’.

“Os ydych chi’n edrych ar yr hyn mae’r Canghellor wedi’i amlinellu, mae’n amlwg ei fod yn arian ychwanegol,” meddai Dominic Raab.

“Mae’r agenda lefelu hwn yn sicrhau y gallwn, ledled Cymru, roi hwb i gyfleoedd, a gwneud hynny ar draws y Deyrnas Unedig.”

Ddechrau’r wythnos, fe ddywedodd Mark Drakeford fod “Llywodraeth y Deyrnas Unedig nawr yn dweud y bydd yn cyfrif tuag at yr arian y byddan nhw yn ei roi i ni, arian sydd gennym eisoes gan yr Undeb Ewropeaidd”.

“Mae’r ddadl honno’n dwyllodrus – dydy’r ddadl y gallwch chi gyfrif arian sydd gennych eisoes tuag at arian maen nhw’n addo y bydden nhw’n ei roi i ni ddim yn disgrifio’n gywir yr hyn sy’n digwydd yma.”