Dywed Hywel Williams, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon, y dylai’r pwerau dros Ystâd y Goron gael eu datganoli i Gymru, fel bod y wlad yn gallu “elwa o’r adnoddau naturiol sydd gennym ni”.

Casgliad o dir ac adnoddau sy’n perthyn i Frenhines Loegr ac sy’n cael ei oruchwylio gan gyrff cyhoeddus penodol yw Ystâd y Goron.

Ers 2016, mae’r Ystâd wedi ei datganoli yn yr Alban, ac mae corff cyhoeddus ar wahân yn rheoli’r tiroedd yn y wlad honno.

Mae dros 10,000 o bobol bellach wedi llofnodi deiseb yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddatganoli’r pwerau i Fae Caerdydd.

Cafodd y ddadl ei chodi yn Nhŷ’r Cyffredin yr wythnos hon, ond wnaeth y Llywodraeth ddim ildio o gwbl ar y mater.

Yn ystod y ddadl honno, nododd Hywel Williams fod yr Alban wedi cael budd ariannol enfawr ers i’r pwerau gael eu datganoli.

Yn ddiweddar, fe wnaeth yr Ystâd yn yr Alban sicrhau £700m drwy fuddsoddiadau ar gyfer prosiectau ynni gwynt ar y môr.

Ymgyrch

“Mae hon yn ymgyrch sydd gennym ni ers tro,” meddai Hywel Williams wrth siarad â golwg360 am yr ymgyrch i ddatganoli’r Ystâd i Gymru.

“Liz Saville-Roberts sydd wedi bod yn mynd ar ôl hyn ddiweddaraf, ac wedi bod yn gofyn cwestiynau.

“Yn amlwg, mae hyn wedi cael ei ddatganoli i’r Alban, fel o’n i’n dweud ddoe yn [Nhŷ’r Cyffredin].

“Ond i mi, mae o jyst yn rheol sylfaenol a dweud y gwir – dylen ni fedru elwa o’r adnoddau naturiol sydd gennym ni.”

Hawlio tir

Dywed Hywel Williams fod Ystâd y Goron wedi bod yn edrych am gyfleoedd i geisio cynyddu gwerth ariannol yr asedau maen nhw’n berchen arnyn nhw, gan gyfeirio at rai achosion yng Ngwynedd lle bu’r Ystâd yn hawlio’u tir mewn ffordd ymwthgar, gan achosi pryderon i bobol leol.

“Ychydig o flynyddoedd yn ôl, fe wnaethon nhw ysgrifennu at lot o fy etholwyr i a dweud eu bod nhw’n datgan a diogelu’u hawl nhw dros unrhyw fwynau sydd o dan eu tir nhw,” meddai.

“Roedd lot o bobol wedi dychryn yn meddwl eu bod nhw am ddod i gloddio yn nhopiau Dyffryn Nantlle ac ati.

“Beth oedden nhw’n ei wneud oedd jyst sicrhau eu hawl cyfreithiol, pe baen nhw mewn canrif yn ffeindio olew yn Nhalysarn neu rywle.

“Ar yr un gwynt, roedd achosion ym Mhen Llŷn lle oedd pobol wedi bod yn gosod angorfeydd eu cychod pleser. Roedd cadwyn drom wedi ei osod ar wely’r môr fel bod pobol yn gallu angori’n ddiogel yno.

“Ond dyma Ystâd y Goron yn dweud: ‘Ni sydd biau gwely’r môr ac rydych chi’n manteisio arno, felly rydyn ni eisiau hyn a hyn o bres gennych chi’.

“Mae’n edrych fel petai o’n fyd creulonach erbyn hyn.”

Y Llywodraeth ddim yn ildio

Yn ystod Cwestiynau Cymru’r wythnos hon, honnodd Simon Hart “nad oedd awydd o gwbl ymysg y cyhoedd” i weld Ystâd y Goron yn cael ei datganoli, ond fe gafodd Ysgrifennydd Cymru ei gywiro yn hynny o beth.

“Rydyn ni wedi dechrau deiseb ac mae o’n tynnu at 10,000 o lofnodion,” meddai Hywel Williams.

“Ar 10,000, mae’n rhaid i’r Llywodraeth ymateb, ac os ydych chi’n cael 100,000, mae’n rhaid iddyn nhw ystyried rhoi dadl.

“Roedd [Simon Hart] yn ceisio dweud bod 10,000 yn cyfri dim byd, a dweud ei fod yn lleiafrif bychan.

“Yn fy ail gwestiwn, fe ofynnais a fyddai o’n addo datganoli Ystâd y Goron, ac fe ddywedodd o ‘Na’, wrth gwrs.”